Trywanu ysgol: Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o ddymchwel achos

Christopher Elias yn cyrraedd y llys yn AbertaweFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyhuddiad Christopher Elias mewn perthynas â dymchwel achos llys trywanu Ysgol Dyffryn Aman

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys mewn cysylltiad â chwymp achos merch a drywanodd tri pherson mewn ysgol yn 2024.

Cafodd dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin eu trywanu gan y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd ac nad oes modd ei henwi.

Mae Christopher Elias, 45 oed o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot wedi ei gyhuddo o wrthod ateb cwestiwn yn ymwneud â chymhwyster i wasanaethu ar reithgor.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd fore Llun, ac mae disgwyl iddo ymddangos eto ddiwedd Mehefin.

Mae'r ferch wedi cael dedfryd 15 mlynedd ar ôl cael ei chanfod yn euog o dri chyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn ail achos llys.

Roedd rhaid dod â'r achos cyntaf i ben ym mis Hydref oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd y barnwr fel "afreoleidd-dra mawr yn y rheithgor".

Mae'r cyhuddiad yn erbyn Mr Elias o dan Ddeddf Rheithgorau 1974, sy'n nodi gofynion o ran pwy sy'n gymwys ar gyfer gwasanaeth rheithgor yng Nghymru a Lloegr, ac yn caniatáu i swyddogion llys ofyn cwestiynau i ddarpar reithwyr - i weld os ydynt yn gymwys i fod yn rhan o reithgor neu ddim.

Cafodd Mr Elias ei ryddhau ar fechnïaeth.