Ysgol Dyffryn Aman: Merch, 14, 'wedi dangos cyllell' i'w ffrindiau
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio.
Mae llys wedi clywed bod merch 14 oed wedi dweud wrth ei ffrindiau ei bod am ymosod ar ei hathrawes yn Ysgol Dyffryn Aman, ychydig funudau cyn i ddwy athrawes a disgybl gael eu trywanu.
Ym mis Ebrill 2024, cafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl eu hanafu gan ferch 14 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol.
Mae'r diffynnydd wedi cyfaddef trywanu'r dair ond yn gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio.
Ddydd Mercher, fe glywodd y rheithgor gyfweliadau gafodd eu cynnal gan yr heddlu gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Aman.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl un disgybl, fe ddywedodd y diffynnydd ei bod am "drywanu Ms Elias" y bore hwnnw.
"Doeddwn i ddim yn ei chredu hi, tan iddi ddangos rhan o'r gyllell oedd yn ei phoced," meddai'r disgybl.
Ychwanegodd: "Mae hi o hyd yn dweud pethau ni ddim yn credu."
Esboniodd y disgybl, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, fod Ms Elias a'r diffynnydd yn siarad yn neuadd isa'r ysgol, lle nad oedd caniatâd i'r ferch fod yno.
Dywedodd fod y diffynnydd wedi "newid yn gyfan gwbl" wedi iddi siarad gyda'i hathrawes.
"Roedd hi'n chwerthin ar Ms Elias, roedd hi'n gallu gweld ei bod hi ei hofn hi", meddai.
Clywodd y llys i'r ysgol fynd dan glo wedi'r ymosodiadau.
Esboniodd disgybl arall iddi weld y diffynnydd ar fore'r ymosodiadau ac iddi ddweud ei bod "am wneud rhywbeth twp, fyddai'n arwain at gael ei diarddel", gan gyferirio at Fiona Elias.
"Roeddwn i'n meddwl bod hi'n mynd i slapio hi neu rhywbeth" meddai.
"Doedden ni ddim yn meddwl y byddai'n rhywbeth mor ddifrifol."
Disgrifiodd y disgybl yr ymosodiadau ar iard yr ysgol gan ddweud bod "llawer o sgrechian".
Clywodd y rheithgor i'r diffynnydd ddweud "dyma'r tro olaf chi'n mynd i fy ngweld i am amser hir" wrth ddangos cyllell i'w ffrindiau.
'Roedd hi'n berson gwbl wahanol'
Yn ôl un disgybl, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wnaeth ymbellhau o'r diffynnydd: "Wnes i feddwl, ydy hyn yn jôc? Beth mae'n mynd i wneud?"
Ychwanegodd bod ymddygiad y ferch 14 oed wedi "newid" ar ôl iddi weld Fiona Elias y bore hwnnw yn neuadd isa'r ysgol.
"Roedd ei llygaid yn wag tra'n syllu ar Ms Elias - oedd hi'n berson gwbl wahanol," meddai.
Esboniodd iddo deimlo'n "bryderus" wrth adael y neuadd i gyrraedd ei wers.
Clywodd y rheithgor i'r disgybl ddysgu beth ddigwyddodd wrth iddo gyrraedd ei wers.
"Nes i sylwi s*** wnaeth [y ferch] drywanu Ms Elias."
Wrth wrando ar gyfweliad disgybl arall gyda'r heddlu, clywodd y rheithgor i'r diffynnydd ddweud wrth ei ffrind ei bod hi "eisiau lladd Ms Elias" mewn gwers ddrama a'i bod hi'n "swnio'n eithaf difrifol".
Ychwanegodd i'r diffynnydd ddweud "mae gan fy nhad arfau", wythnos cyn yr ymosodiadau.
Yn ôl disgybl arall roedd y disgybl a gafodd ei thrywanu wedi "slapio" y diffynnydd rhyw fis cyn yr ymosodiad ar iard yr ysgol.
Dywedodd fod y slap "yn edrych yn eithaf caled".
Y gyllell yn eiddo i dad y ferch
Clywodd y llys hefyd gan dad y diffynnydd, oedd yn gyfrifol am wneud yn siŵr nad oedd yna unrhyw arf ym mag ysgol ei ferch wedi digwyddiad yn yr ysgol ym mis Medi 2023.
Dywedodd y tad mai ef oedd biau'r gyllell gafodd ei defnyddio gan ei ferch i drywanu'r ddwy athrawes a disgybl.
Esboniodd y tad i'r rheithgor na welodd ei ferch ar fore 24 Ebrill cyn iddi fynd i'r ysgol, ac nad oedd felly wedi edrych yn ei bag.
Cafodd y gyllell ei dangos i'r rheithgor a dywedodd y tad fod y gyllell yn rhan o'i offer pysgota.
Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr y diffynnydd, Caroline Rees KC, esboniodd y dyn na ellir ei enwi, i'w ferch gael ei bwlio ac ar adegau iddi ddychwelyd adref "wedi ei dychryn".
Clywodd y rheithgor bod y diffynnydd wedi hunan niweidio yn y gorffennol a'i bod yn "isel a'n ynysu ei hun" ar brydiau.
'Ti'n ddiogel, ond dwi angen y gyllell'
Yn ddiweddarach fe glywodd y rheithgor ddatganiad gan bennaeth Ysgol Dyffryn Aman, James Durbridge.
Esboniodd iddo gael galwad ffôn gan Fiona Elias ar y bore dan sylw yn dweud bod disgybl wedi ei thrywanu.
Clywodd y llys iddo ddechrau system "code red" i roi'r ysgol dan glo.
"Wnes i edrych arni [y ferch] yn ei llygaid, a bydden i'n disgrifio'i edrychiad fel gwag," meddai.
"Dywedais wrthi 'ti'n ddiogel, ond dwi angen y gyllell'."
Yn ôl Mr Durbridge fe gydiodd yng ngarddwrn y diffynnydd a thynnu'r gyllell oddi arni.
Yn ôl datganiad dirprwy bennaeth yr ysgol Ceri Myers, a gafodd ei ddarllen i'r llys, roedd y ferch yn "ddi-ymateb" wrth iddi eistedd yn ei swyddfa wedi'r digwyddiad.
Dywedodd Mr Myers fod swyddogion heddlu wedi gofyn a oedd unrhyw beth yn ei cheg.
Yn ôl yr athro, atebodd y diffynnydd: "Os oedd gen i rywbeth yn fy ngheg fydden i wedi ei ddefnyddio i ladd fy hun erbyn nawr."
Mae'r achos yn parhau.