Pwy sy'n canu am Gwenllian?
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae'n Ddiwrnod Tywysoges Gwenllian ar 12 Mehefin. Dyma ddiwrnod i gofio unig ferch Llywelyn Ein Llyw Olaf.
Cafodd Gwenllian ei dal gan y Saeson pan oedd hi'n fabi.
Yna cafodd hi ei charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham, Lloegr.
Fe wnaeth Gwenllian farw yn 55 mlwydd oed heb wybod pwy oedd ei theulu nac o le roedd hi'n dod.
Mae stori Gwenllian yn drist ond mae ei henw a'i hanes yn fyw o hyd.
Ac yng ngwlad y gân, mae'r enw Gwenllian wedi ysbrydoli sawl artist neu fand...
Gwenllian gan Meic Stevens
Mae’r canwr o Sir Benfro, Meic Stevens, wedi ysgrifennu cân serch i Gwenllian.
Yn ôl Meic Stevens, 'Hi sydd yn adlewyrchu golau’r hydref yn ei wallt'.
Mae'r gân i'w chlywed ar ei albwm Baledi - Dim ond cysgodion.
Albwm Gwenllian gan Llio Rhydderch
Mae gan y delynores Llio Rhydderch albwm o'r enw Gwenllian.
Disgrifiodd y cerddor Cerys Matthews Llio fel athrylith.
Cafodd Llio ei dysgu i chwarae'r delyn gan Nansi Richards, 'brenhines y delyn deires'.
Y delyn deires yw telyn draddodiadol Cymru.
Gwenllian Fach gan Endaf Emlyn
Stori Gwenllian sydd wedi ysbrydoli Endaf Emlyn yn ei gân Gwenllian Fach.
Doedd Gwenllian ddim yn gwybod mai Cymraes oedd hi, ac mai Cymraeg oedd iaith ei theulu.
Mae Endaf Emlyn yn canu, 'Er iddynt ddwyn dy iaith, ni fedrent ddwyn dy urddas di'.
Gwenllian gan Beth Celyn
'Gwenllian, ti oedd piau dy galon'.
Dyna mae Beth Celyn yn ei ganu yn ei chân Gwenllian.
Mae Beth hefyd yn canu am ferch arall sef Arianrhod, cymeriad yn Y Mabinogi.
Ysgrifennodd Beth y gân Arianrhod ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2020.
Gwenllian gan Calfari
'Gwenllian, tithau’n mynd heb boeni dim, Gwenllian, tyrd yn ôl!'
Dyna beth mae'r band Calfari yn ei ganu.
Mae Gwenllian, yn amlwg, wedi torri calon un aelod o'r band...
Gwenllian gan Hergest
'Gwenllian ydy ei henw hi! Gwenllian, meddwl amdanat ti!'
Dyna mae Hergest yn ei ganu. Pa Gwenllian wnaeth swyno bechgyn Hergest tybed?
Hergest oedd un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn yr 1970au.
Ar Ddiwrnod Tywysoges Gwenllian, beth am wrando ar y caneuon yma? Mwynhewch.
Geirfa
carcharu/imprison
priordy/priory
ysbrydoli/inspire
cân serch/love song
adlewyrchu/reflect
telynores/harpist
athrylith/genius
y delyn deires/the triple harp
traddodiadol/traditional
urddas/dignity
Y Mabinogi/a collection of Welsh folk-tales
cystadleuaeth/competition
torri calon/broken heart
aelod/member
swyno/charm
poblogaidd/popular
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd9 Mai