Cyn-faer yn osgoi carchar am greu lluniau anweddus o blant

Terry Judkins
Disgrifiad o’r llun,

Terry Judkins oedd maer Doc Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-faer tref Doc Penfro wedi osgoi dedfryd o garchar ar ôl pleidio'n euog i fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant, a'u dosbarthu.

Roedd Terry Judkins, 55, wedi cyfaddef dau gyhuddiad yn ymwneud â delweddau Categori C o blant ac o gael delwedd gwaharddedig o blentyn yn ei feddiant rhwng 27 Medi, 2018 a 5 Awst, 2021.

Roedd Judkins hefyd yn wynebu 52 cyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant categori A - y math mwyaf difrifol - rhwng 27 Medi 2018 a 5 Awst, 2021.

Clywodd y llys bod yna 11 o ddelweddau unigryw oedd wedi cael eu dyblygu ar ddwy ddyfais ddigidol. Roedd 10 o’r delweddau o lanc 17 oed, ac un ddelwedd o fechgyn ifanc rhwng 10 ac 13 oed.

Dywedodd ei fargyfreithiwr, David Maunder, wrth y llys fod y delweddau o’r llanc 17 oed yn “gydsyniol.”

Mae rhannu delweddau anweddus o bobl dan 18 oed yn drosedd.

'Gwarth ac embaras'

Fe wnaeth Judkins, sy'n byw yn Noc Penfro, gyfaddef y cyhuddiadau ar Fehefin 20.

Fe blediodd yn euog i ddosbarthu delweddau categori A ar 25 Gorffennaf, 2020.

Roedd Judkins yn Faer Cyngor Tref Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021, pan gafodd rhai o'r troseddau eu cyflawni.

Dywedodd ei fargyfreithiwr, David Maunder “nad oedd tystiolaeth bod y llys yn delio gyda rhywun oedd yn bedoffeil ymroddedig” ond “rhywun oedd wedi rhoi “blaen bys ei droed” yn y math yma o ymddygiad, “rhywbeth yr oedd yn ei ddifaru yn fawr.”

Ychwanegodd Mr Maunder fod gan y diffynnydd “gymeriad da” a'i fod wedi dioddef “gwarth ac embaras” yn sgil y troseddau.

Yn ôl y Barnwr Catherine Richards, roedd yr achos yn erbyn Judkins mewn “gwrthgyferbyniad gyda’r enw da rydych wedi ei feithrin".

Dywedodd “nad oedd tystiolaeth” fod nifer fawr o luniau yn ymwneud â bechgyn ifanc, ar wahân i’r delweddau o’r bechgyn oedd rhwng 10 ac 13 oed.

Yn ôl y Barnwr, roedd Judkins wedi dosbarthu dau lun o lanc 17 oed ac roedd y gyfraith yno i “warchod pobl ifanc.”

Cafodd Judkins ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am ddosbarthu delweddau anweddus.

Yn ogystal, cafodd dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am yr un cyfnod, am greu delweddau anweddus.

Fe fydd y ddwy ddyfais ddigidol a ddefnyddiwyd gan Judkins – cyfrifiadur a ffôn symudol – yn cael eu dinistrio ar orchymyn y llys.

Fe fydd Judkins yn gorfod mynychu rhaglen ar gyfer unigolion sydd wedi eu cael yn euog o lawrlwytho delweddau anweddus o blant a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.

Pynciau cysylltiedig