Cydweithio dros y ffin er mwyn 'gwneud bywyd lot haws'
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd partneriaeth newydd rhwng cynghorau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn gwella cyfleoedd swyddi, addysg a mynediad at yr iaith Gymraeg.
Dros y 18 mis nesaf mi fydd cynghorau sir Amwythig, Powys, Henffordd a Mynwy yn cwrdd yn gyson i wireddu uchelgeisiau sy’n bwysig naill ochr y ffin.
Mae’r cytundeb newydd sy’n ymestyn ar draws dwy wlad, pedair sir a thair plaid wleidyddol wedi ei ddisgrifio fel un “llawn ewyllys da” - fydd yn dod o hyd i atebion newydd i hen bryderon.
Mi fydd yr argyfwng newid hinsawdd hefyd yn derbyn sylw, a’r disgwyl yw y bydd hi’n haws i’r cynghorau wneud ceisiadau am grantiau ar faterion cyffredin.
Ar draws y bedair sir, mae dros 700,000 o drigolion yn byw, a’r ardal yn un bennaf amaethyddol.
I nifer mae’r ffin felly yn un artiffisial gyda phobl yn teithio i’r naill gyfeiriad bob dydd i weld teulu, derbyn addysg, i weithio a siopa.
Tra bod y ffin yn anweladwy i nifer, mae sawl enghraifft o wahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr sy’n gwneud bywyd yn y rhan yma o’r Deyrnas Unedig yn anodd.
I drigolion Cymru sydd dros 60 oed, does dim modd defnyddio pas bws sy’n gymwys yng Nghymru dros y ffin yn Lloegr.
Mae cynghorau’r ardal hefyd yn dweud eu bod wedi methu allan ar grantiau a buddsoddiad gan nad oedd modd cydweithio a theilwra ceisiadau.
Mae’r cytundeb newydd yn arwydd o’r hyn all ddod i gymunedau'r ardal medd gwleidyddion, ac yn Siop Cwlwm sydd yng nghanol Croesoswallt, mae ‘na groeso mawr.
“Fydde cydweithio rhwng y siroedd yn gwneud bywyd lot haws”, meddai’r perchennog Lowri Roberts.
“Da chi methu teithio yn yr ardal yma heb groesi’r ffin, mae o ym mhob man a fyddai’n mynd i nôl y plant o’r ysgol y prynhawn 'ma ac yn croesi’r ffin.
“Felly fydde cydweithio yn helpu’n fawr."
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
Mae’r ardal sy’n ymestyn ar draws y ffin yn un bennaf amaethyddol a’r boblogaeth yn heneiddio, sy’n golygu fod mynediad at wasanaethau yn gallu bod yn fwy costus a thyfu’r economi yn heriol.
Mi fydd tai, yr economi a gwydnwch cymunedau gwledig yn flaenoriaeth yn ôl Arweinydd Cyngor Powys, James Gibson-Watt.
“Mae’n rhaid gwneud y mwyaf o’r bunt gyhoeddus”, meddai.
“Dwi wir yn meddwl fod cyfle rŵan i wneud arbedion ond gwneud gwelliannau i wasanaethau gyda’r un maint o bres... allwn ni wneud pethau yn well."
Yr ardal wedi 'nadu datblygiad ar brydiau'
Un enghraifft o hyn yw’r gwelliannau sydd bellach yn digwydd i gamlas Trefaldwyn.
Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Amwythig fe wnaed cais am gyllid i wella isadeiledd y gamlas, ond fe gafodd hynny ei wrthod gan fod y ceisiadau ar naill ochr y ffin yn rhy debyg.
Mae’r cynllun yn Lloegr bellach yn cael ei ariannu gan wirfoddolwyr, ond mi fydd y cytundeb newydd yn galluogi i’r ardal wneud cais am grantiau ar y cyd a gwneud y mwyaf o’r pwrs cyhoeddus.
“Mae o’n draws-bleidiol ac yn wirioneddol yn bartneriaeth”, medd y Cynghorydd Lezley Picton.
“Da ni’n gwbl unedig yn hyn a dwi’n meddwl all drigolion weld wrth inni weithio ar y cyd fe allwn i ffeindio atebion i’w pryderon."
Yn ôl gwleidyddion ar y ddwy ochr, mae’r ffin sy’n ymestyn dros 160 o filltiroedd ar hyd y gororau wedi nadu datblygiad ar brydiau.
Mi fydd y bartneriaeth newydd felly yn ceisio gwneud y mwyaf o’r hyn sy’n gyffredin rhwng trigolion sy’n byw bob ochr i Glawdd Offa.