O Las Vegas i Landaf

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Catrin Turner
Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn chwarae rygbi i dîm merched Ystum Taf

Mae Catrin Turner yn dod o Las Vegas ac yn siarad Cymraeg.

Symudodd Catrin i Gymru yn 2021 ac mae hi wedi chwarae rygbi yn Stadiwm y Principality yn barod.

Ond sut mae merch o Las Vegas yn siarad Cymraeg yn rhugl?

Bywyd yn Las Vegas

Cafodd Catrin ei magu yn Las Vegas, yn un o bump o blant. Mae Catrin, ei dwy chwaer a’i dau frawd yn siarad Cymraeg ers eu bod yn blant.

“Mae Mam yn dod o Aberystwyth. Roedd Mam yn siarad Cymraeg gyda ni, roedd hi’n bwysig iawn iddi hi ein bod ni’n siarad Cymraeg,” meddai Catrin.

“Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, gwnaeth Mam gyfarfod Dad pan roedd hi’n teithio yn Arizona.

“Dyw hi ddim wedi symud ’nôl i Gymru ers priodi Dad.”

Ffynhonnell y llun, Catrin Turner
Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn Las Vegas

Gwyliau haf yng Nghymru

Mae gan Catrin atgofion melys o fynd ar wyliau i Gymru dros yr haf.

Meddai: “Roedden ni’n dod ’nôl i Gymru bob haf. Weithiau gyda Dad, weithiau ddim.

“Roedden ni’n mynd i wersylla, mynd i’r Bala, Casnewydd, Caerdydd ac Aberystwyth.

“Ro’n i’n caru mynd i Aberystwyth.”

Oeddech chi’n siarad Cymraeg fel teulu bob tro?

“Dw i’n siarad Cymraeg gyda Mam bob tro. Mae Dad yn ychydig o genius, mae e wedi dysgu Cymraeg hefyd. I fi, mae hynny yn anhygoel.

“Dw i’n siarad mwy o Saesneg gyda Dad ond pan mae pawb gyda’i gilydd, 'dyn ni’n siarad Cymraeg.”

“Pan o’n i’n mynd i’r siop gyda fy mrodyr a fy chwiorydd, roedd pawb yn meddwl ein bod ni’n dod o Sweden achos 'dyn ni i gyd yn blonde!”

Ffynhonnell y llun, Catrin Turner
Disgrifiad o’r llun,

Catrin gyda'i rhieni, ei brodyr a'i chwiorydd

Symud i Gymru

Mae Catrin wedi teimlo cysylltiad gyda Chymru erioed.

Meddai: “Mae Las Vegas 10 awr i ffwrdd ar awyren, ond dw i wastad wedi teimlo cysylltiad gyda Chymru.”

Dyna pam gwnaeth Catrin benderfynu symud i Gymru yn 2021.

“Ro’n i yn gwybod fy mod i isio byw yng Nghymru fel oedolyn.

“Ond pan wnes i symud yma, do’n i ddim yn bwriadu byw yma am amser hir. Ond nawr mae hi’n 2024 a dw i yma o hyd. Dw i’n byw yng Nghaerdydd ac yn joio!”

Ffynhonnell y llun, Catrin Turner
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae rygbi i dîm Las Vegas Rugby

Chwarae rygbi

Un o’i diddordebau yw chwarae rygbi ac mae hi wedi ymuno â thîm merched Ystum Taf.

“Gwnes i ddechrau chwarae rygbi yn Las Vegas. Ro’n i’n chwarae i Las Vegas Rugby pan o’n i yn y brifysgol. Dyw llawer o Americanwyr ddim yn gwybod beth yw rygbi, ond ro’n i, fel hanner Cymraes yn gwybod.

Yn ddiweddar, chwaraeodd Catrin yn erbyn tîm Blaendulais yn Stadiwm y Principality. Y sgôr derfynol oedd 85 i Ystum Taf, 14 i Blaendulais.

“Roedd e’n gyfle anhygoel. Roedden ni’n hyderus yn mynd mewn i’r gêm ond do’n ni ddim yn disgwyl ennill gyda chymaint o bwyntiau!

“Dw i wedi dod yn ffrindiau da gyda’r merched rygbi. Ry’n ni’n cael cymaint o hwyl.”

Un peth arall sy’n rhoi hwyl i Catrin yw gweld ymateb pobl yng Nghymru pan fydd hi’n siarad Saesneg.

Meddai wrth chwerthin: “Pan dw i’n siarad Cymraeg mae pawb yn meddwl fy mod i'n dod o Gymru, felly pan dw i’n siarad Saesneg maen nhw’n cael cymaint o sioc!”

Ffynhonnell y llun, Catrin Turner
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae rygbi i dîm merched Ystum Taf

Geirfa

rhugl/fluent

chwaer/sister

brawd/brother

graddio/graduate

atgofion melys/sweet memories

haf/summer

gwersylla/to camp

brodyr/brothers

chwiorydd/sisters

cysylltiad/connection

oedolyn/adult

bwriadu/intend

Cymraes/Welsh-woman

sgôr derfynol/final score

cyfle/opportunity

hyderus/confident

disgwyl/expectation

cymaint/as many

ymateb/reaction

Pynciau cysylltiedig