Owain Llareggub: Bandio a fi
- Cyhoeddwyd
Yn chwythu ei drombôn efo Band Pres Llareggub neu'n arwain cerddorfa ar lwyfan Gig y Pafiliwn, mae Owain Roberts wedi dod yn wyneb cyfarwydd - ond mae'r diolch i'r sylfaen gafodd o gan ei fand pres lleol.
Wrth iddo gyflwyno cyfres newydd am gerddoriaeth pres ar Radio Cymru, yma mae'n sôn sut ddechreuodd y cyfan a sut roedd yn rhaid mynd i ffwrdd i werthfawrogi'r hyn sydd gan Cymru i'w gynnig.
Lle ddechreuodd y diddordeb?
Fy mrawd hŷn wnaeth ddod â chorn yn ôl un diwrnod o’r ysgol gynradd - Ysgol y Garnedd, Bangor - a doedd neb yn gallu cael sŵn allan o’r peth! Fi oedd y cyntaf i wneud sŵn, a doedd o ddim yn hir wedyn tan i fi gael corn fy hun o’r ysgol.
Ond doedd dim o’r cyrn bach fel corned ar ôl felly mi geshi ewffoniwm - fel tiwba bach. Yn naw oed do’n i’m yn gallu cario’r peth!
Sut wnes di ddatblygu fel chwaraewr?
Fel llawer yng Nghymru ro’n i’n lwcus i gael athrawon cerdd da yn yr ysgol a llwyth o ganu ac eisteddfodau ac yn y blaen.
Ond pan o’n i’n ifanc, mi ro’n i wrth fy modd yn chwarae mewn band gyda phlant hŷn ac oedolion. Roedd unigolion hynod fel Dennis Williams a Wynne Williams yn weithgar tu hwnt ym mand pres Porthaethwy (ro’n innau, fy mrodyr a fy nhad yn yr un band!) ac yna hefyd cewri cerddorol fel Gwyn Evans a John Glyn Jones ar y lefel sirol gyda nifer o blant yn dod drwy’r system a llwyddo ar y safon uchaf. Ac yna wrth gwrs y band pres cenedlaethol.
Nes i wedyn ymuno gyda BT Brass Band nôl yn 2002 pan oedd arian da diolch i sponsorship y dyddiau yna. Ar y pryd ymarfer yn Stockport oedda nhw a fi'n astudio yn y Brifysgol ym Manceinion. Fel un o'r prif chwaraewyr ro'n i'n cael amlen o cash bob pythefnos. Pres da i fyfyriwr!
Ond roedd byd y bandiau pres yn fach ac efallai yn gul ar y pryd a doeddwn i ddim yn gweld dyfodol i mi ar y lefel uchaf... felly nes i droi at y trombôn ble roedd cyfle i chwarae cerddoriaeth gerddorfaol, jazz, pop a thu hwnt!
Sut fywyd ydi bod yn gerddor llawrydd?
Tydi o ddim yn hawdd ac mae gen i andros o lot o barch at gerddorion llawrydd eraill. Dwi ond yn megis dechrau mewn ffordd.
Nes i fynd yn syth i ddysgu ar ôl graddio ym Manceinion gyda gradd mewn cerddoriaeth glasurol. Ro’n i bob amser yn brysur mewn bandiau a phrosiectau amrywiol a dros y blynyddoedd mae’r dysgu wedi disgyn i lawr y rhestr braidd ac ar y funud dwi’n rhy brysur i gadw at swydd ddysgu.
Does yna ddim wythnos na diwrnod arferol… Wythnos yma er enghraifft dwi wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm cerddoriaeth y sioe gerdd epic newydd Branwen sydd ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm.
Dwi hefyd wedi bod lawr i Gaerfyrddin i weithio ar raglen S4C, Jonathan, fel arweinydd y J-Horns. Ac wythnos ddiwethaf ro’n i’n cychwyn ar albwm newydd i Fand Pres Llareggub.
Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC ar nifer o brosiectau amrywiol erbyn hyn ac mae bob tro yn fraint a phleser mawr cael gweithio efo nhw.
Sut wnaeth Band Pres Llareggub ddechrau?
Fel prosiect stiwdio fach efo fi’n recordio fy hun yn chwarae’r cyrn i gyd. Ar ôl pwniad neu ddau gan bobl wahanol, geshi fand go iawn at ei gilydd yn 2015 ac roedden ni'n headleinio Maes B y flwyddyn wedyn.
Dwi’n lwcus i gael cerddorion o safon uchel sydd yn barod i wneud yr ymdrech i drafaelio ar hyd a lled y wlad a 'da’n ni’n cael lot fawr o hwyl yn y broses. Faswn i’n hoffi dweud ein bod yn fand gweithgar ac mae’n grêt gallu trafeilio tu allan i Gymru hefyd.
Pa mor bwysig ydi’r traddodiad bandiau pres yn niwylliant Cymru?
Mae’n rhaid i fi ddweud - wnes i ddim llawn ddeall pa mor dda ydi be' sy' ganddon ni yma yng Nghymru nes i fi drafaelio i lefydd fel New Orleans.
Roedd pobl leol New Orleans yn gweld cerddoriaeth fel rhan annatod a naturiol o'u bywyd bob dydd. Ond dim ond y bobl hynny oedd wedi trafaelio dipyn tu hwnt i'w gwlad oedd yn sylweddoli pa mor lwcus oedden nhw gyda'u diwylliant unigryw eu hunain. Ac roedden nhw i gyd yn cymryd diddordeb mawr yn ein cefndir cerddorol ni a sut wnaethon ni ddysgu cerddoriaeth!
Mae cymaint o hanes a thraddodiad cyfoethog yn bodoli yma yng Nghymru a dwi ddim yn credu bod y bandiau lleol yma sydd ganddon ni yn cael y llawn glod maen nhw'n haeddu... Dylai bawb gefnogi eu band pres lleol!
Mae pobl yn aml yn anghofio bod chwarae mewn band yn rhywbeth iach ac yn rhoi addysg holistaidd i chi pa bynnag oed!
Yn ogystal â’r holl sgiliau cerddorol, ‘da chi hefyd yn dysgu cyd-symud, cymdeithasu, cyd-weithio, meddylgarwch, cyfri, gwrando, cyfathrebu ac yna llwyth o sgiliau cerddorol. Faswn i’n taeru mod i eithaf da am ddeall Eidaleg erbyn hyn hefyd diolch i’r termau cerddorol - er nad ydw i’n siarad gair! Dylia bawb YMUNO gyda band pres lleol!
Ydi bandiau pres mewn sefyllfa iach rŵan yng Nghymru?
‘Da’n ni’n lwcus i gael nifer o bobl arbennig sy’n hynod o weithgar ar y ‘sin’ bandiau pres yma yng Nghymru. Rhaid cofio hefyd ein bod efo dau o fandiau gorau’r byd (!) yma yng Nghymru - sef Cory a Tredegar wrth gwrs.
Er hynny, mae gwneud y band pres yn ddeniadol i bobl ifanc yn hollbwysig a dyla ni bob tro edrych am ffyrdd o gynnig cyfleoedd a hefyd cefnogi pobl ifanc i ddysgu offerynnau cerdd.
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
Be’ ydi’r gig gorau i ti fod ynddo fo - ar lwyfan neu yn y gynulleidfa?
Un o’r gigs i mi fwynhau fwyaf oedd Llwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 2019.
Roedd hi’n tywallt y glaw a do’n i’m yn disgwyl i neb ddod i’n gweld ni ond gawson ni'r gynulleidfa fwyaf hyfryd wnaeth ganu a dawnsio am y set gyfan.
Hoff fand pres? Sgenai ddim un go iawn... ond os nad yda chi wedi gwrando ar Youngblood Brass Band yna mae’n hen bryd i chi wneud!
Be' ydi apêl bandiau pres i chdi?
Mae band pres cymaint yn fwy na jyst cerddoriaeth ond os alla i dynnu sylw pobl at gerddoriaeth bandiau pres ac efallai ei wneud yn fwy mainstream rhywsut yna mi fydda i’n hapus!
Yn bersonol, rhaid dweud ar un ochr dwi’n teimlo mod i eisiau talu yn ôl i fandiau pres am beth neshi gael yn tyfu fyny - hynny ydi, dyma ble geshi fy addysg.
Hefyd, mae’r sain o offerynnau pres i gyd yn chwarae gyda’i gilydd mewn harmoni yn rhywbeth hynod bwerus. Mae clywed band yn chwarae emyn neu garol Nadoligaidd syml yn un o’r pethau mewn bywyd sydd yn gallu jyst bod yn berffaith.
Bydd cyfres Byd y Bandiau yn cael ei darlledu am 1900 ar nosweithiau Sul o 22 Hydref ymlaen, gydag ailddarllediad am 1800 ar nosweithiau Mercher. Mae hefyd ar BBC Sounds.