Gwahodd Gary Lineker i'r Bala ar ôl sylw 'cynghrair ffermwyr'

  • Cyhoeddwyd
Gary Lineker a Will EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyflwynydd Gary Lineker fod Will Evans (dde) "wedi mynd o gynghrair ffermwyr i'r llwyfan fawr"

Mae un o glybiau pêl-droed y gogledd wedi gwahodd y cyflwynydd Gary Lineker i'w gwylio yn chwarae, wedi iddo ddisgrifio prif gystadleuaeth Cymru fel "cynghrair ffermwyr".

Yn dilyn gêm Cwpan FA Lloegr rhwng Casnewydd a Manchester United brynhawn Sul fe wnaeth Lineker y sylw wrth gyfeirio at ymosodwr yr Alltudion, Will Evans.

Roedd Evans yn arfer gweithio ar fferm ei dad ym Mhowys tra'n chwarae yn y JD Cymru Premier i Met Caerdydd ac yna'r Bala.

Ond ers arwyddo i Gasnewydd yn Adran Dau mae wedi addasu'n dda i bêl-droed proffesiynol gan rwydo 15 gwaith yn y gynghrair y tymor hwn.

Llwyddodd hefyd i sgorio yn erbyn Manchester United, er i'w dîm golli o 4-2 yn y pen draw yn dilyn ymdrech ddewr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Will Evans (crys gwyn) yn arfer chwarae i'r Bala yn y JD Cymru Premier cyn gwneud y naid o bêl-droed rhan amser

Wedi'r gêm ar Rodney Parade - oedd yn cael ei darlledu'n fyw ar BBC One - dywedodd Lineker: "Roedd [Will Evans] yn gweithio ar fferm 18 mis yn ôl ac yn chwarae i'r Bala.

"Mae wedi mynd o gynghrair ffermwyr i'r llwyfan mawr yng Nghwpan FA Lloegr."

Nid Evans oedd yr unig gyn-chwaraewr o Uwch Gynghrair Cymru i ymddangos i Gasnewydd brynhawn Sul, gyda James Waite a Nathan Wood ill dau wedi arwyddo i Gasnewydd o glwb Penybont.

Ond cafodd sylwadau Lineker eu beirniadu ar y gwefannau cymdeithasol gan rai sy'n gysylltiedig â'r gynghrair, sydd bennaf yn cynnwys chwaraewyr lled-broffesiynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gary Lineker (dde) yn cyflwyno'r gêm rhwng Casnewydd a Manchester United ar BBC One

Ar wefan X dywedodd cadeirydd Caernarfon, Paul Evans, eu bod yn "nodweddiadol o rywun sydd ddim yn gwybod dim byd amdano".

Mae Cymru Fyw wedi cysylltu â Gary Lineker am sylw, ond yn ymateb ar X wedyn dywedodd Lineker fod ei sylw yn gyfeiriad i gefndir Evans fel ffermwr, dolen allanol.

'Croeso bob tro'

Dywedodd ysgrifennydd CPD Tref y Bala, Ruth Crump, fod y sylw yn un "anffodus" ond mae'n bendant fod prif gynghrair bêl-droed Cymru yn haeddu "mwy o barch a sylw".

O ganlyniad mae'r clwb wedi gwahodd cyn-ymosodwr Spurs, Barcelona, Everton a Lloegr i wylio gêm gynghrair ar Faes Tegid, dolen allanol.

Dywedodd Ruth Crump wrth Cymru Fyw y byddai Lineker yn cael croeso cynnes pe bai'n derbyn gwahoddiad y clwb.

Disgrifiad o’r llun,

Ruth Crump: "Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn deall y gwaith sydd tu ôl i redeg y clybiau yma"

"'De ni'n hynod o falch o ddatblygiad Will hefo Casnewydd a 'da ni dal mewn cysylltiad wythnosol, 'de ni'n dilyn ei yrfa ac yn hynod falch ohono.

"Oedd ei dalent yn amlwg i'w weld pan oedd o hefo ni, hogyn sy'n gweithio'n galed iawn a 'da ni'n gweld fod y gwaith yn talu rŵan.

"Mae'n cynghrair ni o safon uchel ac yn haeddu gwell, dylse fod 'na fwy o sylw.

"Mae'r timau yng Nghymru yn cael y cyfle i chwarae yn Ewrop a dydi'r cyfle yna ddim yna i glybiau o'n safon ni yn Lloegr.

"Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn deall y gwaith sydd tu ôl i redeg y clybiau yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Lineker wedi ei wahodd i wylio gêm ym Maes Tegid, sef cartref CPD Tref y Bala

O ran sylwadau Lineker, ychwanegodd: "Fe ddywedodd Lineker am farmers league, dwi ddim yn meddwl mai dyna oedd yn ei olygu, dwi'n credu oedd yn trio dweud ei fod yn ffermwr ac yn chwarae yng Nghynghrair Cymru a fod o wedi dod allan yn anghywir ganddo.

"Mae gen i bryder am effaith ei sylwadau ar noddwyr, gan fod pob clwb yn ceisio cael cymaint o noddwyr ag y gallan nhw. Ry'n ni'n ffodus yma bod ein noddwyr wedi bod gyda ni ers dros 20 mlynedd, ond doedden nhw ddim yn ei weld yn ddoniol!

"Wedi dweud hynny, mae 'na groeso i Gary Lineker yma bob tro."