'Hanfodol' bod Theatr Ieuenctid yr Urdd yn dychwelyd
- Cyhoeddwyd
Mae ailsefydlu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi bod yn "hanfodol" er mwyn cynnig profiadau "amhrisiadwy" i bobl ifanc yn dilyn y pandemig.
Dyna farn y tîm cynhyrchu sy'n gyfrifol am sioe gyntaf y cwmni ers iddo ddod i ben dros dro yn 2019.
Yn sgil buddsoddiad o £1m gan Lywodraeth Cymru, mae 'na gynllun pum mlynedd bellach yn ei le i ddatblygu’r cwmni theatr, gafodd ei sefydlu yn wreiddiol yn ôl yn yr 1970au.
Bydd y cynhyrchiad newydd, 'Deffro'r Gwanwyn' gan Daf James, yn cael ei pherfformio nos Wener a nos Sadwrn yn Aberystwyth.
'Magu hyder'
Cafodd addasiad Cymraeg Daf James o sioe gerdd 'Spring Awakening' ei pherfformio gyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.
Wedi ei seilio ar ddrama Frank Wedekind, ysgrifennwyd y sioe gan Steven Sater a’r gerddoriaeth gan Duncan Sheik ar gyfer llwyfan Broadway yn 2006.
"Diffyg addysg rhyw yw gwreiddiau'r sioe - hwnna sy'n treiddio drwyddo yr holl amser," meddai Betsan, un aelod o'r cast.
"Dyna yw'r brif stori, ond mae rhywioldeb, pobl ddim yn cael eu derbyn yn y cyfnod maen nhw'n byw ynddi, a jyst bywyd pobl ifanc, penderfyniadau a dylanwad rhieni ac athrawon ar blant - 'sdim rhyddid gan bobl."
Ychwanegodd un arall o'r actorion, Siôn Emlyn: "[Mae 'na] lot o hwyl, lot o ganu, rebelio, ac mae bach yn anghyfforddus falle."
Yn ôl Branwen Davies, trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, mae'r cyfleoedd mae'r theatr yn eu cynnig i bobl ifanc Cymru'n "gallu newid bywydau".
"Nid pawb fydd yn actorion proffesiynol ar ddiwedd hwn, [ond] y bobl ifanc yna ydi dyfodol theatr Cymru," meddai.
"Mae hefyd yn rhoi profiadau cymdeithasu, profiadau magu hyder, ac mae hynny'n amhrisiadwy."
Ychwanegodd bod y cynhyrchiad newydd yn "gyfle i wyntyllu rhwystredigaeth y blynyddoedd cyfyngedig diwethaf, ond hefyd ystyried gobaith ar gyfer y dyfodol".
"Mae'n ymwneud a themâu sydd dal yn anghyfforddus i'w trafod ar brydiau, a hynny mewn modd gonest a miniog."
Dywedodd y cyfarwyddwr Angharad Lee eu bod wedi gorfod bod yn ofalus wrth ymdrin â phynciau sensitif oedd yn codi yn y perfformiad, gan ddweud bod un gân wedi "really effeithio arnyn nhw".
"Dim bod ni moyn wrapio nhw mewn cotton wool," meddai.
"Ond fel ni 'di bod yn edrych ar ôl nhw yn y moments 'na, mae hwnna wedi bod yn grêt."
'Gweld y problemau yma ers mor hir'
Ychwanegodd Betsan fod angen gwaith sy'n taclo'r pynciau anghyfforddus hynny.
"Ma' fe'n dorcalonnus i feddwl, er bod ni 'di gweld y problemau yma ers mor hir, bod dal dim byd yn cael ei wneud amdano fe," meddai.
"Ond fi'n credu bod hwnna'n rhan o pam mae e mor bwysig bod ni dal yn siarad am y pethau 'ma.
"Fi'n credu bod y ffaith bod y sioe 'ma yn 'neud hynny mor agored yn mynd i helpu lot o bobl ifanc i sylweddoli mae'n OK i ofyn y cwestiynau yma, maen nhw yn bethau pwysig a pherthnasol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2023
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023