Apêl heddlu wedi anhrefn gêm Fflint a Chaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n awyddus i gysylltu â phedwar person yn dilyn anhrefn mewn gêm bêl-droed ble cafodd ddyn anafiadau difrifol.
Bu'n rhaid gohirio'r gêm rhwng CPD Tref y Fflint a CPD Tref Chaernarfon ar 8 Ebrill, yn dilyn ymladd yn y dorf.
Cafodd dyn ei gludo o'r safle mewn ambiwlans awyr, a dywedodd yr heddlu ddydd Llun ei fod yn dal i wella o'i anafiadau.
Mae tri pherson 15, 19 a 41 oed a gafodd eu harestio yn parhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dydd Llun, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn awyddus i gysylltu gyda phedwar person ynglŷn â'r digwyddiad yn Stadiwm Essity yn Y Fflint.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un sy'n adnabod un o'r bobl yn y lluniau i gysylltu gyda nhw ar 101 neu drwy'r wefan.
Yn ogystal, dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2023