Timau Cymreig yr EFL yn llygadu Ewrop trwy Gwpan Cynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r timau Cymreig sy'n chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr yn trafod camau “trawsnewidiol” a fyddai’n eu gweld yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Cwpan Cynghrair Cymru er mwyn cymhwyso ar gyfer pêl-droed Ewropeaidd.
Mae Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd yn chwarae ym mhyramid Lloegr ac felly dim ond trwy'r Uwch Gynghrair, Cwpan FA neu Gwpan yr EFL y gallant gymhwyso ar gyfer cystadlaethau Ewropeaidd.
Mae’r pedwar clwb wedi cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ynglŷn â chystadlu yng Nghwpan Cynghrair Cymru – sy’n cael ei adnabod ar hyn o bryd fel Cwpan Nathaniel MG – er mwyn cael cyfle i gynrychioli Cymru yng Nghyngres UEFA.
Er y byddai’r clybiau’n parhau i chwarae pêl-droed yn Lloegr, byddai’r newid yn golygu na fyddant yn gallu cymhwyso ar gyfer Ewrop trwy gystadlaethau Lloegr, fel y gwnaeth Abertawe pan chwaraeodd nhw yng Nghynghrair Europa ar ôl ennill Cwpan yr EFL yn 2013.
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd24 Medi
- Cyhoeddwyd23 Medi
Mae’r pedwar clwb a Chymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi cyflwyno eu gweledigaeth – Prosiect Cymru – i Uefa, y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair a'r Cymru Premier.
Mewn adroddiad a welwyd gan Adran Chwaraeon BBC Cymru, awgrymir y byddai Prosiect Cymru yn “ysgogi gwelliant ar gyfer holl ecosystem pêl-droed Cymru” ac y “bydd enillion ariannol yn cael eu hailddosbarthu mewn modd sy’n helpu timau llawr gwlad, clybiau domestig Cymreig a gêm y merched”.
Yn ôl adroddiad Prosiect Cymru: “Mae pêl-droed Cymru mewn sefyllfa unigryw o fewn pêl-droed Ewropeaidd gan fod y clybiau mwyaf yn chwarae yng nghynghrair gwlad arall (Lloegr).
“Mae hyn yn hanesyddol wedi cyfyngu ar allu clybiau Cymru i fod yn gystadleuol yng nghystadlaethau clybiau Uefa.
“Mae gan ateb arloesol i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon botensial trawsnewidiol ar gyfer holl ecosystem pêl-droed Cymru o lawr gwlad i gêm broffesiynol dynion a merched,” medd yr adroddiad.