Pont y Borth: Rhagor o waith atgyweirio yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
Traffig Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd goleuadau traffig ar y bont rhwng 07:00 ddydd Llun a 15:30 ddydd Gwener pob wythnos

Bydd rhagor o waith i atgyweirio Pont y Borth, rhwng Gwynedd ac Ynys Môn, yn dechrau ddydd Llun.

Cafodd y bont ei chau yn ddirybudd ym mis Hydref y llynedd oherwydd risgiau diogelwch "difrifol".

Ni fydd y gwaith diweddaraf yn golygu cau'r bont yn llwyr, ond mae gyrwyr yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw.

Bydd un lôn ar gau a mesurau rheoli traffig mewn lle pob wythnos rhwng 07:00 ddydd Llun a 15:30 ddydd Gwener.

Bydd y gwaith atgyweirio presennol yn cynnwys gosod crogwyr parhaol newydd a phaentio tu allan y bont.

Mae disgwyl i'r gwaith cael ei gwblhau erbyn Awst 2025, gyda'r nod o atgyweirio'r bont yn llawn erbyn ei phen-blwydd yn 200 oed yn 2026.

Pynciau cysylltiedig