Anrhydedd fwyaf llyfrau plant yng Nghymru i Bethan Gwanas
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdures boblogaidd Bethan Gwanas wedi mynegi ei "sioc" o glywed mai hi fydd yn derbyn Gwobr Mary Vaughan Jones ar gyfer 2024.
Dyma'r anrhydedd fwyaf yn y maes llyfrau plant yng Nghymru, ac mae'n cael ei rhoi unwaith bob tair blynedd er cof am yr awdures a fu farw yn 1983.
Dywedodd Cyngor Llyfrau fod y wobr eleni yn mynd i Ms Gwanas "i ddathlu ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc".
Mae'r awdures o'r Brithdir ger Dolgellau eisoes wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ddwywaith ac wedi cyhoeddi 51 o lyfrau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion iaith gyntaf a dysgwyr.
Bydd dathliad arbennig ym mis Tachwedd er mwyn cyflwyno'r wobr iddi "yng nghwmni teulu a chyfeillion o'r byd llyfrau a thu hwnt".
'Dwi wedi dotio'
Dywedodd Ms Gwanas ei bod wedi cael "andros o sioc" pan ddaeth i wybod am yr anrhydedd.
"Ro’n i mewn pwyllgor ac yn sydyn, mi gerddodd pwysigion y Cyngor Llyfrau i mewn - 'Bethan, roeddet ti’n meddwl dy fod ti yma i bwyllgora, ond...'
"Roedd o’n teimlo fel croes rhwng This Is Your Life a’r Brodyr Bach.
"Fy ymateb cyntaf oedd, 'Be sy haru chi?’ ond wedyn dyma sylweddoli 'Na, dwi’n haeddu hyn!'
"Wedi oes o wasanaeth, mae rhai'n cael cloc. Dwi’n cael Tlws Coffa Mary Vaughan Jones! A do, dwi wedi dotio, ac yn diolch o waelod calon am yr anrhydedd.
"Mae'n golygu'r byd i mi."
- Cyhoeddwyd3 Medi
- Cyhoeddwyd21 Medi
Dywed y Cyngor Llyfrau fod Ms Gwanas "wedi gwneud cyfraniad eang a gwerthfawr i lenyddiaeth plant a phobl ifanc ac mae ei straeon yn aml yn cynnwys cymeriadau benywaidd cryf a phenderfynol".
Mae nifer o'i llyfrau "bellach yn glasuron llenyddol i blant a phobl ifanc", gan gynnwys Ceri Grafu, Gwylliaid, Pen Dafad, cyfres Cadi ar gyfer darllenwyr iau a Llinyn Trôns, a enillodd ei Gwobr Tir na n-Og gyntaf, yn 2001.
Yn ôl Helgard Kause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, mae ei chyfraniad i'r maes llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru "yn eithriadol" ac mae'r wobr yn cydnabod "ei chyflawniadau niferus yn y maes hwn".
Ychwanegodd ei bod hi hefyd "yn angerddol am hyrwyddo darllen a llyfrau Cymraeg, ac mae hi'n gweithio'n ddiflino gydag ysgolion a llyfrgelloedd, ac ar-lein, i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddarllen".
"Llongyfarchiadau mawr i chi, Bethan, ar y wobr haeddiannol hon," meddai.