Cynnwys rhan o Wynedd mewn parc cenedlaethol yn 'risg i'r iaith'

O dan y cynlluniau presennol mi fyddai cymuned Llandderfel, ger Y Bala, yn dod yn ran o Barc Cenedlaethol Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai cynnwys rhan o ardal Penllyn o fewn parc cenedlaethol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru fod yn "risg" i'r Gymraeg yn un o'i chadarnleoedd.
Yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, byddai Parc Cenedlaethol Glyndŵr yn ymestyn o'r arfordir ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, hyd at Sir y Fflint, Wrecsam a gogledd Powys.
Ond byddai hefyd yn cynnwys cymuned Llandderfel ger Y Bala o fewn ei ffiniau, ac mae pryderon gan Gyngor Gwynedd y byddai'r corff newydd yn "gwanhau'r ffocws ar ystyriaethau Cymraeg mewn cynllunio a pholisi".
Os caiff y parc cenedlaethol newydd ei fabwysiadu, mae disgwyl y byddai'r gwaith o greu polisi a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn symud i fod yn gyfrifoldeb i'r parc cenedlaethol newydd, yn hytrach na chynghorau.
Ond gyda tua 65% o bobl Llandderfel yn medru'r Gymraeg, mae rhai yn cwestiynu faint o sylw fyddai'n cael ei roi i'r iaith gan fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn llawer is mewn rhannau eraill o'r parc arfaethedig.
Mewn ymateb dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod asesiad effaith wedi dangos na fyddai dynodi parc cenedlaethol newydd "yn debygol o gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg".
'Gwanhau'r ffocws ar ystyriaethau Cymraeg'
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod eu hymateb i'r ymgynghoriad mewn cyfarfod o'r cabinet brynhawn Mawrth.
Ond mae'r ymateb drafft yn nodi sawl gwrthwynebiad i'r cynnig, yn bennaf dros yr effaith posib ar y Gymraeg, ond hefyd yn cwestiynu llywodraethant y parc newydd a sut y byddai'n cael ei gyllido.

Mae rhan fach o Wynedd wedi ei gynnwys o fewn y cynlluniau ar gyfer parc cenedlaethol newydd, sy'n cynnwys cymuned Llandderfel
Mae'r ymateb yn nodi bod y rhan fach o Wynedd sy'n cael ei gynnwys o fewn ffiniau'r parc yn cael ei gydnabod fel "un o gadarnleoedd y Gymraeg".
Ond fe allai ymgorffori'r cymunedau hyn mewn awdurdod cynllunio lleol newydd "sy'n cynnwys sawl awdurdod unedol - llawer ohonynt â lefelau is o ddefnydd y Gymraeg" ddod â pherygl o "wanhau'r ffocws ar ystyriaethau Cymraeg mewn cynllunio a pholisi", meddai.
Gallai hyn, medd Cyngor Gwynedd, "gael effaith negyddol ar statws yr iaith a'r defnydd bob dydd mewn ardal lle mae'n ffynnu ar hyn o bryd".
Mae'n ychwanegu nad yw'r cyngor o'r farn "bod modd lliniaru'r effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg".

Mae'n bosib y bydd ardaloedd fel Dyffryn Clwyd yn rhan o barc cenedlaethol newydd yn y dyfodol
Parc Glyndŵr fyddai'r pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru, a'r cyntaf i'w sefydlu ers 1957.
Ond nid Gwynedd ydy'r awdurdod cyntaf i ddatgan pryder dros y mesurau.
Mewn cyfarfod yn gynharach eleni fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych wrthod cefnogi sefydlu parc o'r fath, fyddai'n cynnwys 46% o dirwedd y sir ac 13% o'i phoblogaeth.
Yn hytrach, penderfyniad cynghorwyr oedd aros tan ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 gan obeithio am fwy o sicrwydd dros gyllido corff newydd o'r fath.
'Dim trin y Gymraeg yn llai ffafriol'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael cais i wneud sylw.
Ond yn ymateb i bryderon Cyngor Gwynedd dywedodd CNC: "Rydym wedi cynnal asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg sy'n datgan na fydd dynodi Parc Cenedlaethol newydd yn debygol o gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg, na thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg."
Gyda Chyngor Gwynedd hefyd wedi nodi bod gwaith ymchwil yn dangos fod prisiau tai yn gallu codi hyd at 25% o fewn parciau cenedlaethol, ychwanegodd CNC fod hyn yn ffactor a fydd yn derbyn ystyriaeth:
"Mae'r adroddiad yn cytuno bod prisiau tai cyfartalog o fewn ffiniau'r parc cenedlaethol yn gyffredinol yn uwch nag ardaloedd cyfagos ac yn adnabod y gall arwain tuag at gynnydd posibl mewn galw am dai â chyflenwad cyfyngedig.
"Ond mae'r adroddiad yn nodi y gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol weithredu polisïau i gyfyngu ar brisiau tai ac mae'n tynnu sylw at bolisi CDLl Parc Cenedlaethol Eryri o flaenoriaethu tai ar gyfer cymunedau lleol, gyda datblygiadau newydd fel arfer yn gyfyngedig i dai ar raddfa fach neu fforddiadwy i drigolion lleol."
Bydd yr ymgynghoriad statudol ar sefydlu parc cenedlaethol newydd yn cau ar 8 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
