Dyn wedi'i gyhuddo o fethu datgelu 'cysylltiad personol' tra ar reithgor

Christopher Elias yn cyrraedd Llys Ynadon Abertawe ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a wasanaethodd ar reithgor achos trywanu mewn ysgol wedi ei gyhuddo o fethu â datgelu "cysylltiad personol".
Ymddangosodd Christopher Elias, 45 o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher.
Mae'r cyhuddiad - o ymddwyn mewn ffordd waharddedig wrth wasanaethu ar reithgor - mewn cysylltiad ag achos llys gwreiddiol merch a drywanodd ddau athro a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.
Fe wnaeth yr achos hwnnw ddymchwel ac fe gafwyd achos llys arall yn gynharach eleni.
Cafodd merch yn ei harddegau ddedfryd 15 mlynedd ym mis Ebrill, am geisio llofruddio'r athrawon, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl nad oes modd ei enwi.
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
Fe gafon nhw eu trywanu gan y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, ym mis Ebrill 2024.
Roedd yn rhaid dod â'r achos cyntaf i ben ym mis Hydref 2024 oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd y barnwr fel "afreoleidd-dra mawr yn y rheithgor".
Honnir bod Mr Elias, ar 30 Medi 2024, "yn fwriadol wedi methu â chwblhau holiadur rheithiwr yn iawn, a datgelu bod gennych chi gysylltiad personol â'r ysgol dan sylw yn yr achos a phobl oedd yn ymwneud â'r achos".
Mae Mr Elias wedi'i ryddhau ar fechnïaeth ddiamod ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys ar 28 Awst.