Tata yn bygwth atal pecyn diswyddo os oes streic

TATA SteelworksFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gallai hanner y swyddi ar safle Tata ym Mhort Talbot ddiflannu dan gynlluniau'r cwmni

  • Cyhoeddwyd

Bydd Tata Steel yn atal pecyn diswyddo "sylweddol” os yw gweithwyr yn mynd ar streic.

Fe wnaeth y cwmni ysgrifennu at staff ar ôl i aelodau Unite bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol dros gynlluniau i dorri bron i 3,000 o swyddi.

Dywedodd y prif weithredwr, Rajesh Nair na fyddai'r "pecyn ariannol mwyaf ffafriol" sydd erioed wedi'i gynnig yn cael ei dalu pe bai staff yn streicio.

Dywedodd Unite na fyddai eu haelodau'n cael eu "dychryn" gan Tata.

Roedd yr undeb wedi cynnal pleidlais yng ngwaith dur Port Talbot ac ar safle Tata yn Llanwern ger Casnewydd.

Nid yw Unite wedi cyhoeddi dadansoddiad o'r bleidlais, ond dywedodd Mr Nair wrth staff fod 568 allan o 857 o aelodau'r undeb (66%) wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.

Roedd 1,366 o aelodau Unite wedi cael eu gwahodd i bleidleisio.

Cyfnod ymgynghori

Ar hyn o bryd mae Tata Steel mewn ymgynghoriad ffurfiol 45 diwrnod gydag undebau Unite, Community a GMB ynghylch y cynlluniau i ailstrwythuro'r cwmni.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cau'r ffwrneisi chwyth sy'n cynhyrchu haearn tawdd a gosod ffwrnais drydan sy'n toddi dur sgrap.

Dywedodd Mr Nair, prif weithredwr gwaith Tata Steel yn y Deyrnas Unedig, bod y cwmni "wedi cyflwyno pecyn cymorth cynhwysfawr sylweddol ar gyfer gweithwyr fyddai’n cael eu heffeithio” ac mae dyma’r “pecyn ariannol mwyaf ffafriol o gymorth y mae ein busnes erioed wedi'i gynnig," ond ei fod yn ddibynnol nad oes unrhyw streic.

Doedd gan Tata Steel ddim sylw pellach i'w ychwanegu pan ofynnodd BBC Cymru.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol Unite Cymru, Peter Hughes: "Mae Tata wedi ceisio popeth, o lwgrwobrwyon i fygythiadau, i annog ein haelodau i beidio â gweithredu’n ddiwydiannol."