'Dim toriadau ar raddfa’r Alban' medd Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Cymru yn wynebu toriadau ar raddfa’r Alban, lle mae llywodraeth yr SNP yn torri £500m o’i chyllideb, meddai Prif Weinidog Cymru.
Bydd gweinidogion Eluned Morgan yn cyflwyno eu cynlluniau gwariant ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi "cymryd cryn dipyn o'r boen yn barod" - cafwyd toriadau ym mhob adran ac eithrio'r GIG yn ei chyllideb ddiwethaf.
Cafodd Ms Morgan ei phenodi i gymryd lle Vaughan Gething ar ôl iddo ymddiswyddo yn yr haf, ac mae disgwyl iddi gyhoeddi ei chabinet yn fuan.
Dywedodd ei bod hi, gydag un eithriad, wedi gwneud "dim addewidion" i'w chydweithwyr.
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2024
Dydd Llun fe gyhoeddodd ysgrifennydd cyllid SNP Yr Alban doriadau gwerth hyd at £500m i gydbwyso cyllideb y llywodraeth, gan feio cytundebau cyflog y sector cyhoeddus, "llymder" San Steffan, chwyddiant, y pandemig a’r rhyfel yn Wcráin.
Rhybuddiodd academyddion cyn yr etholiad cyffredinol am doriadau serth i ddod i Lywodraeth Cymru, gan amcangyfrif yn ôl ym mis Mehefin y byddai angen i lywodraeth Lafur y DU ddarparu £683m arall i osgoi toriadau i feysydd gwariant nad ydynt yn cael eu gwarchod.
Yn y gyllideb ddiwethaf gwelodd pob adran o Lywodraeth Cymru - ac eithrio iechyd a gofal - doriadau mewn termau real, gyda materion gwledig yn cael eu taro waethaf gyda chyfanswm o £446m mewn arbedion.
Dywedodd Ms Morgan: “Rydyn ni wedi gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn yn y ddwy gyllideb ddiwethaf yng Nghymru, felly rydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi cymryd cryn dipyn o'r boen yn barod."
Pan ofynnwyd iddi a allai fod cyllideb fel un Yr Alban, ychwanegodd: “Dydyn ni ddim yn disgwyl gweld y math yna o sefyllfa, oherwydd rydyn ni eisoes wedi gwneud y dewisiadau anodd hynny.”
Swyddi Cabinet - 'addewidion i neb'
Cyhoeddodd Ms Morgan ym mis Awst y byddai Mark Drakeford yn weinidog iechyd dros dro, ond nid yw wedi ad-drefnu'r cabinet yn llawn eto.
Bydd yn rhaid iddi benderfynu a yw am benodi'r cyn-brif weinidog Vaughan Gething i'r cabinet, yn ogystal ag a ddylid rhoi swyddi i bedwar cyn-aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd er mwyn sbarduno ymddiswyddiad Mr Gething.
Gofynnwyd i Ms Morgan, oedd yn ymweld ag ysgol gyda'r Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, a oedd presenoldeb Ms Neagle yn arwydd y byddai'n aros yn y swydd.
"Dydw i ddim wedi gwneud unrhyw addewidion i neb" meddai, "ac eithrio Huw Irranca-Davies, sy'n mynd i fod yn ddirprwy brif weinidog."
Roedd Ms Morgan a Ms Neagle yn nodi cwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd - rhywbeth a ddatblygwyd gyda Phlaid Cymru tra bod cytundeb cydweithredu mewn grym.
Amddiffynnodd y prif weinidog y gwariant ar brydau ysgol am ddim yng nghanol y sefyllfa ariannol anodd.
“Roedd yna stigma yn aml yn gysylltiedig â phobl oedd yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim, ac felly rydyn ni wedi cael gwared ar hynny mewn ysgolion cynradd,” meddai.
'Haf o ddiffyg gweithredu'
Beirniadodd Plaid Cymru y prif weinidog ddydd Mawrth, gan gyhuddo ei llywodraeth o "haf o ddiffyg gweithredu" dros broblemau'r gwasanaeth iechyd fel amseroedd aros.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Gallai penodiad dros dro Mark Drakeford gael ei weld fel penderfyniad a wnaed i ddyhuddo'r meinciau Llafur yn dilyn misoedd o anhrefn ac anrhefn."
Dywedodd Ms Morgan: “Fe wnes i’n gwbl glir fy mod i’n mynd i gymryd yr haf i wrando, i ddeall blaenoriaethau’r cyhoedd, a dyna dwi wedi bod yn ei wneud.
“Gallaf fod yn gwbl glir y bydd rhai blaenoriaethau wedi’u gosod erbyn inni gyrraedd yn ôl i'r Senedd, pan fydd yn dechrau’n iawn ymhen ychydig wythnosau.”
'Bysedd yn ei chlustiau'
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: “Mae’r prif weinidog yn amlwg wedi cael ei bysedd yn ei chlustiau yn ystod ei ‘thaith wrando’ fel y gelwir.
“Mae Llafur Keir Starmer wedi gwneud y penderfyniad gwleidyddol i wthio pensiynwyr i dlodi tanwydd trwy dorri’r Taliad Tanwydd Gaeaf, ac eto mae’r Farwnes Morgan wedi methu â herio’r penderfyniad hwn.
“Yn hytrach na rhoi blaenoriaeth i greu mwy o wleidyddion yn y Senedd, dylai’r Farwnes Morgan ganolbwyntio ar gadw pensiynwyr Cymru yn gynnes y gaeaf hwn.”
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio ym mis Awst bod y toriad i'r taliad tanwydd gaeaf yn peryglu gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.