Teyrnged i ddyn ifanc fu farw ym Mro Morgannwg

Connor Ockerby Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Connor Ockerby ar safle'r gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn 20 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Connor Ockerby mewn gwrthdrawiad un cerbyd - Ford Fietsa llwyd - tua 03:50 fore Sul ar Ffordd y Barri, Dinas Powys.

Cafodd dwy ddynes, un 21 oed o'r Barri a'r llall yn 18 oed o Ddinas Powys, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod "ei deulu i gyd, ei ffrindiau - a oedd yn chwarae rhan fawr yn ei fywyd - a phawb oedd yn ei adnabod yn ei garu'n fawr".

"Rydym wedi'n llorio o golli ein bachgen hardd. Ni ddown ni dros y golled yma."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau â'r ymchwiliad ac yn apelio am dystion am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig