Etholiad '99: Alun Michael a’r Daeargryn Etholiadol tawel
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun 6 Mai 2024 mae hi'n 25 mlynedd ers etholiad cynta'r Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd Dafydd Trystan yn ddarlithydd ar Wleidyddiaeth Cymru yn 1999 ac yn arbenigo mewn arolygon barn. Ers hynny mae wedi dal nifer o swyddi yn y byd gwleidyddol, academaidd a llywodraethol.
Dyma rai o'i atgofion a'i argraffiadau o'r cyfnod arwyddocaol hynny.
Heriau'r system bleidleisio newydd?
Chwarter canrif yn ôl roedd gennyf tipyn mwy o wallt ac roeddwn i’n cychwyn ar fy ngyrfa academaidd yn maes Gwleidyddiaeth Cymru.
Ychydig yn llai na dwy flynedd ynghynt roeddwn i ar bigau’r drain ar noson y refferendwm, ac wedi ar adegau anobeithio, ond erbyn y 6ed o Fai, 1999 roedd y gofidiau wedi eu hen anghofio a chyffro go iawn wrth weld Cynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru yn cael ei ethol.
Mabwysiadwyd trefn o bleidleisio etholaethol a rhanbarthol a’r pleidleisiau i’w cyfrif yn unol â’r drefn a ddyfeisiwyd gan y mathemategydd Belgaidd – D’Hondt.
Nawr, fel mae fy ffrindiau yn gwybod yn iawn, dwi’n hoff iawn o daenlenni, a buan iawn wrth weithio drwy fy nhaenlenni dyma sylwi fod hynodrwydd go iawn i’r system – sef y gallai plaid wrth ennill neu golli etholaethau effeithio ar ei gallu i ennill seddi rhanbarthol.
Mewn etholiad arferol o bosib na fyddai fformiwlâu D’Hondt yn tynnu llawer o sylw (diddordeb niche os fuodd un erioed), ond y tro hwn roedd Alun Michael wedi ei ddewis gan y Blaid Lafur ar ben rhestr y Canolbarth a’r Gorllewin.
Ac yntau yn arweinydd newydd ar y Blaid Lafur yng Nghymru wedi etholiad mewnol digon cecrus, roedd digon o heriau o’i flaen wrth arwain Llafur tuag at y Cynulliad, heb iddo orfod ymgodymu gyda system bleidleisio newydd.
Rhywbeth ar droed...
Ar yr olwg gyntaf doedd dim disgwyl cyffro enfawr yn etholiadau’r Cynulliad. Roedd Tony Blair wedi ennill buddugoliaeth ysgubol yn 1997, y Ceidwadwyr wedi colli pob sedd yng Nghymru yn yr etholiad hwnnw, a Llafur wedi tra-arglwyddiaethu yn etholiadol ar Gymru ers dros hanner canrif.
Roedd rhyw deimlad yn yr wythnosau cyn y bleidlais fod rhywbeth ar droed. Cyffro go iawn am yr etholiadau, a Dafydd Wigley yn ei elfen yn rhuthro o gwmpas y wlad yn ymgyrchu.
Fy nhasg i ar gyfer y diwrnod oedd dadansoddi’r exit poll yn y fan a'r lle i BBC Cymru. Wedi bwrw fy mhleidlais yn Aberystwyth dyma yrru drwy’r Canolbarth tuag at Landaf.
Roedd yr haul yw tywynnu’n braf a’r mynyddoedd efallai yn arbennig o drawiadol, ac wedyn heb unrhyw rheswm clir dechreuodd ddagrau llifo. Roedd hi’n ddiwrnod mawr i Gymru a phleidlais cyntaf hanesyddol ar ddigwydd, a’r emosiwn yn glir, hyd yn oed i’r sawl oedd yn byw a bod mewn data!
Torri newyddion chwerwfelys i Alun Michael
Erbyn amser te ar y dydd Iau hanesyddol hwnnw roedd ffigyrau cychwynnol yr exit poll yn barod, oedd yn awgrymu fod Llafur yn brin o fwyafrif a Phlaid Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol.
Dwi ddim yn siŵr os oedd rhywfaint o ddireidi tu cefn i benderfyniad Aled Eirug, Pennaeth Newyddion y BBC ar y pryd, i ofyn i mi gyflwyno’r newyddion i’n darpar Brif Ysgrifennydd oedd newydd ymddangos yn stiwdios y BBC.
Dyna ble oeddwn i, yn gyw ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Cymru, yn cyflwyno data’r arolwg i Alun Michael. Newyddion chwerwfelys oedd gen i iddo; gan fod Llafur wedi colli nifer o etholaethau, roedd ei etholiad yntau wedi ei sicrhau.
Mi wnaeth Alun holi ambell gwestiwn i gadarnhau’r sefyllfa, ond roeddwn i’n siŵr – roedd e ar ei ffordd i’r Cynulliad, ac roedd yntau yn gwbl fonheddig er gwaethaf y gwasgedd sylweddol oedd arno.
Drannoeth yr etholiad bu’r cyfrif a chadarnhawyd canlyniadau trawiadol yr arolwg barn; fe ddigwyddodd yr hyn a alwodd Dafydd Wigley yn 'ddaeargryn tawel', ac fe symudodd platiau tectonig gwleidyddiaeth Cymru.
25 mlynedd ym Mae Caerdydd
Tra bod y platiau hynny wedi symud ychydig bid siŵr, oddi ar yr etholiad hwnnw mae patrwm lled cyfarwydd i wleidyddiaeth Cymru wedi ymsefydlu.
Mae Llafur wedi parhau yn bell ar y blaen ac yn coleddu’r brand (ar adegau yn fwy brwdfrydig na’i gilydd) Llafur Cymru. Mae Plaid Cymru yn parhau i ddyheu am gyrraedd uchelfannau 1999 unwaith yn rhagor, ac mae’r frwydr rhwng y Blaid a’r Ceidwadwyr, a achubwyd i raddau helaeth yn 1999 gan ein ffrind Belgaidd D’Hondt, yn parhau yn agos am yr ail safle.
Bydd mathemateg D’Hondt yn flaenllaw eto yn 2026, ond prin y gallai’r darlithydd ifanc hwnnw goelio o fewn cwta chwarter canrif y bydden ni’n symud tuag at ethol Senedd Cymru gyda grymoedd deddfwriaethol sylweddol a bron i 100 o aelodau.
Mae’r symudiad hwnnw yn drawiadol iawn ac yn destament digamsyniol i’r sawl a gyffrowyd gan yr etholiad cyntaf hynny yn 1999, ac sydd wedi gweithio ym mhob plaid ac yn ddi-blaid ers hynny i adeiladau Senedd genedlaethol.
Does ond gobeithio y bydd yr un teimlad o gyfle a chyffro yn perthyn i etholiadau cyntaf ein Senedd dan drefn newydd a chydag aelodaeth newydd yn 2026.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd16 Medi 2017