Cymru i gynnal rhan o'r Tour De France am y tro cyntaf

Cystadleuwyr y TourFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y trydydd tro i'r Tour de France ddechrau yn y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd un o gymalau y Tour de France yn cael ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2027.

Fe fydd y Tour - ras seiclo enwoca'r byd - yn dechrau yng Nghaeredin ymhen dwy flynedd, tra bod disgwyl i Loegr gynnal rhan o'r ras hefyd.

Dyw'r union leoliadau ddim wedi eu cadarnhau, ond mae disgwyl rhagor o fanylion am y gwahanol gymalau yn yr hydref.

Fe fydd ras y merched - y Tour de France Femmes - hefyd yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf, ond does dim cadarnhad eto a fydd rhan o'r ras honno yng Nghymru.

Tadej PogačarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tadej Pogačar o Slofenia oedd enillydd y Tour de France y llynedd

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Grand Départs - y cymalau cyntaf - yn rasys y dynion a'r merched i gael eu cynnal yn yr un wlad (y tu allan i Ffrainc).

Mae'r ras fel arfer yn dechrau y tu hwnt i ffiniau Ffrainc bob yn ail flwyddyn - gyda'r Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a Sbaen i gyd wedi cynnal y Grand Départs dros y blynyddoedd.

Dyma fydd y trydydd tro i gymal cyntaf ras y dynion gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig - dechreuodd y ras yn Leeds yn 2014, ac yn Llundain yn 2007.

Newyddion 'enfawr'

Yn ôl y sylwebydd seiclo, Peredur ap Gwynedd, mae'r newyddion yn "annisgwyl" ond yn "gyffrous" iawn hefyd.

"Mae fe'n enfawr achos mae'r arian sy'n dod fewn i'r ardaloedd hyn yn enfawr, maen nhw'n dweud bod £130m wedi dod mewn i'r DU yn sgil cynnal y Grand Départs ym Mhrydain yn 2014.

"Bydd miloedd ar filoedd o bobl yn dod yma, ond y ras ei hun yw'r peth pwysig.

"Ma' pobl yn siarad am beth yn union fydd y cwrs, y si mawr yw bod e'n mynd i orffen yng Nghaerdydd wrth gwrs, ma'n rhaid iddo fe fod mewn tref lle mae'r 5,000 o bobl sy'n gweithio ar y Tour de France yn gallu mynd i yn rhwydd.

"Dyw'r bryniau (yng Nghymru) ddim byd i gymharu â'r Pyrenees na'r Alps, ond mae lot o'r rasys undydd chi'n gweld yng Ngwlad Belg yn debyg iawn i'r hyn chi'n gweld ar gyrsiau rasio a reidio yng Nghymru."

Geraint Thomas, Tour de France 2018Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro, Geraint Thomas yn chwifio'r Ddraig Goch ar ôl ennill y Tour de France yn 2018

Un sydd wrth ei fodd â'r newyddion yw'r seiclwr o Gymru - a chyn-enillydd y Tour de France - Geraint Thomas.

Dywedodd iddo glywed ychydig o sïon y llynedd, "ond pan nes i glywed ei fod wedi cael ei gadarnhau a'i fod am ddigwydd, ro'n ni fel 'wow', efallai y gallaf barhau i rasio am ddwy flynedd arall er mwyn ceisio bod yno".

Er ei fod bellach wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gamp, dywedodd fod y ffaith fod y gystadleuaeth yn dod i Gymru yn "enfawr" ac yn "anhygoel i'r gamp yn y DU".

"Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig, does dim angen mynyddoedd hynod o anodd er mwyn mwynhau'r rasio, ac mae gan Gymru ddigon o lonydd anodd".

"Bydd yn gyfle grêt i arddangos Cymru a pha mor brydferth yw'r wlad".

'Profiad cofiadwy'

Dywedodd Christian Prudhomme, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Tour de France ei fod "wrth ei fodd" yn cyhoeddi y bydd y digwyddiad yn dychwelyd i'r DU yn 2027.

"Mae Prydain wastad wedi croesawu'r Tour gyda brwdfrydedd a balchder ac fe fydd y cydweithio ar hyd Lloegr, yr Alban a Chymru yn siŵr o wneud y digwyddiad yma yn fwy arbennig fyth."

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fe dydd cymal Cymreig y Grand Départs yn "brofiad cofiadwy i gystadleuwyr a chefnogwyr".

"Gyda'n tirwedd arbennig, ein cymunedau croesawgar a chynnes a nifer cynyddol o ddilynwyr seiclo - fe fydd Cymru yn sicr o gynnig her a chroeso unigryw.

"Byddwn yn adeiladu ar ein hanes o gynnal digwyddiadau seiclo ffordd er mwyn sicrhau fod y Tour de France yn cael effaith gadarnhaol hir dymor ar y gamp yng Nghymru."

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, mewn datganiad: "Rydw i'n falch iawn i weld un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf.

"Mae cynnal y Tour de France yma yn 2027 yn gyfle arbennig i ddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang."

Pynciau cysylltiedig