Eluned Morgan yn gwrthod cefnogi toriadau Datganiad y Gwanwyn

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd
  • Cyhoeddwyd

Mae prif weinidog Cymru wedi gwrthod cefnogi toriadau Llywodraeth y DU a gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor yn gynharach yr wythnos hon.

Wrth gyflwyno tystiolaeth o flaen pwyllgor yn y Senedd ddydd Gwener, dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi am rannu ei safbwyntiau nes ei bod yn gwybod beth fyddai'r effaith ar Gymru.

Fe wnaeth Ms Morgan gadarnhau hefyd ei bod yn dal i aros am ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall, wedi iddi ofyn am effaith y cyhoeddiadau ar Gymru.

Fe ysgrifennodd Morgan at Kendall ar 11 Mawrth. Mae eisoes wedi dweud bod yr oedi yn "siomedig".

Yn Natganiad y Gwanwyn ddydd Mercher fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves nifer o newidiadau i fudd-daliadau gan gynnwys prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth personol (PIP) - y prif fudd-dal anabledd sy'n cael ei hawlio ar hyn o bryd gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru.

Wrth annerch ASau, dywedodd Ms Reeves "nad yw'n iawn diystyru cenhedlaeth gyfan sydd allan o waith ac sy'n camddefnyddio PIPs".

Cadarnhaodd hefyd y bydd credyd cynhwysol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, a oedd eisoes i'w haneru o fis Ebrill 2026 o dan becyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bellach yn cael ei rewi ar lefel is newydd o £50 yr wythnos tan 2030.

Bydd taliadau cysylltiedig ag iechyd hefyd yn cael eu rhewi ar gyfer hawlwyr presennol.

Fe wnaeth asesiad gan yr adran Gwaith a Phensiynau ganfod y bydd 3.2m o deuluoedd ar draws Lloegr a Chymru ar eu colled o ganlyniad i'r newidiadau, gyda 250,000 yn fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi.

'Da cael mwy yn gweithio'

Wrth sôn am bobl yn symud o fudd-daliadau i fyd gwaith, dywedodd Eluned Morgan wrth y pwyllgor ddydd Gwener y "byddai'n dda o beth i gael mwy o bobl yn gweithio yng Nghymru".

"Nid yw'n cyfraddau cyflogaeth hanner cystal â rhai o'r gwledydd eraill, ac rydym wedi gweld gostyngiad, yn enwedig ers y pandemig."

Llyr Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd Morgan yn medru ateb cwestiwn Gruffydd yn y Senedd ddydd Gwener

Pan ofynnodd yr Aelod o'r Senedd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru i Eluned Morgan a oedd hi'n cefnogi'r newidiadau, dywedodd: "Dwi'n dal i geisio deall sut fydd hyn yn effeithio ar Gymru, dwi dal ddim yn glir am yr union effaith ac felly dwi ddim am rannu fy safbwyntiau ar hyn o bryd."

Yna dywedodd Mr Gruffydd fod Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi dweud wrth BBC Cymru ddydd Mercher fod y prif weinidog wedi "croesawu'r" newidiadau.

Roedd Eluned Morgan yn dawel wedi'r sylw hwnnw ac ni wnaeth hi ymateb.

Ar 18 Mawrth, fe ddywedodd y prif weinidog ei bod wedi ysgrifennu at Liz Kendall a'i bod wedi "siarad yn bersonol â Rhif 10" am y newidiadau i'r system fudd-daliadau.

Wedi i Mr Gruffydd holi Ms Morgan i gadarnhau gyda phwy yr oedd wedi siarad, dywedodd: "Rhai o bobl yn Rhif 10, dwi methu cofio eu henwau."

Gyda mwy o bwysau arni, dywedodd: "Dwi'n methu â chofio enwau pob person dwi'n cwrdd am fy mod yn cwrdd â channoedd o bobl bob dydd."

Dywedodd Morgan y byddai'n dod yn ôl i'r pwyllgor gydag enwau'r unigolion y bu'n siarad â nhw yn Downing Street.