Senedd Cymru: Gallai ASau golli eu sedd am gamymddwyn
- Cyhoeddwyd
Fe allai’r cyhoedd gael y cyfle i wahardd Aelodau o Senedd Cymru sy’n camymddwyn fel rhan o gynlluniau sydd o dan ymgynghoriad.
Yn wahanol i Aelodau Seneddol yn San Steffan, dydy gwleidyddion ym Mae Caerdydd ddim ar hyn o bryd yn wynebu colli eu sedd os ydyn nhw’n torri rheolau ymddygiad.
Roedd hynny’n destun trafod y llynedd pan gafodd Aelod o Senedd Cymru ei wahardd am gyfnod ble byddai wedi wynebu deiseb adalw pe bai’n wleidydd yn San Steffan.
Ers 2016 mae aelodau o Dŷ’r Cyffredin sy’n cael eu gwahardd am o leiaf ddeng niwrnod yn wynebu deiseb adalw, ac os ydy o leiaf 10% o etholwyr ei etholaeth yn arwyddo’r ddeiseb, yna mae is-etholiad yn cael ei alw.
Dydy’r drefn etholiadol fydd yn cael ei gyflwyno ym Mae Caerdydd fel rhan o’r penderfyniad i ehangu maint Senedd Cymru yn 2026, ddim yn caniatáu ar gyfer cynnal is-etholiadau.
Ond mae aelodau o Bwyllgor Safonau’r Senedd yn ystyried a fyddai modd cyflwyno mecanwaith ble gallai etholwyr benderfynu a ddylai gwleidydd sydd wedi torri’r rheolau golli ei sedd.
Yn gynharach eleni, dywedodd AS Plaid Cymru Ben Lake y dylai ei gyn gyd-aelod o’r blaid, Rhys ab Owen, fod wedi wynebu’r posibilrwydd o golli ei sedd, ar ôl iddo gael ei wahardd o’r Senedd am 42 diwrnod am ymddwyn yn amhriodol tuag at ddwy ddynes yn ystod noson allan.
Mae Rhys ab Owen, a ymddiheurodd a sydd bellach wedi ei ddiarddel gan Blaid Cymru, yn parhau’n aelod o Senedd Cymru dros Ganol De Cymru.
Mae cefnogaeth drawsbleidiol i’r syniad o fecanwaith adalw ym Mae Caerdydd ond ni wnaeth Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth i ehangu maint y Senedd o 60 i 96.
Mae’r pwyllgor hefyd yn ymgynghori ar y syniad o atal gwleidyddion y Senedd am ddweud celwydd.
Daeth hynny wedi i Lywodraeth Cymru o dan arweinyddiaeth Vaughan Gething ar y pryd, ymrwymo i ddeddfu ar y mater ar ôl wynebu colli pleidlais.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 27 o Fedi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf