Dyn wedi'i gyhuddo o derfysg Caerdydd yn 'teimlo embaras'

car ar dan Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir eu rhoi ar dân yn ystod y terfysg yn Nhrelái, Caerdydd, ym Mai 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o derfysg, yn dilyn marwolaeth dau fachgen mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd yn 2023, wedi dweud wrth y llys ei fod yn teimlo "embaras" ynglŷn â'i ymddygiad.

Roedd Mckenzie Danks, sy'n 22 oed, yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Casnewydd yn achos wyth o bobl sydd wedi'u cyhuddo o derfysg yn Nhrelái ym mis Mai 2023.

Clywodd y rheithgor fod Mr Danks wedi gwrthod symud ar gais yr heddlu.

Wrth gael ei holi am hynny, dywedodd fod ei ymddygiad yn codi cywilydd arno.

"Mae'n achosi embaras," meddai, "ro'n i'n bod yn dwp".

Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, arwain at derfysg yn Nhrelái ym mis Mai 2023

Dywedodd Mr Danks wrth y llys ei fod wedi clywed am y gwrthdrawiad ar ôl dod adref o'i waith, a'i fod wedi mynd yno i weld oherwydd ei fod yn fusneslyd.

Dywedodd ei fod yn adnabod un o'r bechgyn fu farw, Harvey Evans, yn dda a'i fod yn ffrind i'w frawd.

Clywodd y llys fod Mr Danks eisoes wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o ymosod ar blismyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.

Fe welodd y rheithgor fideo o Mr Danks yn cael ei wthio'n ôl gan blismon ac yn syrthio dros feic.

Wrth iddo syrthio, fe gafodd gic i'w wyneb gan berson arall oedd yn syrthio, ac fe wylltiodd Mr Danks a gwthio plismon.

Cafodd ei daro gan faton gan syrthio'n ôl ac mi daflodd Mr Danks ei esgidiau 'slider' at y plismon oedd wedi ei daro.

Mckenzie DanksFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mckenzie Danks ei fod yn teimlo'n "rhwystredig" ar ôl cael ei daro

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr, eglurodd Mr Danks ei fod yn meddwl mai plismon oedd wedi ei gicio yn ei wyneb.

"Ro'n i'n teimlo'n rhwystredig am gael fy ngwthio dros feic a fy nghicio yn fy ngwyneb," meddai.

Fe welodd y rheithgor lun o anafiadau i wyneb Mr Danks, ar ôl iddo syrthio.

"Pam defnyddioch chi drais y diwrnod hwnnw?" holodd ei fargyfreithiwr, Hannah Friedman.

"Ro'n i'n rhwystredig ar ôl cael fy nharo," atebodd.

"A wnaethoch chi helpu neu annog unrhywun arall i ymddwyn yn dreisgar?"

"Naddo", meddai.

Clywodd y gwrandawiad iddo fynd adref a dychwelyd yn hwyrach, ond mynnodd mai dim ond i wylio'r terfysg.

Yn gynharach y noson honno, dywedodd Mr Danks wrth yr heddlu ei fod yn ceisio dychwelyd i dŷ ei chwaer, oedd yn byw gerllaw.

Roedd hefyd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn byw gerllaw - er mwyn osgoi cael ei wthio nôl.

"Fe ddywedoch chi gelwydd, yn do?" meddai'r erlynydd Matthew Cobbe.

"Roeddech chi eisiau herio ac achosi trafferth i'r heddlu."

"Nac oeddwn", atebodd.

"Oeddech chi'n mwynhau'r ffaith fod trwbl yn cyniwair?" holodd.

"Nac oeddwn", atebodd.

Zayne FarrugiaFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Zayne Farrugia ei fod yn difaru ei ymddygiad

Clywodd y gwrandawiad gan ddiffynnydd arall, Zayne Farrugia, sy'n 25 ac yn dod o Gaerau.

Dywedodd wrth y llys ei fod yn credu bod yr heddlu ar fai am farwolaeth Harvey Evans a Kyrees Sullivan.

Fe welodd y llys ddelweddau ohono'n taflu cerrig at yr heddlu.

"Ro'n i'n grac ac yn emosiynol", meddai, "oherwydd beth ddigwyddodd i'r bechgyn."

Ond, dywedodd iddo gerdded i ffwrdd, am ei fod yn ofni y byddai'r sefyllfa'n gwaethygu ac nad oedd eisiau bod â rhan yn hynny.

"Fyddai teuluoedd y bechgyn ddim eisiau hynny."

Dywedodd ei fod yn difaru'r hyn a wnaeth ac yn teimlo cywilydd.

Mae Lee Robinson, McKenzie Danks, Michaela Gonzales, Zayne Farrugia, Jordan Bratcher, Jaydon Baston, Connor O'Sullivan a Luke Williams, i gyd o Gaerdydd, yn gwadu'r cyhuddiad o derfysg ac mae'r achos yn parhau.