Sul y Cofio: Ymdrech diflino meddygon y Rhyfel Mawr
- Cyhoeddwyd
O’r 280,000 o ddynion Cymru a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf collodd 40,000 ohonynt eu bywydau.
Fel rheol, mae digwyddiadau Sul y Cofio yn tueddu i ganolbwyntio ar ymdrechion milwyr ac mae'n hawdd anghofio cyfraniad clodwiw'r rheiny a oedd yn gofalu amdanynt mewn ysbytai ac ar faes y gad.
I nodi Sul y Cofio, yr hanesydd Elin Tomos sy’n bwrw golwg ar brofiadau amrywiol meddygon a nyrsys o Gymru yn ystod y Rhyfel Mawr.
Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin (Royal Army Medical Corps) oedd yn bennaf gyfrifol am ofal meddygol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Pe bai milwr yn cael ei anafu neu’n dioddef o salwch, cyfrifoldeb y RAMC oedd ei drin a'i symud cyn gynted â bod modd.
Ymunodd Dr Ludwig Tusker o Gaernarfon â’r RAMC ym mis Awst 1914.
Mewn llythyr adref at ei rieni ym mis Medi’r flwyddyn honno, eglurodd nad oedd ganddo’r geiriau i ddisgrifio’r hyn yr oedd wedi’i brofi yn Ffrainc:
‘Rhyfel – ni all yr un ysgrifbin… byth dyn[n]u darlun cywir [ohono]’.
Y noson yr ysgrifennodd y llythyr roedd Ludwig wedi ‘gweithio hyd hanner awr wedi dau y bore yn gweinyddu ar 250 o glwyfedigion.’
Llwyddodd i gysgu am ddwy awr cyn y cyrhaeddodd dros bedwar cant o filwyr eraill wedi’u hanafu.
Bu’n trin clwyfedigion trwy gydol y rhyfel ac ym Mehefin 1918 enillodd y Groes Filwrol am ei ymdrechion.
Wedi iddo ymuno â’r Fyddin Diriogaethol ym 1912 penodwyd Dr John Morris – brodor o Lansilin – yn Brif Swyddog Meddygol 6ed Bataliwn Catrawd Swydd Gaer.
Cafodd ei anfon i Ffrainc ym mis Tachwedd 1914 lle bu’n gwasanaethu am bron i bedair blynedd.
Ychydig dros fis cyn diwedd y rhyfel, ar 7 Hydref 1918, lladdwyd John tra’r oedd ar ymweliad â gorsaf gymorth gatrodol.
Rhagfarnau benywaidd
Yn sgil rhagfarnau ynghylch rôl y ferch mewn cymdeithas, roedd y Llywodraeth yn daer yn erbyn caniatáu meddygon benywaidd i wasanaethu.
Ar ôl i Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin wrthod ei chynnig i ffurfio uned feddygol fenywaidd, penderfynodd Dr Elsie Inglis sefydlu The Scottish Women's Hospitals (SWH).
Ar 8 Rhagfyr 1914 derbyniodd Dr Mary ‘Eppynt’ Phillips – o Ferthyr Cynog ger Aberhonddu – delegram oddi wrth y SWH yn gofyn iddi fynd i’w hysbyty yn Calais ar unwaith.
Yn ystod y rhyfel treuliodd Mary gyfnodau yn gweithio mewn ysbytai yn Ffrainc, Serbia, Corsica a Llundain.
Roedd Mary yn siaradwraig gyhoeddus penigamp a phan fu’n rhaid iddi ddychwelyd adref am gyfnodau yn sgil salwch treuliodd ei hamser yn teithio o amgylch Cymru a Lloegr yn siarad am ei phrofiadau’n gwasanaethu dramor er mwyn codi arian i’r SWH.
Wrth i nifer y clwyfedigion gynyddu bu’n rhaid i’r Swyddfa Ryfel newid ei safiad o safbwynt merched fel meddygon.
Ym 1916, dechreuodd y fyddin Brydeinig ganiatáu i feddygon benywaidd cymwys wasanaethu gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin y tu ôl i’r rheng flaen.
Roedd Dr Katherine Rosebery Drinkwater – meddyg benywaidd cyntaf Wrecsam – ymhlith y cyntaf i wirfoddoli i wasanaethu.
Roedd Katherine ers dechrau'r rhyfel wedi bod yn annerch mewn ralïau recriwtio ac yn hyfforddi nyrsys a swyddogion cymorth cyntaf yn y ddinas.
O 1916 ymlaen bu yng ngofal ysbyty yn Valletta, ar ynys Malta.
Ar drothwy’r rhyfel ym 1913, roedd Gertrude Madley o Lanelli wedi dechrau cwrs nyrsio tair blynedd yn Ysbyty Cyffredinol ac Ysbyty Llygaid Abertawe.
Yn fuan wedi cymhwyso, ym mis Medi 1916, ymunodd â Gwarchodfa Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra a bu’n gwasanaethu yn Ffrainc a Malta.
Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd byd treuliodd Gertrude gyfnodau yn byw yn yr Unol Daleithiau ac yna yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd fel Prif Nyrs gyda’r Groes Goch Americanaidd.
Carfan arall o ferched fu’n gofalu am filwyr yn ystod y rhyfel oedd gwirfoddolwyr Y Groes Goch. Ar drothwy'r Rhyfel Mawr roedd dros 6,000 o ferched yn perthyn i'r Groes Goch Brydeinig.
Yn eu plith Margaret Mary Evans – neu Maggie – o Bwllheli.
Bu Maggie yn gwirfoddoli rhan-amser gyda’r Voluntary Aid Detachment neu’r VAD tan 1917 pan gafodd ei galw i wasanaethu yn Ysbyty Porthmadog cyn symud ymlaen i Ysbyty’r Llynges Frenhinol yn Plymouth ym 1918.
Ar 20 Gorffennaf y flwyddyn honno bu farw’n sydyn ‘wedi dim ond ychydig ddyddiau o waeledd.’
Ym mhapur newydd Y Dinesydd Cymreig argraffwyd disgrifiad o’i harch yn cyrraedd yn ôl i Bwllheli: ‘yr oedd wedi ei [g]orchuddio gyda’r Union Jack ac amryw o blethdorchau hardd. Yn dilyn yr arch yr oedd cwmni o gyd-aelodau Miss Evans o’r V.A.D.’
Eleni, wrth syllu ar y rhestrau maith o enwau sydd wedi’u naddu ar gofebion rhyfel ein trefi a'n pentrefi mae’n werth cofio y gallai'r nifer wedi bod yn llawer uwch oni bai am ymdrechion gweithwyr meddygol galluog a diflino.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019