Brand New Ethiopia?: Recordiadau coll clasuron Geraint Jarman

Geraint JarmanFfynhonnell y llun, John Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jarman

  • Cyhoeddwyd

Yn Stiwdio Sain yn 1978, recordiodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau.

Bron i hanner canrif yn ddiweddarach, mae’r recordiadau gwreiddiol wedi cael eu darganfod, ac mae Geraint wedi cael y cyfle i wrando ar draciau clasuron fel Ethiopia Newydd, Paradwys Ffŵl ac O Lisa unwaith eto a hel atgofion ar y rhaglen Tapiau Coll ar BBC Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Albwm Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr, Hen Wlad Fy Nhadau, a gafodd ei recordio yn 1978

'Waw! Diolch!'

Roedd Sain yn recordio ar wyth trac wahanol, ac roedd y cynhyrchydd Barry ‘Archie’ Jones wrth ei fodd yn cael y cyfle i wrando ar draciau unigol Ethiopia Newydd bob yn un: Cat Croxford ar y drymiau, Tich Gwilym ar y gitâr a llais Geraint Jarman yn canu... yn Saesneg?!

Yn annisgwyl, dim ond dau drac llais o eiriau Saesneg oedd ymhlith y tapiau, a dim sôn am y fersiwn Gymraeg adnabyddus.

Geraint oedd â’r ateb pam fod Brand New Ethiopia wedi cael ei recordio:

“O’dd Tich mewn band roedd o’n chwarae efo nhw yng Nghaerdydd ac roedd o isho mwy o ganeuon i’w gwneud mewn set.”

Ffynhonnell y llun, Canolfan Peniarth
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Tich Gwilym - mae ei fersiwn enwog o Mae Hen Wlad Fy Nhadau hefyd ar y recordiadau coll

Roedd y trac Cymraeg ar goll am byth felly... neu oedd o? Roedd Barry wedi troi at dechnoleg AI am help, meddai...

“Dwi ‘di gallu uwchlwytho’r master track sydd ar y CD i’r we, ac o fewn eiliadau mae o wedi gallu torri hwnna fyny i dryms, gitar, keyboard a dy lais di... a ‘da ni ‘di gallu achub vocal Ethiopia Newydd yn Gymraeg!”

Diolch byth am dechnoleg!

'Dwi ddim wedi clywed hon ers ages!''

Ffynhonnell y llun, Bara Menyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint yn y grŵp Bara Menyn gyda Heather Jones a Meic Stevens

Un gân sydd ar y tapiau gwreiddiol, ond oedd ddim ar yr albwm gorffenedig, oedd Mynd i’r Bala Mewn Cwch Banana.

Roedd Geraint wedi rhyddhau’r gân ddechrau’r 1970au gyda'r grŵp Bara Menyn, felly pam ei recordio hi eto, gyda band newydd?

“Mae hanes eitha’ diddorol i’r gân yma,” eglurodd. “Nes i ei sgwennu o yn 1967, ond cân ska oedd hi. A beth wnaeth Meic [Stevens] oedd cymryd y geiriau a’i roi o yn ei fersiwn o oedd yn 12 bar blues.

“Yr unig reswm oedden ni’n ei recordio [yn 1978] oedd achos ein bod ni’n ei gwneud hi’n fyw. Doedden ni ddim yn sicr y byddai hi ar y record.”

Ac yn ôl Geraint, cafodd y penderfyniad ei wneud yn eithaf buan na fyddai’n drac ar yr albwm.

Yn ffodus, mae'r fersiwn ska ar gof a chadw bellach.

Ffynhonnell y llun, Barry 'Archie' Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynhyrchydd Barry 'Archie' Jones, wedi bod yn tyrchu drwy archifau helaeth Sain ar gyfer y gyfres radio Tapiau Coll

'Dwi’n lwcus'

Roedd Geraint Jarman wedi recordio’i albymau unigol mewn stiwdio ar Stacey Road yng Nghaerdydd, felly pam mynd i Sain i recordio o gwbl?

“I fi roedd pethau wedi newid o’r sefyllfa blaenorol... roedd band rŵan,” meddai. “Dyma Huw Jones yn gofyn i ni recordio albwm yn Sain, a dyma fi’n cytuno, achos pan oedden ni’n recordio yn Stacey Road, o’n ni’n recordio’n achlysurol – rhyw ddiwrnod yn fa’na, rhyw weekend.

“Yn Sain, o’dden ni am ei wneud o mewn wythnos, ac o’n i wedi ffeindio bod hynny’n siwtio beth o’n ni’n ei wneud.”

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jarman a (rhai o'r) Cynganeddwyr

Mae Barry Jones yn sylwi fod yna lawer o hwyl i’w glywed ar y recordiadau rhwng aelodau’r band, ac wrth gwrs, llawer o dalent.

Mae Geraint yn cytuno â hyn ac yn dweud ei fod yn teimlo’n ffodus ei fod wedi cael y cyfle i weithio gyda’r fath dalent a chriw o ffrindiau.

“O’n i’n licio’r teimlad o agosatrwydd o fewn y band, a bo' nhw'n cael dweud be' sy'n digwydd, os oedd ganddyn nhw syniadau pendant.

"Ac oedden ni’n gweithio’n gyflym; roedd ‘na fwy o amser i chwarae frizbee wedyn!”

Disgrifiad o’r llun,

Geraint yn perfformio yn Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd