Cyllideb adfer natur 'yn hanner y swm sydd angen'

Corsydd wedi eu hadfer yn ardal Llyn EfyrnwyFfynhonnell y llun, Alex Falkingham
Disgrifiad o’r llun,

Corsydd wedi eu hadfer yn ardal Llyn Efyrnwy

  • Cyhoeddwyd

Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd mae grŵp o elusennau yn galw am fuddsoddi mwy mewn dulliau ffermio sydd yn gyfeillgar i fyd natur.

Yn ôl RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru mae angen buddsoddiad o £594m gan Lywodraeth Cymru er mwyn cwrdd â thargedau newid hinsawdd.

Maen nhw'n rhybuddio y bydd unrhyw oedi yn costio'n ddrud yn y dyfodol wrth i'r argyfwng newid hinsawdd waethygu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i greu dyfodol lle mae modd i ffermwyr gynhyrchu bwyd o'r safon uchaf, tra'n gwarchod yr amgylchedd.

Yn ôl yr elusennau, mae ymchwil economaidd sydd wedi ei gomisiynu ganddyn nhw ac yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, yn dangos fod y gyllideb ar gyfer Cymru yn hanner y cyfanswm sydd angen i gwrdd â thargedau adfer natur a thargedau hinsawdd.

Dyma, medd yr adroddiad, yw'r "asesiad mwyaf cywir hyd yma" o'r buddsoddiad angenrheidiol i ffermwyr allu cyrraedd targedau natur "ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd".

Dywedodd Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru fod gan ffermwyr Cymru "rôl hanfodol wrth adfer natur" a bod yna "uchelgais eang yn y diwydiant i gynhyrchu bwyd a mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd".

Ychwanegodd bod "ffermio gyda natur hefyd yn gwneud synnwyr busnes da gan ei fod yn llai dibynnol ar borthiant a gwrtaith sy’n gynyddol gostus".

Ffynhonnell y llun, Jake Stephen
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai dulliau ffermio mwy cynaliadwy yn fuddiol i rywogaethau fel y gylfinir

Yn sgil cyhoeddi'r adroddiad, mae'r elusennau'n dadlau bod angen i Gynllun Ffermio Cynaliadwy, dolen allanol Llywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol a chael ei ariannu'n deg i wobrwyo ffermwyr am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac ar gyfer delio â newid hinsawdd ac adfer natur.

"Mae hwn yn fuddsoddiad ac nid yn gost," meddai.

Yn ôl Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, "buddsoddiad i ddyfodol cynaliadwy", yn hytrach na chost, fyddai rhoi mwy o arian fel bod ffermwyr yn gallu mabwysiadu dulliau mwy gwyrdd.

Fe fyddai hynny, meddai, "yn helpu i liniaru llifogydd, storio carbon, lleihau llygredd afonydd a chynyddu gwytnwch yn erbyn digwyddiadau hinsawdd eithafol."

Dywedodd Helen Pye, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru bod angen i Lywodraeth Cymru "sicrhau bod amaethyddiaeth yn cael ei gefnogi’n iawn er mwyn pontio tuag at fusnesau ffermio mwy gwydn sy’n gyfeillgar i natur".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i weithio'n gyflym er mwyn cwblhau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy - mae cynnig sicrwydd a sefydlogrwydd o ran dyfodol cymorthdaliadau yn flaenoriaeth.

"Ry'n ni'n gweithio drwy fanylion y cynllun ac mae'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn parhau. Maen nhw wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r sefyllfa ariannol y maen nhw wedi ei etifeddu.

"Gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae'n ffermwyr yn cynhyrchu bwyd o'r safon uchaf, tra'n gwarchod ein hamgylchedd gwerthfawr er mwyn mynd i'r afael a'r argyfyngau hinsawdd a natur."