Mwy o gamwybodaeth ar-lein yn trafod gwestai i geiswyr lloches

Roedd amryw o brotestiadau yn erbyn y defnydd o westai i gartrefu ceiswyr lloches yn ystod haf 2025
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau sir yng Nghymru yn profi "cynnydd nodedig" mewn camwybodaeth ar-lein sy'n trafod y defnydd o westai i gartrefu ceiswyr lloches.
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru mae 'na bryder bod cynnydd mewn newyddion ffug a sïon ar-lein ynglŷn â lleoliad posib y gwestai hyn yn achosi "pryder diangen", ac y gallai arwain at "ganlyniadau anfwriadol".
Yn ôl yr Aelod o'r Senedd Siân Gwenllian, mae newyddion ffug tebyg wedi ymddangos am safle posib yn ei hetholaeth hi, ac mae sïon o'r fath yn "beryg".
Yn ôl Llywodraeth y DU mae nifer y gwestai sy'n cael eu defnyddio i gartrefu ceiswyr llocher wedi gostwng o dros 400 yn 2023 i 210 ar hyn o bryd.
3,081 protest ar draws y DU
Dros yr haf eleni mi brofodd lluoedd heddlu'r Deyrnas Unedig fwy o brotestiadau yn erbyn y defnydd o westai i gartrefu ceiswyr lloches nag erioed o'r blaen, gyda 3,081 rhwng dechrau Mehefin a 25 Awst.
Bu rhai o'r protestiadau hyn yng Nghymru.
Ond mae arweinwyr cymunedau hefyd wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C iddyn nhw weld cynnydd mewn newyddion ffug ar-lein, gyda phobl yn lledaenu negeseuon sy'n honni bod gwestai neu adeiladau penodol yn cael eu defnyddio at y diben hwn, lle nad oedd hynny'n wir.
Mae enghreifftiau dros yr haf ar Ynys Môn, Bangor, Merthyr Tudful a mwy, lle mae sïon ar-lein wedi gorfodi awdurdodau lleol i ryddhau datganiadau yn gwrthod honiadau ar wefannau cymdeithasol.

"Mae'n beth peryg iawn i gorddi'r dyfroedd," meddai Siân Gwenllian
Yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, mi wnaeth post ar wefannau cymdeithasol fu'n honni i adeilad ym Mangor gartrefu ceiswyr lloches - lle nad oedd hynny'n wir - arwain at bryderon yn y gymuned, tensiwn a chorddi teimladau.
"Mae'n beth peryg iawn i gorddi'r dyfroedd," meddai.
"Da ni'n ymwybodol iawn bod 'na densiwn yn bodoli.
"Mae 'na rai gwleidyddion yn defnyddio'r sefyllfa yna er mwyn creu tensiynau ac er mwy buddiant gwleidyddol iddyn nhw eu hunain, a dydi hyn ddim yn dderbyniol... da ni'n sôn am bobl fan hyn."
Pan ofynnwyd i Ms Gwenllian a oedd hi'n cydnabod bod gan rai unigolion bryderon am gost cadw ceiswyr lloches mewn gwestai ac am fewnfudo, dywedodd bod "pryderon yn cael eu creu efo camwybodaeth".
'Achosi pryder diangen'
Ategu hyn wnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ddywedodd iddyn nhw weld cynnydd mewn camwybodaeth ar draws siroedd Cymru.
"Rydym yn gweld cynnydd nodedig mewn camwybodaeth yn cael ei ledaenu, yn enwedig ar-lein," meddai llefarydd.
"Mae mynd i'r afael â newyddion ffug yn hollbwysig wrth sicrhau ffydd a sicrhau bod cymunedau yn teimlo cefnogaeth ac yn derbyn y wybodaeth gywir.
"Mae camwybodaeth yn gallu lledaenu'n gyflym ac achosi pryder diangen, ac mewn rhai sefyllfaoedd arwain at ganlyniadau anfwriadol i unigolion a chymunedau."
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn dweud eu bod nhw hefyd wedi gweld cynnydd mewn newyddion ffug a rhethreg ar-lein sy'n destun pryder.

Daeth tua 300 o bobl i brotest yn Yr Wyddgrug fis Awst i wrthwynebu unrhyw gynllun posibl i ddarparu llety i geiswyr lloches yn y dref
Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod 32,059 o geiswyr lloches wedi eu cartrefu mewn gwestai ar draws y Deyrnas Unedig.
Dim ond 76 o'r rheiny oedd yng Nghymru, mewn un gwesty yng Nghaerdydd.
Tra bod y nifer sy'n cael eu cartrefu yma yng Nghymru yn fach o gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae unig aelod Reform UK yn y Senedd, Laura Ann Jones, yn mynnu bod gan bobl bryderon gwirioneddol.
Wrth annerch cynhadledd Reform UK yn Birmingham ddechrau Medi, dywedodd bod gan bobl yr hawl i boeni.
"Mae pobl yn dweud... 'o da chi yng Nghymru – dio ddim yn effeithio chi'... ond mae o," meddai.
"Mae'n effeithio bob un ohonom. Mae'n effeithio'n gwasanaethau cyhoeddus, ein diogelwch ac mae'n effeithio ar bob congl o'r Deyrnas Unedig."
Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw wedi cymryd camau brys i fynd i'r afael â'r mater.
"Rydym wedi dechrau cau gwestai a hefyd dychwelyd mwy na 35,000 o bobl nad oedd â'r hawl i fod yma yn ôl," meddai llefarydd.
"O'r mwy na 400 o westai oedd ar agor yn 2023, gan gostio bron i £9m y diwrnod, mae bellach llai na 210.
"Y bwriad yw cau bob un erbyn diwedd y tymor seneddol."