Lle oeddwn i: Ysbryd y Nos

Cleif Harpwood a Lost Boys and FairiesFfynhonnell y llun, Cleif Harpwood/BBC
  • Cyhoeddwyd

Mae’r gân Ysbryd y Nos gan Edward H Dafis wedi hen ennill ei phlwy’ fel un o ganeuon anthemig y gymuned Gymraeg ar lwyfan, mewn gwyliau ac yn y dafarn.

Ond â hithau wedi ymddangos ar bennod ddiweddara’r gyfres Lost Boys and Fairies ar BBC One – cyfres ddwyieithog gyntaf BBC Cymru – gallai niferoedd ffans y gân estyn ymhellach na Chymru.

Cleif Harpwood sy’n cofio pryd y cyfansoddodd y clasur.

Ysbrydoliaeth

Ffynhonnell y llun, Cleif Harpwood
Disgrifiad o’r llun,

Cleif Harpwood yn gweithio yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ddechrau'r 1970au

Nôl ar ddechrau'r 70au y cafodd y gân ei chyfansoddi, ac mae Cleif yn egluro mai yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog oedd o pan gafodd yr ysbrydoliaeth i'w sgwennu.

"Ro'n i'n un o staff haf gwersyll yr Urdd yn Llangrannog," meddai, "a phan fydde'r cyfle'n codi ro'n i wrth fy modd yn cerdded llwybre'r clogwyni uwch Ynys Lochtyn gerllaw'r gwersyll."

Roedd Cleif wrth ei fodd yn eistedd yn edrych dros y bae ar olau Ynys Enlli yn y pellter a gwrando ar sŵn y tonnau ar draeth yr ynys islaw: "Ro'dd unigedd a naws y lle'n apelio'n fawr ac yn rhyfedd iawn ro'n i'n synhwyro rhyw bresenoldeb hynaws ar led yno.

"Wedi dychwelyd i'r gwersyll un noson dyma fwrw ychydig eirie ar bapur o'dd yn cyfleu'r profiad a syniad am gân."

Ffynhonnell y llun, Cleif Harpwood
Disgrifiad o’r llun,

Cleif ar Ynys Lochtyn ychydig flynyddoedd yn ôl

Albymau'r '70au

Haf 1975 oedd hi ac roedd ei fand Edward H Dafis wedi rhyddhau eu hail albwm, Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw. Roedd e'n edrych mlaen at recordio albwm arall rhywbryd yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd: "Pan dda'th y cyfle, a ninne'n chwilio am ddeunydd newydd, dyma ystyried y syniad anorffenedig am Ynys Lochtyn.

"Aeth Edward H i'r stiwdio ym mis Mai, 1976, ond fe benderfynwyd creu albym thematig, 'Sneb yn Becso Dam, am hanes Lisa'r ferch o Bant Du a do'dd baled unigol fel cân Ynys Lochtyn ddim yn gweddu i'r albym honno."

Ffynhonnell y llun, Cleif Harpwood
Disgrifiad o’r llun,

Edward H Dafis yn yr 1980au

Chafodd Ysbryd y Nos 'mo'i rhyddhau tan 1979 yn y diwedd - yn ystod ail gyfnod Edward H a chafodd ei chynnwys yn yr albym Yn Erbyn y Ffactore.

"Ro'dd angen tipyn o waith datblygu arni," meddai Cleif, "a gyda chymorth Hefin Elis fe grëwyd Ysbryd y Nos. Mae Hefin yn gymaint rhan o’r gân â finnau.

"Fi ‘naeth grefftio’r rhan fwyaf o’r geiriau a’r syniad o’r gân, ond naethon ni rannu’r alaw. Mae’n un sy wastad yn y cefndir, er mai fe mewn gwirionedd oedd yn gyrru lot fawr o gerddoriaeth Edward H.

"Fel band doeddwn ni ddim yn ei hystyried yn gân arbennig iawn ac fe'n synnwyd gan ymateb y gynulleidfa ar y pryd."

Cynulleidfa newydd

Pedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r gân wedi ymddangos ar gyfres mewn slot primetime ar BBC One, Lost Boys and Fairies.

Mae'r gyfres yn adrodd stori cwpl hoyw ar siwrne i fabwysiadu plentyn, ac mewn golygfeydd dirdynnol, mae’r prif gymeriad, Gabriel, yn cofio arwyddocad y gân Ysbryd y Nos yn ei blentyndod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gân Ysbryd y Nos yn cael ei chlywed wrth i Gabriel (dde) hel atgofion am ei blentyndod yn y gyfres Lost Boys and Fairies ar BBC One

Cafodd Cleif dipyn o sypreis pan glywodd y gân gyfarwydd, meddai:

"Ges i sioc o glywed y gân ar y rhaglen! O’n i’m yn disgwyl nac yn ymwybodol eu bod nhw’n defnyddio’r gân a dweud y gwir.

"Dwi’n falch, ac mae’n dipyn o gompliment falle ei fod yn cael ei ddefnyddio. O’n i’n meddwl fod y gyfres ei hun wedi ei chrefftio’n dda iawn, ac yn symud yn dda."

Â'r gyfres yn cael ei darlledu ledled Prydain, a thu hwnt, mae'r glasur bellach wedi cyrraedd clustiau miloedd o wylwyr tu allan i Gymru, a hynny am y tro cyntaf.

"Dwi’n gwybod fod yna bobl ar draws y byd wedi ei defnyddio hi; cymdeithasau Cymraeg ac yn y blaen. Ond o fewn cylchoedd Cymraeg mae hi wedi cael ei defnyddio’n bennaf.

"Fydden i’n dweud ei bod hi yn beth braf fod pobl yn clywed ein cerddoriaeth ni. Mae’n biti fod yna ddim mwy o gerddoriaeth Gymraeg yn cael ei defnyddio o fewn i gyfresi cenedlaethol Prydeinig.

"Ni’n nghanol recordio albwm nawr, felly ‘nawn ni weld beth ddaw o honno..."