Galw am 'arweiniad clir' ar addysgu darllen mewn ysgolion

Plentyn ifanc yn darllen mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Dylai rhieni "fod yn gandryll" ynghylch safonau darllen plant ifanc yng Nghymru, yn ôl arbenigwr addysg.

Fe wnaeth disgyblion 15 oed Cymru sgorio'n is mewn profion na disgyblion o rannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr ble mae ffoneg synthetig systematig (SSP) - paru llythrennau a seiniau - yn cael ei defnyddio.

Yn ôl Fin Wilson fod "llawer o wahanol fathau o ffoneg" ond dyw athrawon Cymraeg ddim yn cael eu cynghori i ddilyn y rhai "mwyaf effeithiol", fel SSP.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canlyniadau diweddar yn dangos bod safonau'n gwella, a bod yr ysgrifennydd addysg wedi bod yn "glir bod ffoneg yn ganolog i addysgu darllen ac rydym yn disgwyl ei gweld ym mhob ysgol".

Dywed Ms Wilson, cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori addysg Impact Wales, bod athrawon ac ysgolion yn "gweithio mor galed i helpu plant i ddarllen, ond y broblem yw nad yw pob athro yn gwybod y ffordd orau o wneud hynny, a hynny o safbwynt polisi".

"Dydyn nhw ddim yn cael yr arweiniad sydd ei angen arnyn nhw i ddeall sut i'w wneud yn effeithiol," meddai wrth raglen Sunday Supplement.

"Maen nhw'n brysur iawn, iawn, ac mae'n amlwg bod plant yn gweithio'n galed i ddarllen hefyd, ond dydy o ddim yn gweithio."

Dywedodd nad oedd gweinidogion yn "ei gwneud hi'n glir" i athrawon fod SSP yn cael ei ystyried y "math mwyaf effeithiol o ffoneg".

"Y gyfatebiaeth rhwng y llythyren, neu grwpiau o lythrennau, a'r sain maen nhw'n ei chynrychioli, dyna yw darllen ac mae'n rhaid i chi egluro hynny.

"Dim ond yn ddiweddar iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef nad yw dilyn ciwiau wrth edrych ar luniau yn effeithiol.

"Dylai rhieni fod yn gandryll ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd mewn ysgolion ar hyn o bryd o ran darllen."

'Wedi gweld gwelliannau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweld gwelliannau mewn darllen Saesneg a Chymraeg, gyda lefelau cyrhaeddiad yn well" na chanlyniadau rhyngwladol diwethaf Pisa.

"Rydym yn credu bod asesiadau personol, wedi'u teilwra, yn well i bob plentyn ac rydym yn gweithio gydag arbenigwyr a'r proffesiwn i ddatblygu disgwyliadau llythrennedd sy'n gysylltiedig ag oedran," meddai.

"Mae ein cefnogaeth llythrennedd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf ac wedi'i chyd-lunio gydag athrawon, ac arbenigwyr ac ymarferwyr eraill.

"Yn gynharach eleni, fe wnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar ddarllen, dolen allanol gyda chefnogaeth ychwanegol ar gyfer llythrennedd mewn ysgolion."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig