Mewnfudo: Un o brif bynciau'r pleidiau cyn yr etholiad

ffoaduriaidFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Un o brif bynciau trafod yr ymgyrch etholiadol yw mudwyr a cheiswyr lloches, ac mae sawl dadl chwyrn wedi bod wrth i'r pleidiau gyflwyno eu gweledigaeth.

Mae hwn yn bwnc sydd yn gyson yn cael ei nodi fel un o'r pwysicaf ymysg pleidleiswyr - ochr yn ochr â phynciau fel iechyd a'r economi.

Un dinas sydd yn gyfarwydd iawn â phobl yn cyrraedd i fyw a gweithio yw Wrecsam.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd fe ddaeth nifer o Bwyliaid i fyw yn yr ardal, ac yn fwy diweddar mae teuluoedd sydd wedi ffoi o Syria wedi symud i'r ddinas.

Ers sawl blwyddyn mae Wrecsam hefyd wedi bod yn un o'r trefi sydd wedi ei dynodi gan y Swyddfa Gartref yn ganolfan ar gyfer lletya ceiswyr lloches sy’n cyrraedd y DU.

Aled Lewis Evans
Disgrifiad o’r llun,

'Mae croeso i ffoaduriaid yn Wrecsam,' medd y Parchedig Aled Lewis Evans

"’Dw i'n meddwl bod yna wastad, ar hyd y canrifoedd, wedi bod traddodiad o wahanol ddiwylliannau yn cyfarfod,” medd Y Parchedig Aled Lewis Evans, Gweinidog Capel y Groes ac Ebeneser yn y ddinas.

“Ac wedyn 'dw i'n meddwl am rywun fel Morgan Llwyd yn dod o Ardudwy i Wrecsam ac yn dylanwadu ar bobl a dechrau Piwritaniaeth.

“Mae e’ wedi digwydd ar hyd yr amser, ond rwan mae pobl o wledydd y byd yma ac ry’n ni yn eu croesawu yn yr ardal hon."

Croeso lleol yn 'codi calon'

Yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn, fe wnaeth nifer y mudwyr wnaeth gyrraedd Prydain ar ôl croesi’r sianel gyrraedd record newydd, a'r cyfanswm yn agos at 13,000 hyd at ddiwedd Mehefin.

Mae cynlluniau i leihau nifer y mudwyr anghyfreithlon a’r rheiny sy’n cyrraedd yn gyfreithlon, ynghyd â thaclo problem y nifer fawr o fudwyr sy’n disgwyl penderfyniad ar eu statws lloches, ymhlith y pynciau trafod mawr yn yr etholiad yma.

Bob Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffoaduriaid sydd wedi symud i Wrecsam yn codi calon, medd Bob Edwards

Mae pobl Wrecsam yn dilyn y dadleuon yn ofalus, medd un arall o’r trigolion Bob Edwards.

"’Dwi’n meddwl fod Wrecsam wedi croesawu pobl yn dda iawn.

“Rwy’n mynd o gwmpas y dref fin nos ar y beic a 'dw i’n gwrando ar bobl, ac rwy’n sylwi bod nifer sydd wedi dod yma wedi agor caffis a bwytai ym mhob man yma, ac maen nhw i weld yn hapus yn Wrecsam.

“Mae pobl leol yn mynychu rhai o'r bwytai yma. Maen nhw hefyd yn dod i mewn â sgiliau sydd eu hangen ar bobl leol. Mae just yn le arbennig ac yn codi calon rhywun.”

'Mae'n gallu bod yn broses anodd'

Fel Wrecsam, mae Abertawe wedi ei chlustnodi yn Ddinas Noddfa ers 2010 – y gyntaf yng Nghymru a’r ail yn y DU.

Mae hyn yn golygu ei bod yn ddinas sy'n ceisio croesawu a chynnig noddfa i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, trais neu erledigaeth. Mae hefyd yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac yn dathlu eu cyfraniad at fywyd y ddinas.

Symudodd Otis Bolamu i'r DU wyth mlynedd yn ôl ar ôl gorfod ffoi o’i gartre’ yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo i geisio lloches.

Fe gafodd statws ffoadur yn y DU yn 2022 ac mae e’ nawr yn fyfyriwr yn Abertawe.

Otis Bolamu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Otis Bolamu yn diolch am y croeso yn Abertawe

"Rwy’ wedi cael croeso yma, mae pobl yn garedig ac rwy’ wedi dechrau fy mywyd newydd yma. Ar ôl cael statws ffoadur rwy’n gallu gweithio ac mae gen i swydd ac rwy’n astudio yma nawr hefyd.

“Mae pobl fel fi yn gallu cyfrannu at gymdeithas yng Nghymru gyda sgiliau. Ond mae’n gallu bod yn broses anodd i lawer o bobl sydd wedi gorfod gadael popeth ar ôl gadael eu gwlad a'u cartre’, ac mae llawer yn gallu wynebu straen meddyliol.

“‘Dw i am ddweud wrth bobl i beidio â rhoi fyny.”

Mae anghenion pobl sy’n cyrraedd Cymru a rhannau eraill o'r DU yn aml yn fawr ac yn amrywio o ofal iechyd meddwl i nwyddau bob dydd.

Yn ôl y Gweinidog Aled Lewis Evans, mae capeli Wrecsam a mudiadau lleol yn trio'u gorau i helpu.

"’Dyn ni’n hwyluso gwahanol fudiadau i ddod yma i wneud banc bwyd a'r Groes Goch, ac mae pawb yn helpu â gwahanol elfennau yn eu bywydau.”

Mae elusen y Groes Goch yn weithgar iawn yn Wrecsam yn cynorthwyo mudwyr a cheiswyr lloches.

Dywed Phil Arnold, pennaeth gwasanaeth cefnogi ffoaduriaid yr elusen: "Ni yw’r cyflenwr annibynnol mwyaf o wasanaethau i ffoaduriaid yn y DU.

"Bob dydd mae ein timoedd yn cefnogi dynion, menywod a phlant sy’n chwilio am ddiogelwch ar ein glannau.

“Yn y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi cefnogi 2,400 o bobl yng Nghymru o wledydd fel Syria, Irac, Iran ac Afghanistan."

Ar strydoedd trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru a gweddill y DU mae lloches a mudo wedi bod yn bwnc trafod ers degawdau.

Maen nhw nawr hefyd yn rhan allweddol o'r ymgyrchu, a'r frwydr am allwedd rhif 10.

Barn y pleidiau

Y Blaid Geidwadol

  • Atal pobl sy’n cyrraedd yn anghyfreithlon rhag hawlio lloches yn y DU;

  • Cyflawni'r hediadau i Rwanda i rwystro mewnfudo anghyfreithlon;

  • Bod yn llymach ar smyglwyr pobl.

Y Blaid Lafur

  • Creu Canolfan Diogelwch y Ffin gyda phwerau gwrthderfysgaeth i fynd i’r afael â smyglo pobl a gangiau masnachu pobl;

  • Canslo hediadau ceiswyr lloches i Rwanda;

  • Lleihau mewnfudo net.

Plaid Cymru

  • Cael gwared ar gynllun Rwanda, gan greu llwybrau diogel a chyfreithlon i geiswyr lloches gael mynediad i’r DU;

  • Dod â’r system ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ i ben;

  • Datganoli pwerau mewnfudo allweddol i Gymru.

Reform UK

  • Rhewi mewnfudo, ar wahân i’r rhai sydd â sgiliau hanfodol fel ym maes iechyd;

  • Mynnu fod rhaid bod yn y wlad am bum mlynedd cyn hawlio budd-daliadau.

Y Blaid Werdd

  • Croesawu ac amlygu cyfraniadau mewnfudwyr a ffoaduriaid i gymdeithas.

Democratiaid Rhyddfrydol

  • Darparu llwybrau diogel a chyfreithlon tuag at loches i ffoaduriaid;

  • Disodli’r Swyddfa Gartref gydag Adran Fudo newydd.