Skates: Yr etholiad cyffredinol yw 'her fwyaf Llywodraeth Cymru'

Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ken Skates mai'r etholiad cyffredinol yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Lafur Cymru

  • Cyhoeddwyd

Yr etholiad cyffredinol yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Lafur Cymru, yn ôl un o aelodau blaenllaw y blaid yng Nghymru.

Fe wnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wadu fod ei blaid wedi colli ffocws.

Ond dywedodd "nad oes gwadu" eu bod wedi ffocysu ar "yr etholiad cyffredinol sydd ar y gweill a'r angen i gael gwared ar y Torïaid".

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd yr wythnos hon.

Er iddo ddweud ei fod am barhau yn ei rôl, mae'r gwrthbleidiau wedi awgrymu na fydden nhw'n cefnogi'r llywodraeth i basio cyllideb.

Pan gafodd ei holi ar raglen BBC Politics Wales am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn llywodraethu ac yn pasio deddfau heb fwyafrif, dywedodd Ken Skates y "bydd popeth yn newid ar 5 Gorffennaf os byddwn yn deffro i Lywodraeth Lafur newydd yn y DU. Mae'n rhaid i ni ennill yr etholiad cyffredinol".

"Mae Vaughan yn benderfynol o lwyddo er lles pobl Cymru," meddai.

'Llywodraeth Cymru wedi ei barlysu'n llwyr'

Dywed Mr Skates: "Rydym wedi gweld yr wythnos hon yng nghyd-destun tâl meddygon, rydym wedi ei weld gyda'r gwelliannau sylweddol ar gyfer rheilffyrdd gan Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn gweithredu, a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies "gyda Vaughan Gething wrth y llyw, mae Llywodraeth Cymru wedi ei barlysu'n llwyr ac yn methu canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl gan gyflwyno'r newid sydd ei angen i achub gwasanaethau cyhoeddus Cymru".

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Ydi mae'r etholiad yn bwysig i bawb ond allwn ni ddim cael llywodraeth sydd yn anwybyddu pleidlais ddemocrataidd, yn mynd ymlaen fel tasa 'na ddim byd o'i le pan mae angen rhoi ymddiriedaeth yn y llywodraeth heddiw yn flaenoriaeth."

Dywed Mr Skates nad oedd Vaughan Gething wedi ystyried ymddiswyddo, ac yn hytrach fod ganddo "gefnogaeth ei gyd-weithwyr".

Er hyn, mae rhai o fewn y grŵp Llafur yn y Senedd wedi cwestiynu a fydd Mr Gething yn parhau.

Dywed Jenny Rathbone AS, y bydd yn rhaid iddyn nhw "aros a gweld" os all Vaughan Gething barhau.

Fe wnaeth y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford, gyfraniad angerddol i'r Senedd yr wythnos hon yn dilyn y penderfyniad i ohirio newidiadau i ddyddiadau tymhorau ysgol.

Dywedodd eu bod yn "rhoi'r gorau i ymrwymiad maniffesto a gafodd ei wneud gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf".

Ychwanegodd Mr Kates ddydd Sul: "Rydym yn cydnabod gofidiau pobl o fewn y grŵp ac rydym yn blaid agored ac mae gan Mark Drakeford angerdd eithriadol tuag at bynciau sy'n agos at ei galon."