Atgofion Cymro o frwydro ar D-Day
- Cyhoeddwyd
Mae 6 Mehefin 1944 yn ddiwrnod arwyddocaol yn hanes yr 20fed Ganrif. Ar y dydd hwnnw fe laniodd degau o filoedd o’r cynghreiriaid ar draethau Normandi fel rhan o Operation Neptune, sy’n fwy adnabyddus o dan enw arall, D-Day.
Roedd milwyr o Brydain, Yr Unol Daleithiau, Canada, Yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, De Affrica, Gwlad Groeg a Norwy ymysg y lluoedd a laniodd yng ngogledd Ffrainc. A rhywun a oedd ymhlith y milwyr ac yn cael ei ben-blwydd yn 20 oed y diwrnod hwnnw oedd milwr o Gymru, Mordey Thomas o Abergwaun.
Mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru mae Morys Gruffydd yn cyflwyno hanes ei Wncwl Mordey, ffrind ei dad a gymerodd ran ym Mrwydr D-Day. Siaradodd Morys gyda Mordey ar gyfer prosiect ysgol yng nghanol yr 1980au, ac fe ddaeth o hyd i'r hen gaséts o'r sgyrsiau yn ddiweddar.
Yn siarad am D-Day ar ei ben-blwydd, dywedodd Mordey: “Fe roddodd y wlad y firework display orau y gallwn i weld ar unrhyw ben-blwydd y diwrnod hynny.”
Symudodd Mordey i dde Lloegr er mwyn paratoi gyda'i gartrawd.
“O’n i gyda’r Green Howards, a symudodd nhw ni lawr i Southampton. Amser o’n i lawr yn Southampton odden ni’n gwneud exercises ac o’n i’n gwybod y bydden ni’n cymryd rhan yn y frwydr fwya’ odd y wlad wedi ei weld.
“Weles i’r Brenin, Churchill ac Eisenhower – roedd rhein i gyd wedi dod i weld ni’n gwneud yr exercises ac o’n i’n meddwl ‘wel, mae rhywbeth mawr o’n blaen ni!’
“Cafon ni’n cau fewn yn y camps, ac o'n i ddim yn fod i fynd allan rhag ofn bydde rhywun yn siarad gyda civilians a dweud bod ni’n rhan o’r second front. Amser oddech chi’n hala llythyre gartre oddech chi’n dweud ‘somewhere in Britain’ – do'dd Mam ddim yn gwybod ble o’n i, byswn i wedi gallu bod yn Yr Alban neu yn Llunden neu rhywle..."
- Adran y stori
Pam ddigwyddodd D-Day?
Roedd D-Day yn ymosodiad hynod bwysig a ehangodd y rhyfel ac amgylchynu'r Almaenwyr, yn ôl yr hanesydd Bob Morris:
“Y second front oedd taro’r Almaen o’r gorllewin. Y front cynta’ oedd y front rhwng Rwsia a’r Almaen, ble oedd ‘na dywallt gwaed ofnadwy wedi bod ers 1941. Ond mi roedd Rwsia erbyn hyn yn gwthio’r Almaen yn ôl.
"Ond oedd Stalin wedi bod yn dadla' ers dwy flynedd bod yn rhaid i’r Cynghreiriaid yn y gorllewin lansio cyrch i lanio yn Ffrainc er mwyn cymryd y pwysau oddi ar Rwsia a gwasgu’r Almaen o’r gorllewin... a’r second front oedd yn union hynny."
Roedd Mordey'n gwybod eu bod am adael am Ffrainc yn fuan iawn.
“Roedd 'na filoedd o Sherman Tanks ar y ffyrdd, miloedd o loris ac ambiwlansys
“Wedon nhw ‘right, the invasion is going to take place very shortly. You’re going to be part of it and be one of the very first to land on D-Day.’
“Wedyn odden nhw’n dangos lluniau i ni, o ble odden ni’n mynd i lando. Roedden nhw’n pwyntio ato a dweud ‘there’ll be a white house...’ roedd y llun wedi cael ei dynnu gan yr RAF, ac felly o’n i’n gwbod ble i fynd. A beth oedd job ni oedd i chwthu lan radar station, ac odd tri diwrnod ganddon ni i wneud hyn.
“Dyle bod D-Day di bod ar 5 Mehefin, ond roedd storm y nosweth hynny ac roedd rhaid gohirio fe.”
Felly, beth roedd Mordey'n ei gofio am y diwrnod ei hun?
“Y peth rhyfedda i mi oedd gweld y sianel yn llawn o’r cychod a’r badau ‘ma, y destroyers – roedd ‘na filoedd o rocedi, ac oedd yr awyrennau’n dod mewn wedyn ac fe gollon ni filoedd o soldiwrs, ond fe gymeron ni lot fawr o Almaenwyr fel POWs (carcharorion rhyfel).
“Pan 'nathon ni lando nes i weld y tŷ o’n i wedi gweld yn y ffotograff ac yn gwybod yn gywir ble oedden ni’n mynd, ac mewn tri diwrnod fe 'wython ni’r radar station ‘ma lan.
“Daeth stormydd, a dyle ni fod wedi mynd nôl gytre i Loegr, ond wedon nhw wrthyn ni gario mlaen ac y daw reinforcements a gawn ni fynd nôl."
Agos i gael ei ladd
Dywed Mordey ei fod wedi dod yn agos iawn i gael ei ladd tra roedd yno.
“Pan athon ni fewn i Ffrainc rwy’n credu mai’r agosa’ ddos i i gael fy lladd oedd pan oedden ni’n mynd single file (un ar ôl y llall), a fi oedd y dwetha’. Dwedodd y sarjent mai fe dyle fod dwetha a dyma ni’n newid lle. Dwy eiliad wedyn ‘nes i glywed sŵn ofnadwy ac edrychais yn ôl, ac odd e wedi cael bwled yn ei gefn.
"Os bydde fe ddim wedi newid lle gyda fi, fi fydde wedi ei chael hi – dyna i chi pa mor agos gallech chi fod i’ch diwedd, achos lwc yw popeth.
“Un peth arall rhyfedd weles i oedd tanks y Germans a tanks ni, y Shermans (tanciau'r Americanwyr). Tiger Tanks oedd enw rhai y Germans – roedden nhw lot mwy clou na’r Shermans. O’n i’n gweld nhw yn edrych ar ei gilydd, a nathon nhw saethu yr un pryd, a’r ddou yn cael ei chwythu lan mewn fflamau, gyda pob un yn cael eu lladd yn y ddou.
"Rhedes i at y Sherman i weld os alla i helpu – roedd boi wedi trio dod mas drwy’r turret, ac i gyd o' chi’n gweld odd ei law e’n hangian mas o turret y tank ac oddech chi’n gwybod bod bob un wedi marw ynddo fe, bydde chi byth wedi gallu gwneud dim byd."
“Roedd lot o’r Germans yn rhoi lan," meddai Mordey, "ac o’n i’n eistedd ar y tank yn mynd drwy rhyw ardal lle doedd ‘na ddim cloddie, ond stwce o wellt, weles i German tu ôl i un o rhein, a nath y tank droi ei dryll a rhoi burst ato fe.
"Nath ‘na byti 25 o' nhw'n dod mas a bydde nhw wedi gallu fy lladd i, bob un o nhw, achos dim ond fi oedd tu fas y tank. Casglies i nhw efo’i gilydd a twlu drylle nhw ymhell wrthyn nhw, a o’n i’n sefyll fan ‘na yn aros am rywun i ddod i ni fynd â nhw lawr i’r tra'th achos odden nhw’n POWs nawr. Ffeindies i German arall yn cuddio yn y llwyn o’n i’n sefyll o dan."
“Y trydydd diwrnod rwy’n cofio o’n i ar tank yn mynd lan y ffordd, ac odd car German yn dod amdano ni. Ma’r sarjent yn gweiddi ‘halt’, a dyma’r car yn stopio a’r officer Almaeneg ma’n neidio mas ac yn rhedeg yn ei ôl i gyfeiriad ei trŵps. Gwaeddodd y sarjent arno i stopio rhedeg ond fe gariodd yn ei flân nes cafodd ei saethu – bydde wedi bod lot gwell iddo i aros yn ei unfan ond 'na fe.
“Dalon ni 'mlaen ambyti wythnos yn rhagor, a ges i fy nghymryd yn POW, ac o’n i gyda’r Germans tan 17 Mehefin.”
Dywed Mordey bod yr Almaenwyr wedi tynnu eu careiau o esgidiau’r Prydeinwyr, eu hatal nhw rhag siafio a gwneud iddyn nhw edrych yn hynod flêr, yna tynnu lluniau ohonynt a’u gyrru nôl i’r Almaen gan ddweud “edrychwch golwg sydd ar rhain sydd wedi invado Ffrainc, bydden ni’n maeddu rhain mewn pythefnos”.
Carcharwr Rhyfel yn Yr Almaen
“‘Es i fewn i’r Almaen wedyn, mewn camp mawr ble oedd ‘na miloedd o soldiwrs ac RAF," meddai Mordey.
"O’n i’n gweithio mewn chwarel am rhyw 10 mis, ac odden ni’n clywed drylle yr advancing Americans a Prydeinwyr. Ac o'dd yr Almaenwyr yn dweud ‘Na mae Mr Goebbels yn dweud bo' chi yn Ffrainc’... ond roedden ni ar eu drysau nhw!
“Cafon ni orders gan y guards i fod yn barod i fudo, ac 'nathon ni fartsio am filltiroedd a milltiroedd i rhyw gyfeiriad. 'Nes i a tri bachan arall bant o’r gweddill a dianc.
"Yn y diwedd welon ni Russian tanks, a menywod yn dreifio nhw ac yn dweud ‘you’re free!’... a diwrnod ar ôl 'ny daeth yr officer Americanaidd ‘ma heibio mewn jeep a dweud ‘Jump in boys!’ ac ath e â ni nôl i’r American lines, wedyn athon ni nôl at filwyr Prydain, ac 'nath yr RAF hedfan ni gytre.”
Yn y cyfweliad yn yr 1980au, dywedodd Mordey faint oedd y digwyddiadau wedi dweud ar ei iechyd: “Rwy’n 14 stôn nawr – amser ddos i gytre o’n i llai na chwe stôn.”
'Ymgyrch cwbl allweddol'
Pa mor bwysig oedd digwyddiadau D-Day yn yng nghyd-destun y rhyfel yn ôl yr hanesydd Bob Morris?
“Bydde Hitler a’r Almaenwyr ddim wedi cael eu trechu yng ngorllewin Ewrop, oni bai bod ‘na laniad yn Ffrainc ei hun," dywed Bob Morris.
"Roedd yn rhaid rhyddhau Ffrainc er mwyn ymosod ar Yr Almaen o’r gorllewin, yn union fel yr oedd Rwsia yn ei wneud o’r dwyrain. Roedd o’n ymgyrch gwbl gwbl allweddol."
Treuliodd Mordey ei yrfa yn y byd addysg yn Birmingham, a bu farw yn 2008, yn 83 oed, gan adael gwraig, Gwyneth, a merch o’r enw Janet.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
- Cyhoeddwyd12 Ionawr