Timau rygbi merched yn rhoi ysgol a'r Bala 'ar y map'

Ysgol Godre’r Berwyn
  • Cyhoeddwyd

Rhoi’r Bala ac Ysgol Godre’r Berwyn ar y map.

Dyna mae pedwar o dimau rygbi merched Ysgol Godre’r Berwyn wedi llwyddo i'w wneud.

Ddydd Mawrth mi fydd y pedwar tîm - dan 12,14,16 a dan 18 oed - yn cystadlu yn rownd olaf cystadleuaeth rygbi i ferched yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Cystadleuaeth ydy hon i ysgolion Cymru drwy law Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r merched wedi cyflawni camp go anarferol drwy gyrraedd y pedair ffeinal ac mae 'na hen edrych ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Chloe, Lili a Sara - tair aelod o dîm dan 14 yr ysgol

I rai o aelodau’r tîm dan 14, mae'n addo bod yn brofiad bythgofiadwy.

Dywedodd Chloe: "Dwi’n edrych ymlaen gymaint oherwydd dwi heb fod i’r Principality o’r blaen a dwi’n chware flanker, rhif chwech.

"De ni just yn gweithio fel tîm a just chware rygbi, ac yn ffrindiau efo pawb."

Mae'n gyfle anhygoel meddai Lili: "Gobeithio nown ni ennill... mae'r coaches a ni yn cydweithio yn dda… ma' hwn yn once in a lifetime opportunity."

I Sara, mae'r diolch i'r hyfforddwyr sydd wedi helpu'r tîm: "De ni wedi bod yn chwarae rygbi ers de ni yn ifanc iawn…

"De ni wedi cael coaches da dros y blynyddoedd a wedyn de ni’n gallu gweithio fel tîm achos de ni’n nabod ein gilydd mor dda."

Disgrifiad o’r llun,

Yn anffodus ni fydd Karla yn gallu chwarae ar ôl iddi dorri pont ei hysgwydd

Yn anffodus, nid pob aelod o'r tîm fydd ar gael ar gyfer y gêm fawr yng Nghaerdydd.

Dywedodd Karla, a dorrodd pont ei hysgwydd yn y rownd gynderfynol: "Dwi'n gutted achos bo fi ddim yn chware ond dwi’n gwybod fase’r tîm yn gallu gwneud yn dda a bydda i yne i gefnogi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "achlysur enfawr i’r ardal a’r ysgol", meddai'r swyddog rygbi, Euros Jones

Euros Jones ydy swyddog rygbi Ysgol Godre’r Berwyn a hynny ers degawd bellach.

Mae’r swydd yn bartneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru, Clwb Rygbi’r Bala ac Ysgol Godre’r Berwyn.

Mae'n gweithio hefo’r ysgolion cynradd sy’n bwydo Ysgol Godre’r Berwyn hefyd a dywedodd bod y rownd derfynol yng Nghaerdydd yn "achlysur enfawr".

"Yma yn Y Bala mae’r gwaith de ni’n neud yn y cynradd hefyd yn llwyddiant mawr achos ma' nhw’n cyrraedd Ysgol Godre’r Berwyn yn barod i chwarae a wedi cael blas ar y gêm yn yr ysgolion cynradd... plannu’r hedyn iddyn nhw fwynhau chwarae rygbi.

"Achlysur enfawr i’r ardal a’r ysgol… fwy na dim ma' nhw wedi gwneud yn dda iawn i gyrraedd y rownd derfynol wedyn mwynhau’r diwrnod sy’n bwysig… yr achlysur fwy na’r canlyniad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r genod wedi "rhoi Bala ar y map", meddai Bethan Emyr, Pennaeth Ysgol Godre’r Berwyn

Ac mae Bethan Emyr, Pennaeth Ysgol Godre’r Berwyn yn hynod o falch o lwyddiant y disgyblion, gan ddweud bod 'na gynnwrf mawr wrth i bawb droi eu golygon am Gaerdydd.

"Mae’r genod a’r plant i gyd wedi arfer chware efo’i gilydd ers pan ma' nhw’n betha' bach iawn ac oherwydd hynny yn chware fel tîm ac yn nabod ei gilydd a nabod cryfderau ei gilydd felly da ni’n falch iawn ohonyn nhw.

"Mae wedi bod yn dipyn o daith… mae o’n braf iawn bod nhw’n rhoi Bala ar y map, bod nhw’n rhoi'r ysgol ar y map ond hefyd y profiad ma' nhw’n mynd i’w gael yn chware yn y Principality a chael gweld timau eraill, y cysylltiad yn erbyn timau eraill a’r profiad o’r peth i gyd a da ni’n falch iawn ohonyn nhw."

Pynciau cysylltiedig