Gwrthod deddf fyddai'n creu hawl i gartref digonol

TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r syniad o gael deddf fyddai'n creu hawl i gartref digonol wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan ymgyrchwyr, sy'n credu y dylai'r gyfraith ddweud bod cael cartref diogel yn hawl ddynol.

Cyhuddodd Plaid Cymru y llywodraeth hefyd o gyhoeddi dogfen bolisi “wan a siomedig” ar dai, tair blynedd ar ôl iddi gael ei haddo fel rhan o gytundeb rhwng Plaid a Llafur.

Dywedodd gweinidogion: "Mae'r egwyddor bod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr."

Mae’r ddogfen, dolen allanol, a elwir yn bapur gwyn, yn nodi polisïau i helpu i wneud tai yn fforddiadwy a chadw to uwch bennau pobl.

Mae’n dweud mai "uchelgais Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod tai digonol ar gael i bawb yng Nghymru".

Mae saith maen prawf, a gynigir gan y Cenhedloedd Unedig, yn nodi sut olwg sydd ar gartref digonol.

Maent yn cynnwys bod yn fforddiadwy a diogelwch rhag troi allan gorfodol.

Oes angen newidiadau cyfreithiol?

Ond clywodd ymgynghoriad safbwyntiau gwahanol ynghylch a oedd angen newidiadau cyfreithiol.

Roedd cynghorau'n poeni am y cyllid sydd ei angen i ddarparu tai digonol, ac roedd ofnau y gallai landlordiaid preifat dynnu allan o'r farchnad, meddai.

Yn hytrach, mae’n cynnig strategaeth dai y byddai’n rhaid i weinidogion ei chyhoeddi yn ôl y gyfraith ar ôl yr etholiad nesaf yn 2026.

Gallai fod gan gyrff cyhoeddus hefyd ddyletswydd i “roi sylw” i’r strategaeth wrth ddarparu tai.

Gallai deddfwriaeth bellach ddigwydd yn y dyfodol “unwaith y bydd mwy o dai digonol ar gael”, ychwanega.

Disgrifiad o’r llun,

Jayne Bryant yw'r ysgrifennydd tai

Dywedodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant: “Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i’w alw’n gartref yn uchelgais allweddol gan y llywodraeth hon.”

Fe wnaeth Llafur addo papur gwyn “i gynnwys cynigion am hawl i dai digonol” mewn cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn 2021.

Dywedodd Plaid Cymru, wnaeth ganslo’r cytundeb yn gynharach eleni, fod y papur gwyn yn dangos “diffyg uchelgais”.

“Mae’n anodd credu ei bod hi wedi cymryd dwy flynedd i gynhyrchu dogfen sydd mor wan a siomedig, sydd mor brin o’r disgwyliadau gwreiddiol a osodwyd yn y cytundeb cydweithio,” meddai AS Plaid Cymru Sian Gwenllian.

'Hynod siomedig'

Ychwanegodd Jeff Smith ar ran Cymdeithas yr Iaith: “Roedd cyfle trwy’r papur gwyn yma i drawsnewid y ffordd rydym yn gweld tai yng Nghymru, a mynd i’r afael o ddifrif gyda’r argyfwng tai trwy sefydlu’r hawl gyfreithiol i dai digonol.

"Mae ei fethiant i ddod yn agos at hynny’n hynod siomedig.

“Nid ymdrin â symptomau unigol yr argyfwng tai fan hyn a fan draw fel sydd yn y Papur Gwyn yw’r ateb, ond mynd at wraidd yr argyfwng."

Mae'r papur gwyn hefyd yn diystyru rheolaethau rhent, gan ddweud y gallai arwain at ostyngiad mewn cyflenwad tai ar rent.

Ond mae cynigion i gasglu a chyhoeddi mwy o ddata ar renti, fel y gall pobl weld faint sy'n cael ei godi yn eu hardal leol.

Dywedodd gweinidogion hefyd eu bod am helpu tenantiaid i gadw anifeiliaid anwes.

Gallai landlordiaid ofyn i berchnogion anifeiliaid anwes dalu tuag at yswiriant ychwanegol, hyd at derfyn i’w osod gan Lywodraeth Cymru.