Littler a chwaraewyr dartiau gorau'r byd yng Nghaerdydd

(O'r dde i'r chwith) Peter Wright, Rob Cross, Nathan Aspinal, Luke Humphries, Michael van Gerwen, Michael Smith, Gerwyn Price, Luke LittlerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

(O'r dde i'r chwith) Peter Wright, Rob Cross, Nathan Aspinal, Luke Humphries, Michael van Gerwen, Michael Smith, Gerwyn Price a Luke Littler

  • Cyhoeddwyd

Bydd chwaraewyr dartiau gorau’r byd yn dod i Gaerdydd nos Iau – ac yn eu plith bydd y llanc ifanc a ddaeth yn seren dros nos.

Mae Luke Littler, sydd newydd droi’n 17, yn paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yn yr Uwch Gynghrair Dartiau, llai na mis ar ôl iddo gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd PDC - y chwaraewr ieuengaf i wneud hynny erioed.

Luke Humphries, a gurodd Littler yn y gêm honno, fydd ei wrthwynebydd unwaith eto yng Nghymru.

Hefyd yn cystadlu yn Arena Utilita mae’r Cymro a chyn-bencampwyr y byd Gerwyn Price, Michael van Gerwen, Michael Smith, Peter Wright, Rob Cross a Nathan Aspinall.

Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei goroni ar 23 Mai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gerwyn Price ymhlith y ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth

Mae cyn-bencampwyr y byd Cross a Wright yn cwrdd yn y gêm gyntaf yn rownd yr wyth olaf am 19:00 cyn i'r ffefryn cartref Price herio Aspinall.

Curodd Humphries Littler 7-4 yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd ar 3 Ionawr, gyda'r pâr bellach yn cymryd rhan yn eu hymgyrchoedd llawn cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Ers hynny mae Littler, Pencampwr Byd Ieuenctid presennol PDC, wedi mynd ymlaen i ennill Meistri Dartiau Bahrain 2024.

Littler fydd y chwaraewr ieuengaf i gymryd rhan yn yr Uwch Gynghrair.

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bedwyr Davies bod mwy o blant bellach yn mynychu er mwyn "gweld os oes bach o sbarc o dalent 'na"

Mae Academi Dartiau Iau Bedlam yn Llanbed wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl ifanc sydd eisiau dechrau chwarae'r gamp o ganlyniad i lwyddiant Littler.

"Mae'r 'Luke Littler effect' wedi cicio mewn - nid dim ond ym Mhrydain ond fi'n credu dros y byd i gyd," meddai'r hyfforddwr Bedwyr Davies.

"Mae lot mwy o interest. Mae'r plant ifanc moyn dod a trial chwarae darts - rhai sydd heb bigo darts lan o'r blaen.

"Maen nhw nawr yn troi lan i chwarae gyda ni pob wythnos am awr. Twlu darts a gweld os oes bach o sbarc o dalent 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys, Sion ac Osian yn falch o weld yr effaith mae Luke Littler wedi'i gael ar y gamp

Mae 'effaith Luke Littler' yn bendant i'w weld ar aelodau'r clwb.

"Mae 'di cael llawer o effaith arna i a'r clwb. Mae llawer o bobl newydd wedi dod ers bod e [Littler] mor successful," meddai Cerys, 12.

Ychwanegodd Sion, 13: "Mae'n helpu tynnu pobl ifanc i chwarae darts gyda'u ffrindiau.

"Maen nhw wedi gweld y 16 year-old ma'n chwarae, ag o'dd e wedi dechrau yn bedair mlwydd oed!"

Dywedodd Osian, 14 ei fod yn falch o weld "mwy o bobl yma sydd erioed wedi chwarae'r gêm. Ma' fe'n mynd yn fwy poblogaidd."

Sut mae'r Uwch Gynghrair yn gweithio?

Mae'r Uwch Gynghrair yn ymestyn dros 17 wythnos ac 17 lleoliad.

Ar bob achlysur, bydd y chwaraewyr yn cystadlu mewn pedair rownd gogynderfynol, dwy rownd gynderfynol ac yna'r rownd derfynol wythnosol.

Bydd pob chwaraewr yn cael un gêm rownd gogynderfynol yn erbyn pob un o’r saith cystadleuydd arall rhwng wythnosau un a saith, ac wythnosau naw a 15.

Ar 'noson wyth' a 'noson 16' bydd y rowndiau gogynderfynol yn cael eu penderfynu gan y safleoedd ar y pryd.

Bydd chwaraewyr sy’n cyrraedd y rownd gynderfynol yn ennill dau bwynt, gyda’r ail safle’r noson yn casglu tri phwynt a’r enillydd yn cael pump.

Cesglir y pwyntiau hynny drwy’r 16 wythnos gyntaf, gyda’r pedwar chwaraewr gorau wedyn yn symud ymlaen i noson y rowndiau terfynol yn Arena O2 yn Llundain ar 23 Mai.

Bydd dwy rownd gynderfynol, gyda’r rownd derfynol yn ddiweddarach y noson honno.

Bydd pencampwr eleni yn ennill £275,000, gyda’r ail safle yn casglu £125,000, tra bydd enillydd pob digwyddiad wythnosol yn ennill £10,000.

Amserlen lawn Dartiau Uwch Gynghrair 2024

Noson 1 - Arena Utilita, Caerdydd, 1 Chwefror

Noson 2 - Arena Mercedes-Benz, Berlin, 8 Chwefror

Noson 3 - OVO Hydra, Glasgow, 15 Chwefror

Noson 4 - Utilita Arena, Newcastle, 22 Chwefror

Noson 5 - Westpoint Arena, Caerwysg, 29 Chwefror

Noson 6 - Canolfan Brighton, Brighton, 7 Mawrth

Noson 7 - Arena Motorpoint, Nottingham, 14 Mawrth

Noson 8 – 3Arena, Dulyn, 21 Mawrth

Noson 9 – SSE Arena, Belfast, 28 Mawrth

Noson 10 - AO Arena, Manceinion, 4 Ebrill

Noson 11 - Utilita Arena, Birmingham, 11 Ebrill

Noson 12 – Rotterdam Ahoy, Rotterdam, 18 Ebrill

Noson 13 - M&S Bank Arena, Lerpwl, 25 Ebrill

Noson 14 - P&J Live, Aberdeen, 2 Mai

Noson 15 - Arena First Direct, Leeds, 9 Mai

Noson 16 – Utilita Arena, Sheffield, 16 Mai

Rowndiau Cynderfynol a Rownd Derfynol - 02 Arena, Llundain, 23 Mai

Pynciau cysylltiedig