Teithio'r byd i ddysgu mwy am ffermio'r ucheldir

Dan JonesFfynhonnell y llun, Paul Harris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Jones, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, wedi ennill ysgoloriaeth Nuffield

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Sir Conwy yn paratoi i deithio miloedd o filltiroedd er mwyn gweld a oes yna wersi i’w dysgu am sut mae’r ucheldir yn cael ei ffermio mewn rhannau eraill o’r byd.

“Isio sbïo ar ddyfodol y byd defaid ar diroedd uchel Cymru ydw i, a thrio chwilio am gydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd, byd natur a’r effaith 'dan ni yn ei gael ar newid hinsawdd,” meddai Dan Jones.

Mae Dan yn denant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno ers wyth mlynedd.

Ym mis Medi bydd yn cychwyn am Borneo ac yna Taiwan, Japan, Gwlad Pwyl a’r Eidal.

Bydd yn ymweld ag ardal Sarawak yn Borneo ac yn aros gyda theulu amaethyddol er mwyn profi sut maen nhw’n byw o ddydd i ddydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Dan Jones wedi bod yn denant ar fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Llun dywedodd bod ffermio yng Nghymru a Borneo yn wahanol iawn ar yr olwg gyntaf, ond bod gweld systemau eraill o ffermio bob amser yn werthfawr.

“I dd'eud y gwir dydyn nhw ddim yn gwneud llawer o ffermio fel 'da ni yn ei 'neud," meddai.

"Ond isio gweld eu systemau ydw i, a gweld sut mae ffermio wedi datblygu yno.

"Maen nhw dipyn o flynyddoedd tu ôl i ni a rhai ffermwyr yn dal i fod yn hunter gatherers."

Ar gyfer rhan nesaf y daith bydd yn mynd i Batagonia a Chile, ac yna Ffrainc a Thwrci.

Mae Dan Jones, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, wedi ennill ysgoloriaeth Nuffield.

Mae’r elusen wedi ei sefydlu er mwyn rhoi cyfleodd i ffermwyr o Brydain ddysgu am amaethyddiaeth mewn rhannau eraill o’r byd - gan ddefnyddio’r profiad i wella amaethyddiaeth yma.

“Ffermio defaid ar yr ucheldir dwi isio ei 'neud am byth," meddai.

"Ond mae’n fwy na hynny – fel ffermwyr 'dan ni isio cynhyrchu bwyd ond mae’n holl bwysig edrych ar ôl ein cymunedau a’r iaith Gymraeg.

“Sut all ffermwyr yr ucheldir wneud gwahaniaeth ydy’r cwestiwn?

"Helpu byd natur a helpu hefo’r newid yn yr hinsawdd, a chael hyd i gydbwysedd rhwng y cyfan."

Pynciau cysylltiedig