Agor Pont y Borth rhwng Gwynedd a Môn yn llawn dros y gaeaf

Bydd traffig dwy ffordd yn ailddechrau ar Bont y Borth ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Bydd Pont y Borth yn ailagor yn llawn ddydd Sadwrn ar ôl i gam cyntaf gwaith atgyweirio gael ei gwblhau.
Bydd traffig dwy ffordd yn ailddechrau ar y bont sy'n croesi'r Fenai rhwng Gwynedd ac Ynys Môn am 00:01 ar 2 Tachwedd.
Fe fydd y terfyn pwysau hefyd yn cynyddu i 40 tunnell.
Mae lôn wedi bod ar gau ar y bont ers 14 mis, gyda signalau traffig dros dro a therfyn pwysau o 7.5 tunnell.
Fe gaeodd y bont 200 oed yn ddirybudd fis Hydref 2022 oherwydd risgiau diogelwch "difrifol", yn dilyn cyngor gan beirianwyr UK Highways.

Mae lôn wedi bod ar gau ar y bont ers 14 mis
Roedd rhaid i bob un o'r 168 o grogrodenni (hangers) ar y bont gael eu newid fel cam cyntaf y gwaith atgyweirio.
Bydd oedi o bedwar mis tan Chwefror 2025 cyn dechrau ar ail ran y gwaith, sydd ymhlith pethau eraill yn cynnwys ailbeintio'r bont, meddai Llywodraeth Cymru.
Yn Chwefror 2025, fe fydd un lôn yn cau a'r terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn cael ei ailosod.
Bydd cyfnod o gyfathrebu gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid cyn dechrau ar ail gam y gwaith, meddai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae'r ffaith bod y gwaith ar y cam cyntaf wedi'i gwblhau yn newyddion gwych.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd, a hoffwn i gofnodi fy niolch i bawb y mae'r gwaith wedi effeithio arnyn nhw.
"Rydyn ni wedi gwrando ar safbwyntiau'r cymunedau lleol ac wedi penderfynu oedi cyn dechrau ar ail gam y gwaith er mwyn caniatáu i'r bont ailagor yn llawn dros gyfnod y gaeaf.
“Ond gallwch chi fod yn dawel eich meddwl na fydd yr oedi hwnnw'n effeithio ar ben-blwydd 200 y bont ym mis Ionawr 2026.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023