Oeddech chi yno? Hen bosteri Y Ddawns Rhyng-Gol

Mae poster y Ddawns Ryng-gol eleni, gan fyfyriwr Aberystwyth Meilyr Lynch, wedi ei ysbrydoli gan boster dawns 1981
- Cyhoeddwyd
"Doedden nhw'n ddyddiau da?" - wel oedden os mai £2.50 oedd pris tocyn i weld Geraint Jarman!
Mae'r Ddawns Ryng-golegol, sy'n digwydd yn Aberystwyth bob tymor yr hydref, yn noson bwysig yng nghalendr myfyrwyr Cymraeg ers degawdau.
Eleni, mae disgwyl cannoedd i heidio i'r coleg ger y lli ar nos Sadwrn, 25 Tachwedd, i wylio Candelas - ac mae'r poster hysbysebu wedi ei ysbrydoli gan un arall o'r 1980au.
Ac fel sy'n amlwg o'r oriel yma, mae'r posteri yma yn ffordd o ddweud rhan o hanes y sin roc Gymraeg.

Eicon y sin ac un sydd yn dal i greu cerddoriaeth heddiw wnaeth gloi'r Ddawns yn 1980 - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

Crys, o Gwm Nedd, oedd yno yn 1981 - y flwyddyn wnaeth y band roc trwm ryddhau eu halbwm cyntaf Rhyfelwr

Big Leaves, wnaeth rhyddhau eu clasur o albwm Pwy Sy'n Galw? yn y flwyddyn 2000, oedd y prif atyniad yn y Ddawns olaf mewn un ganrif a'r Ddawns gyntaf yn y ganrif nesaf

Dau brif fand gwahanol iawn o fewn blwyddyn i'w gilydd: y band roc Ap Ted a'r Apostolion, oedd yn canu nifer o glasuron yr 1970au a'r 80au, a'r band hip hop Pep Le Pew

Tri chynnig i Gymro... Estella, oedd yn rhan o'r lein yp yn 2001 a 2002, oedd y prif fand yn 2003. Mim Twm Llai (Gai Toms, fu'n fyfyriwr yn Aberystwyth ei hun ar ddiwedd yr 1990au) oedd yn cloi'r noson yn 2005

Band o Aberystwyth, Radio Luxembourg, oedd yn cloi 2006, ac ar y llwyfan flwyddyn yn ddiweddarach oedd band gafodd ei ffurfio gan fyfyrwyr Aberystwyth - Yr Ods
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023

Roedd 'na dipyn o barti yn 2008 efo dau fand oedd yn adnabyddus am eu perfformiadau byw lliwgar, llawn hwyl - y Genod Droog a Derwyddon Dr Gonzo

Sibrydion oedd yn cloi 2009, ac ymysg bandiau 2010 oedd grŵp newydd i'r sin ddaeth yn enw cyson ar y posteri am y 13 mlynedd nesaf - Candelas

Dau 'lejand' oedd ar y sin ers blynyddoedd ymysg y bandiau iau yn 2011 a 2012 - Huw Chiswell a Meic Stevens

Dau o enillwyr Cân i Gymru ar y llwyfan yn 2013: Geraint Løvgreen (Nid Llwynog oedd yr Haul) a Jessop a'r Sgweiri (Mynd i Gorwen hefo Alys). Roedd un o'r Sgweiri yn ei ôl y flwyddyn ganlynol yn cloi'r noson fel prif leisydd ei brif fand - Candelas

Roedd Yr Eira yn perfformio cyn Bryn Fôn yn 2015, cyn dychwelyd dwy flynedd yn ddiweddarach fel y prif fand. Yn eu cefnogi nhw, flwyddyn ar ôl llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Euro 216 oedd The Barry Horns

Candelas oedd yn cloi'r noson eto yn 2018. Mae Adwaith, oedd yn agor y noson, newydd chwarae am yr ail flwyddyn yn olynol yn Glastonbury. Dawns 2019 oedd yr olaf am ddwy flynedd oherwydd Covid

Y Cledrau gafodd y fraint o gloi'r noson yn y Ddawns gyntaf i gael ei chynnal ers y pandemig, a llynedd roedd y band newydd hip hop 3 Hwr Doeth ar y llwyfan cyn y perfformiwr profiadol Meinir Gwilym gloi'r noson