Beth yw blaenoriaethau'r gwrthbleidiau i'r prif weinidog?

Y Senedd, Bae CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Pan fydd Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd ddydd Mawrth, yr eitem gyntaf ar yr agenda fydd sesiwn holi'r prif weinidog.

Dyma fydd y tro cyntaf i Eluned Morgan ateb cwestiynau ar lawr y Senedd yn ei rôl newydd - union chwe wythnos ers iddi gymryd yr awenau’n swyddogol yn dilyn cyfnod tymhestlog Vaughan Gething wrth y llyw.

Bydd e'n gwylio o'r meinciau cefn wrth i’w olynydd ateb cwestiynau, gyda'i gweinidogion newydd hi yn eistedd o'i chwmpas.

Mae Morgan yn addo manteisio ar y cyfle i amlinellu ei blaenoriaethau hi fel prif weinidog.

Ar ôl wythnosau o deithio'r wlad yn gwrando ar bobl Cymru, mae hi'n addo taw "blaenoriaethau'r bobl" fydd y rheiny.

Ond beth yw blaenoriaethau'r gwrthbleidiau?

Mae'n gwestiwn dilys, achos heb fwyafrif yn y Senedd, bydd angen i Eluned Morgan daro bargen gydag o leiaf un ohonyn nhw i basio'i chyllideb, fydd yn cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig.

Y Ceidwadwyr

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru, Sam Kurtz, yn gobeithio am bolisïau gan Eluned Morgan fydd yn "tyfu'r economi"

Fel yr ail grŵp mwyaf yn y Senedd, y Ceidwadwyr Cymreig ydy'r brif wrthblaid ym Mae Caerdydd.

Ers blynyddoedd mae Aelodau Ceidwadol y Senedd wedi gorfod gwrando ar weinidogion Llafur yn pwyntio'r bys at Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, a'i chyhuddo o beidio â rhoi digon o gyllid i Gymru.

Ond gyda Llafur bellach mewn grym yn San Steffan hefyd, "does ddim lle i gwato nawr", meddai'r Aelod Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Sam Kurtz.

"Mae yna blaid Lafur yn llywodraethu yn San Steffan, mae yna blaid Lafur yn llywodraethu yma yng Nghymru, shwt gallan nhw weithio gyda'i gilydd i wella'r sefyllfa i bobl yma yng Nghymru a Prydain?

"'Sai'n gweld nhw'n dod 'mlaen gydag unrhyw syniadau newydd."

Gobeithio am bolisïau gan Eluned Morgan fydd yn "tyfu'r economi" mae Kurtz.

"Os mae economi gryf yma yng Nghymru a Phrydain, wedyn bydd gyda ni wasanaethau cyhoeddus cryf hefyd."

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y bydden nhw'n barod i drafod y gyllideb gyda'r llywodraeth pan ddaw'r amser, ond mae Dirprwy Brif Weinidog newydd Cymru, Huw Irranca-Davies wedi gwrthod y syniad hwnnw'n barod.

"Mae dogma yna," medd Sam Kurtz. "Maen nhw'n gweld ni fel y gelyn a 'sai'n credu bod hwnna'n beth da mewn gwleidyddiaeth."

Plaid Cymru

Disgrifiad o’r llun,

"Stynt PR" oedd "ymarfer gwrando" y prif weinidog, yn ôl arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru mi ddylai'r blaenoriaethau fod wedi bod yn ddigon amlwg yn barod i Eluned Morgan, heb iddi orfod casglu barn y cyhoedd.

"'Da ni'n gwybod mai iechyd, addysg, yr economi, datrys anghydraddoldebau o fewn cymdeithas - dyna ydy'r problemau mawr 'da ni'n eu hwynebu.

"Ble mae syniadau Eluned Morgan rŵan fydd yn gallu ein gyrru ni ar gyfeiriad gwahanol i hwnnw 'da ni arno fo ar hyn o bryd? Dwi'n clywed dim."

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, "stynt PR" oedd "ymarfer gwrando" y prif weinidog.

"Yr hyn oedd ei angen mewn gwirionedd yr haf hwn oedd llywodraeth yn mynd i'r afael â’r heriau sylweddol sy'n wynebu ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus."

Roedd Plaid Cymru mewn cytundeb gyda Llafur yn y Senedd, nes i'r blaid ddod â hwnnw i ben yn gynnar oherwydd y cwestiynau o amgylch Vaughan Gething.

Yn ôl ap Iorwerth, dydy Llafur ddim wedi bod mewn cysylltiad gyda'i blaid eto, er bod Huw Irranca-Davies wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried beth allai fod yn bosib gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i ni weld mwy o arian yn dod i fewn yma yng Nghymru", meddai Jane Dodds

Dim ond un AS sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd.

Ond dim ond un bleidlais ychwanegol sydd ei hangen ar Lywodraeth Lafur Cymru i basio'i chyllideb.

Gallai Jane Dodds felly - arweinydd y blaid yng Nghymru - fod yn ddylanwadol iawn.

Ond dywedodd ar Dros Frecwast fore Gwener nad oes unrhyw sgyrsiau wedi digwydd eto ynghylch cydweithio, a mynnodd na fyddai hi'n dod i gytundeb gyda llywodraeth Eluned Morgan.

"Dwi ddim am gydweithio o gwbl efo Llafur, mae'n eglur iawn," meddai Dodds.

"Dwi'n glir, glir iawn - mae'n rhaid i ni weld mwy o arian yn dod i fewn yma yng Nghymru.

"Dwi isio sicrhau bod pethau'n gwella yn y meysydd dwi wedi sôn am, hynny yw gwasanaethau iechyd, gofal, yr economi, llai o blant yn byw mewn sefyllfa dlawd - dwi isio gweld pethau'n newid."

Ond ydy hi'n yn hyderus bydd pethau'n gwella o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan?

"Dwi ddim yn hyderus o gwbl," yw'r ateb plaen.

"Dwi wedi bod yma tair a hanner o flynyddoedd a dydy pethau ddim wedi newid."