Dyn wedi'i gyhuddo o dorri rheolau rheithgor yn achos trywanu ysgol

Cafodd Christopher Elias ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a wasanaethodd ar reithgor achos trywanu mewn ysgol - wnaeth ddymchwel yn ddiweddarach - wedi ei gyhuddo o ymddwyn mewn ffordd waharddedig wrth wasanaethu ar y rheithgor.
Mae mewn cysylltiad ag achos llys gwreiddiol merch a drywanodd ddau athro a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman. Bu achos llys arall yn gynharach eleni.
Ymddangosodd Christopher Elias, 45, Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, lle'r oedd awgrym y byddai'n pledio'n ddieuog.
Honnir bod Mr Elias, ar 30 Medi 2024, "yn fwriadol wedi methu â chwblhau holiadur rheithiwr yn iawn, a datgelu bod gennych chi gysylltiad personol â'r ysgol dan sylw yn yr achos a phobl oedd yn ymwneud â'r achos".
Cafodd cyhuddiad blaenorol o wrthod ateb cwestiwn yn ymwneud â chymhwysedd i wasanaethu ar reithgor ei dynnu'n ôl.
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
Cafodd merch yn ei harddegau ei dedfrydu i 15 mlynedd ym mis Ebrill, am geisio llofruddio'r athrawon, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl - nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran.
Fe gafon nhw eu trywanu gan y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, ym mis Ebrill 2024.
Roedd yn rhaid dod â'r achos cyntaf i ben ym mis Hydref 2024 oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd y barnwr fel "afreoleidd-dra mawr yn y rheithgor".
Caiff y cyhuddiad o reithwyr yn ymgymryd ag ymddygiad gwaharddedig ei ystyried yn rhy ddifrifol i lys ynadon ddelio ag ef ac felly mae'r achos wedi cael ei drosglwyddo i Lys y Goron.
Cafodd Christopher Elias ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.
Mae'r gwrandawiad nesaf i fod i gael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 28 Gorffennaf.