Alun Wyn Jones yn dysgu Cymraeg er mwyn 'nabod fy ngwreiddiau'

Steffan Rhodri ac Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Alun Wyn Jones [ar y dde gyda Steffan Rhodri] wraig a thair merch sy'n siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gapten rygbi Cymru a'r Llewod wedi dweud ei fod yn dysgu Cymraeg, er mwyn "nabod fy ngwreiddiau a pherthyn i fy ngwlad".

Dywedodd Alun Wyn Jones ar raglen S4C, Iaith ar Daith, fod ei anallu i siarad Cymraeg wrth deithio'r byd, yn "rhywbeth nad ydw i'n falch ohono".

Chwaraeodd Jones, o Abertawe, 158 o weithiau i Gymru, a 12 i'r Llewod, fe felly yw'r chwaraewr rygbi sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau erioed.

Bellach gyda gwraig a thair merch sy'n siarad Cymraeg adref, "dwi angen gwybod beth sy'n mynd ymlaen", meddai Jones.

Alun Wyn Jones, Cymru, yn ystod gêm Efydd Awstralia v Cymru yng nghwpan Rygbi'r Byd yn Auckland, Seland Newydd ar 21 Hydref 2011.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones sydd â'r nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol erioed, gyda 170

Yn y rhaglen, mae Jones a'r actor Steffan Rhodri yn teithio o gwmpas Cymru, yn ymweld â llefydd ac adegau sydd wedi siapio eu bywydau.

Un o'r llefydd yma ydy Dinas Mawddwy ac maen nhw'n ymweld â Wern Ddu yno - cartref teuluol ochr mam Alun Wyn Jones.

Maen nhw hefyd yn mynd i Glwb Rygbi Bôn-y-maen a Choleg Llanymddyfri, lle bu'n astudio Lefel A ar ysgoloriaeth rygbi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.