Cadeirlan Bangor yn gohirio gwariant newydd yn sgil honiadau ymddygiad

Cadeirlan Bangor
  • Cyhoeddwyd

Mae Eglwys Gadeiriol Bangor wedi cadarnhau ei bod yn "gohirio unrhyw ymrwymiadau ariannol newydd".

Daw'r dataganiad ar ôl cyhoeddi crynodebau dau adolygiad ddechrau mis Mai oedd yn amlinellu gwendidau diogelu a rheoli arian yn y gadeirlan.

Wrth ymateb dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, fod y canfyddiadau "yn anodd eu clywed" ond bod rhaid delio â nhw "er mwyn symud ymlaen gyda didwylledd".

Ymddiheurodd Andrew John yn ddiweddarach i "unrhyw aelodau o gymuned y gadeirlan sydd wedi cael eu brifo, neu sy'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr".

Dyled o gannoedd o filoedd

Daw'r cyhoeddiad diweddaraf am rewi gwariant wedi iddi ddod i'r amlwg bod dyled gan y gadeirlan i Esgobaeth Bangor, sydd yn elusen ar wahân.

Dywedodd ffynonellau sydd â chysylltiad â'r gadeirlan wrth raglen Newyddion S4C bod y ddyled honno yn gannoedd o filoedd o bunnoedd.

Mae honiadau bod dros £418,000 wedi ei wario ar gelfi newydd i'r gadeirlan, wedi ei ariannu yn rhannol gan yr esgobaeth, ac i "tua £20,000" gael ei wario ar dair taith tramor - dwy i Rufain ac un i Ddulyn.

Er mai staff y gadeirlan oedd yn rhan o'r teithiau gan fwyaf, mae honiadau i'r esgobaeth ysgwyddo'r gost.

Yn ôl un o'r cwynion a wnaed i'r Comisiwn Elusennau, roedd "yr ail ymweliad â Rhufain yn benodol, yn nodweddiadol foethus".

"Roedd yn cynnwys aros dros nos mewn gwesty Radisson ym maes awyr Manceinion cyn hediad cynnar yn y bore, yna gwestai pedair seren yn Rhufain, ciniawau a thacsis drwy gydol y daith.

"Wnaeth y rhan fwyaf o'r rhai aeth, ar yr ail a'r trydydd trip, ddim cyfrannu at y gost."

Mae llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor wedi cydnabod nad oedd ymgynghoriad na gwybodaeth ddigonol am y gwariant ar gelfi.

O ran y teithiau tramor, fe ddywedodd y llefarydd bod yr arian wedi dod o gronfa'r esgobaeth yn hytrach na'r gadeirlan, a bod y Deon a'r Cabidwl wedi cytuno i ad-dalu'r hyn a wariwyd gan yr esgobaeth, lle dylen nhw fod wedi ysgwyddo'r gost.

Yn ogystal, medden nhw, maen nhw wedi comisiynu cyngor gan yr Eglwys yng Nghymru yn ganolog, i'w helpu i gywiro rhai problemau gyda chadw cofnodion ariannol.

Gwariant newydd wedi ei ohirio

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran y gadeirlan hefyd i "adolygiad annibynnol" o gyfrifon y gadeirlan gael ei gynnal y llynedd, ond na chanfuwyd unrhyw anghysonderau.

Mae disgwyl i'r ddyled i'r esgobaeth gael ei had-dalu'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd bod gwariant newydd wedi ei ohirio tan fod Cabidwl - y corff sy'n goruchwylio sut mae'r gadeirlan yn cael ei rheoli - wedi "edrych eto ar ein cyllideb flynyddol a phrosesau ariannol eraill" ond eu bod nhw'n bwrw ati gyda'r broses o benodi Deon newydd.

Dywedwyd hefyd na fyddai hyn yn effeithio ar "addoliad a gweinidogaeth brysur yr eglwys gadeiriol".

Pynciau cysylltiedig