Y Seintiau i chwarae eu gemau Ewropeaidd yn Amwythig
- Cyhoeddwyd
Bydd gemau cartref Y Seintiau Newydd yng Nghyngres UEFA yn cael eu chwarae yn Amwythig.
Bydd y clwb o Groesoswallt yn croesawu Djurgarden, Astana a Panathinaikos ar ôl dod y clwb cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel ydy hi eleni - mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Mae stadiwm y Seintiau - Neuadd y Parc - yn cydymffurfio â rheolau UEFA ar gyfer gemau rhagbrofol, ond nid ar gyfer gemau yn y brif gystadleuaeth.
“Hoffem ddiolch i Amwythig am ganiatáu i ni gynnal y gemau hanesyddol hyn yn y Croud Meadow,” meddai cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris.
“Rydym yn obeithiol y bydd y gymuned yn dod allan yn llawn i gefnogi'r Seintiau wrth i ni wynebu rhai o glybiau mwyaf y cyfandir.
“Bydd bod mor agos at ein cartref yn Neuadd y Parc yn golygu y gall cefnogwyr o Groesoswallt, y canolbarth, a gogledd Cymru deithio i gefnogi'r tîm.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi
- Cyhoeddwyd30 Awst
- Cyhoeddwyd29 Awst