Tafwyl yn 18: 'Adlewyrchu twf y Gymraeg yng Nghaerdydd'

Tafwyl yn y castellFfynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Ail gartref Tafwyl oedd Castell Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ŵyl Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn 18 dywed pennaeth Menter Caerdydd fod esblygiad yr ŵyl yn “adlewyrchu twf y Gymraeg o fewn y ddinas”.

Mae'r ŵyl yn denu dros 30,000 o ymwelwyr i Barc Bute yng Nghaerdydd am benwythnos bob haf ac wedi "tyfu o nerth i nerth".

Symudodd Tafwyl o’i safle gwreiddiol yn nhafarn y Mochyn Du ar ôl i'r heddlu ddod i'r ŵyl o dan yr argraff ei bod yn “rave”, yn ôl y trefnwyr.

“O’n ni just yn disgwyl rhyw 500, ond daeth 3,000 o bobl. Daeth yr heddlu i weld beth oedd yn digwydd gan ofyn os oedd rhyw rave yn mynd ‘mlaen,” medd Prif Swyddog Tafwyl Leanne Rochefort-Shugar.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Nhafarn y Mochyn Du, Pontcanna, y treuliodd Tafwyl ei blynyddoedd cynnar

“O’dd e’n wahanol iawn, iawn ar y cychwyn yn 2006,” medd Leanne Rochefort-Shugar, fu’n rhan o drefnu rhai o’r gwyliau cyntaf ac sydd bellach yn Brif Swyddog Tafwyl.

“Y bwriad i ddechrau oedd just rhoi llwyfan i blant ysgolion cynradd, bandiau, a masnachwyr Cymraeg... fel mini, mini Eisteddfod.”

Erbyn 2011 roedd yr ŵyl wedi “gordyfu’r safle,” meddai, gyda miloedd yn heidio yno.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o Gymry Cymraeg y ddinas yn mynychu'r ŵyl yn y Mochyn Du

“Daeth yr heddlu – o'n nhw’n hyfryd! O’n nhw fel, ‘beth sy’n mynd ‘mlaen fan hyn?’”

“O’dd lot o draffig tu fas, just loads o bobl... o’dd e’n amser i symud.”

Symudodd Tafwyl i Gastell Caerdydd fel rhan o ŵyl haf y ddinas yn 2012, cyn symud i safle mwy eto ym Mharc Bute yn 2023 – lle mae disgwyl 35,000 o ymwelwyr dros y penwythnos.

Dywed Leanne: “Bydden i byth ‘di meddwl o 500 o bobl mewn maes parcio, i dyfu i fod y maint ma’ fe nawr.”

'Ysgolion wedi perchnogi'r ŵyl'

Ffynhonnell y llun, TAFWYL
Disgrifiad o’r llun,

Mae twf addysg Gymraeg yn y ddinas wedi cyfrannu at esblygiad Tafwyl, medd y trefnwyr

Roedd y ddarpariaeth i blant Caerdydd yn rhan fawr o’r gwyliau cynnar – ac un fu’n ran ohoni oedd Martyn Geraint, cyn-gyflwynydd rhaglenni plant S4C.

“’Na beth ‘dw i'n cofio yw pa mor fach o’dd e, a pha mor anodd oedd e i ga’l lle i barcio!

“Achos er oedd y lleoliad yn fach, roedd cannoedd o bobl yn dod – roedd diddordeb mawr gan Gymry Cymraeg Caerdydd mewn cael gŵyl debyg.”

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tafwyl ei chynnal yn rhithiol yn 2020 a 2021, gyda'r arlwy wedi'i ddarlledu o Gastell Caerdydd

“Mae’r ffaith bod Tafwyl yn bodoli, bod Parti Ponty yn dal i fynd, bod y ‘Steddfod yn dod i Rhondda Cynon Taf nawr – mae'n dangos bod yr iaith yn fyw ac yn cryfhau yn y de ddwyrain."

Mae'r berthynas ag ysgolion y brifddinas wedi bod yn allweddol i esblygiad yr ŵyl, cytuna Prif Weithredwr Menter Caerdydd, sy'n trefnu Tafwyl.

"Dyna yw cyfrinach Tafwyl... mae'r ysgolion wedi perchnogi'r ŵyl, a fel mae addysg Gymraeg wedi tyfu yn y ddinas, mae Tafwyl wedi tyfu i adlewyrchu hynny," esbonia Heulyn Rees.

'Yr un yw'r bwriad'

Mae sawl elfen newydd i'r ŵyl eleni, gan gynnwys ardaloedd gwerin a choginio, arwyddo BSL ar y prif lwyfan, ardal weddïo ac ardal dawel, a llwyfannau mwy o faint.

Cafodd noson o adloniant 'Tafwener' hefyd ei chynnal i nodi ei phen-blwydd yn 18 oed.

Yn ôl Mr Rees, does dim dewis ond parhau i ddatblygu’r ŵyl bob blwyddyn.

“Mae unrhyw ŵyl sy’n aros yn yr unfan yn ŵyl sy’n marw ar ei thraed."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r ŵyl am barhau i fod yn "berthnasol ac yn ffres," medd Mr Rees

Fodd bynnag, bron i ddau degawd ers ei sefydlu, mae 'na rai pethau sydd heb eu newid:

“Mae bwriad ac amcanion Tafwyl wedi aros yr un peth," meddai, "sef dathlu diwylliant Cymraeg Caerdydd, ac adlewyrchu bywyd Cymraeg Caerdydd".

“Byddai Caerdydd yn ddinas tipyn tlotach heb Tafwyl yn ganolog o fewn y brifddinas.”