Dros 12,000 wedi ymateb i ymgynghoriad cynllun amaeth

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irrranca-Davies mai dyma un o'r ymatebion mwyaf erioed i ymgynghoriad gan y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dros 12,000 o bobl ymateb i ymgynghoriad ar gynllun dadleuol ar gyfer cymhorthdal newydd i ffermio.

Mewn cyfweliad ar raglen Ffermio S4C nos Lun, dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies mai dyma un o'r ymatebion mwyaf erioed i unrhyw ymgynghoriad, a bod angen amser i ddadansoddi'r sylwadau.

Ddechrau'r flwyddyn bu protestiadau chwyrn ar draws Cymru yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - sydd i fod i ddod i rym yn 2025.

Un o'r elfennau mwyaf dadleuol yw'r angen i gael coed ar 10% o dir ffermydd.

Dywed Mr Irranca-Davies mai dyma oedd yr elfen oedd yn peri'r pryder mwyaf ymhlith yr ymatebion.

Dywedodd fod nifer o syniadau wedi dod i law gan ffermwyr a mudiadau amgylcheddol ynglyn â'r ffordd ymlaen, ac y byddai'n synnu pe na bai rhywfaint o newidiadau i'r cynllun yn sgil yr ymgynghoriad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o brotestiadau eu cynnal yn erbyn y cynlluniau ar ddechrau'r flwyddyn

Fe gafodd Huw Irranca-Davies ei benodi'n ysgrifennydd dros newid hinsawdd a materion gwledig fel rhan o dîm newydd Vaughan Gething.

Yn siarad yn gynharach yn y mis, dywedodd Huw Irranca-Davies y gallai'r "materion cymhleth" wrth wraidd yr anghydfod gael eu datrys.

Dywedodd mai ei gyfarfod swyddogol cyntaf â’r prif weinidog newydd oedd gyda’r undebau amaeth, a dywedodd fod “cytundeb ar lawer o’r fframwaith a’r ffordd ymlaen”.

Wrth siarad ar raglen Ffermio, dywedodd yr ysgrifennydd: "Rydym wedi derbyn dros 12,000 o ymatebion. Mae'n mynd i gymryd cryn amser i'w hystyried a'u dadansoddi nhw yn ogystal â dod a chynigion.

"Dyma un o'r ymatebion mwyaf yr ydym wedi ei gael i unrhyw ymgynghoriad. Rydym hefyd yn trafod gydag arweinwyr yr undebau ffermio a mudiadau eraill i weld beth yw'r cam nesaf."

Dywedodd y byddai'n "synnu'n fawr pe na bai rhai addasiadau" yn cael eu gwneud i'r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gofyn i bob fferm sicrhau bod 10% o'r tir â choed arno er mwyn cael arian yn y dyfodol wedi bod yn hynod ddadleuol

Pan gafodd ei holi a fyddai newid ynghylch y rheol ynghylch coed ar 10% o'r tir, dywedodd mai "dyma un lle rydym wedi derbyn y nifer fwyaf o bryderon ond hefyd syniadau".

Wrth sôn am yr ymatebion, dywedodd fod "rhai wedi dod o'r gymuned ffermio ond rhai wedi dod o fudiadau amgylcheddol a byd natur ynghylch gwneud yr hyn rydym eisiau gyda chynhesu byd eang a'i wneud ychydig yn wahanol".

"Byddwn yn gweithio gydag eraill ac yn gwrando a gweld sut y gallwn newid ac addasu pethau..."

Dim oedi i'r cynllun

Fe gadarnhaodd na fydd y cynllun yn cael ei oedi gan fod yna angen i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.

Pan gafodd ei holi a fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno o fewn y 12 mis nesaf, dywedodd fod modd gwneud hynny gan ddweud y byddai oedi ond yn dod â mwy o ansicrwydd i'r diwydiant.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Daeth ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ben ym mis Mawrth ac mae'r ymatebion yn cael eu hystyried.

Mae'n bwysig ein bod yn cymryd amser i ddadansoddi ymatebion a thrafod gyda rhanddeiliaid.

"Ni fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud ar unrhyw elfen o'r cynigion nes bod y dadansoddiad wedi'i gwblhau."

'Ffars' os na fydd newidiadau

Dywedodd Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor y byddai'n rhaid i'r llywodraeth wrando ar yr ymatebion neu beryglu gwneud "ffars o'r holl air ymgynghoriad".

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y bydd newidiadau i'r cynllun yn "arafu'r broses" yn sgil trafferthion mapio a chyfreithiol, ac "ar ben hyn wrth gwrs mae'r ochr ariannol".

"Dydy ffermwyr, dydy'r diwydiant, hyd yma, wedi cael unrhyw fanylion am be' fydd y taliadau am wneud pa fesurau. Mae 'na lot fawr 'da ni ddim yn ei wybod ar hyn o bryd, a buan iawn y daw hi'n Ebrill 2025 ac mae'r cloc yn bendant yn tician."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd bod ffermwyr angen sicrwydd er mwyn gallu gwneud penderfyniadau allai effeithio ar eu tir am ddegawdau i ddod.

"Mae ffermio, rhywbeth hirdymor ydy o, fedrwch chi ddim neidio o un peth i'r llall fel mae'r awydd yn newid.

"Felly mae angen amser i bori dros y penderfyniadau yma fel bod nhw'n benderfyniadau cywir."

Dywedodd bod hynny hefyd yn wir o ran yr amgylchedd, gan ddweud ei fod yn "ofni y bydd yna frysio" i weithredu'r cynllun, ond y gallai fod yn well i " bwyllo a thargedu'r mesurau iawn yn y llefydd iawn".