Cymru 'angen pedair gwaith yn fwy o ffermydd gwynt'

Fferm wyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses o adeiladu prosiectau ynni gwynt yng Nghymru yn cael ei disgrifio fel un "araf"

  • Cyhoeddwyd

Mae angen pedair gwaith yn fwy o ffermydd ynni gwynt ar Gymru o fewn degawd, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd corff RenewableUK Cymru bod angen gweld "naid enfawr" os am gyrraedd targedau ynni gwyrdd.

Maen nhw'n disgrifio'r broses o adeiladu prosiectau newydd yng Nghymru fel un "araf", gan alw ar y llywodraeth i weithredu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei pholisïau a'i system gynllunio yn gefnogol iawn i ynni adnewyddadwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

2GW o ynni sy'n cael ei gynhyrchu gan fefrmydd gwynt Cymru ar hyn o bryd, ond mae potensial i hynny godi i 9GW mewn degawd

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi gosod targed o geisio ateb yr holl alw am drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Dweud y bydd y rhan helaeth o'r gofynion rheiny yn cael eu cyflenwi gan ffermydd gwynt ar dir ac allan yn y môr, mae'r adroddiad.

Mae'n edrych yn fanwl ar yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel "nifer sylweddol o brosiectau ar y gweill" ond sy'n wynebu heriau wrth gael eu cymeradwyo a'u hadeiladu.

Mae potensial i gynhyrchu 9GW o ynni o'r cynlluniau hyn dros y degawd nesaf, ond dim ond os bydd "cynllun cyflawni uchelgeisiol" yn cael ei roi ar waith nawr, meddai'r arbenigwyr.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru gwerth tua 2GW o brosiectau ynni gwynt sy'n gweithredu'n barod.

Un fferm wynt ers 2016

Cymrodd Llywodraeth Cymru reolaeth dros gydsynio cynlluniau ynni gwyrdd mawr - o dan ei threfn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) - yn 2016.

Ers hynny dim ond un fferm wynt ar y tir yn Ogwr Uchaf sydd wedi cael y golau gwyrdd - penderfyniad a gymrodd bron i ddwy flynedd - eglurodd yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion eisiau cwrdd â'r holl alw am drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035

Os ydy gweinidogion am gyrraedd eu targedau trydan eu hunain, mae angen ymdrech "feiddgar, gydweithredol" rhwng y llywodraeth a diwydiant "i fynd i'r afael â rhwystrau sylweddol", meddai.

Dywedodd cyfarwyddwr RenewableUK Cymru, Jess Hooper, bod datblygwyr wedi cael eu llesteirio ers blynyddoedd gan "system gynllunio anghyson sydd heb ddigon o adnoddau", yn ogystal â chysylltedd grid gwael.

"O ganlyniad, mae perygl bydd Cymru'n methu â chyrraedd ei hangenion cynhyrchu pŵer erbyn 2035," meddai, gan ychwanegu mai pŵer gwynt oedd "asgwrn cefn uchelgeisiau sero net Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gefnogol iawn i brosiectau adnewyddadwy sydd wedi'u cynllunio'n dda, sy'n bodloni ein gofynion polisi ac yn cyflawni er budd pobl yng Nghymru".

"Mae ein targedau newydd ac adroddiadau Grid Ynni Cymru y Dyfodol yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer ynni adnewyddadwy newydd a'r grid newydd sydd ei angen i'w cyflawni, a fydd angen gweithredu gan Lywodraeth y DU ac Ofgem.

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhwydweithiau i ddadflocio'r mater hwn a sicrhau bod cynlluniau ar gyfer grid newydd yn sicrhau gwerth uchel ac effaith isel i bobl yng Nghymru."