Dros draean poblogaeth Cymru'n ordew - ymchwil newydd
- Cyhoeddwyd
Sylweddolodd Chris Shaw fod angen iddo addasu ei fywyd pan ddechreuodd ei bwysau effeithio ar ei waith fel athro Saesneg yn Ysgol Bryntawe ger Abertawe.
"Roedd fy 'stafell ddosbarth i ar lawr ucha'r ysgol... felly o'n i'n cerdded o'r llawr gwaelod i'r llawr top ac am 10 munud bydden i ddim yn gallu siarad â neb achos o'n i mas o anadl," meddai.
"Fe ges i syndod am y pwyse achos oeddwn i yn rhyw 24 stôn - o'dd e'n sioc fawr i mi."
Dwy flynedd yn ôl, fel adduned flwyddyn newydd, penderfynodd Chris y byddai'n ceisio colli pwysau.
Aeth ati i ymuno a thîm pêl-droed ar gyfer dynion sydd dros eu pwysau. Tîm sy'n cael ei redeg gan y mudiad Man v Fat.
'Real - Lettuce' yw enw'r tîm.
"Des i i ddechre mas o ddiddordeb i weld shwd beth oedd e... ond tuag at ffitrwydd a cholli pwyse.
"Fi rili wedi esblygu ers hynny ac mae 'di bod yn bleser bod yn rhan o'r siwrne 'ny.
"Fi nawr wedi colli bron i 10 stôn a ma’ hynny wedi galluogi i fi redeg hanner marathon Abertawe a Chaerdydd y llynedd.
"Fydde hynny ddim wedi bod yn bosib heb gefnogaeth y tîm ac wrth gwrs yr hunan-ddisgyblaeth sydd ei angen."
Colli pwysau er budd y tîm
Mae'r timau pêl-droed yn ceisio ysgogi dynion i fyw bywydau iachach drwy eu hannog nhw i gystadlu yn yr ystafell newid yn ogystal ag ar y cae.
Cyn dechrau chwarae'r gemau wythnosol mae'r chwaraewyr yn cael eu pwyso.
Os yw un tîm wedi cyrraedd targedau penodol neu wedi colli mwy o bwysau na'u gwrthwynebwyr, maen nhw'n cael eu gwobrwyo â phwyntiau.
Mae pwyntiau hefyd yn cael eu rhoi am y goliau sy'n cael eu sgorio yn ystod y gêm.
Ac mae safle'r tîm yn y gynghrair yn dibynnu ar gyfanswm y ddau fath o bwyntiau.
Felly mae'r aelodau yn ceisio colli pwysau, nid yn unig er eu lles nhw eu hunain ond hefyd er budd gweddill y tîm.
Yn ôl Hywel Pugh, sydd hefyd yn athro yn Ysgol Bryntawe ac un o hyfforddwyr Man v Fat – ma’ rhai dynion yn fwy cyfforddus yn ceisio colli pwysau fel hyn yn hytrach na mynychu dosbarthiadau colli pwysau traddodiadol.
"Maen nhw moyn sicrhau bod nhw [y tîm] yn cael wythnos well na'r wythnos o'r blaen," meddai.
"Felly maen nhw'n edrych ar eu deiet, edrych ar y calorïau a'r math o fwyd maen nhw'n ei fwyta.
"Gallen nhw fynd i gael eu pwyso mewn dosbarth, ond dydyn nhw ddim wedyn yn cael gymaint o glod.
"Felly os ydyn nhw'n gallu cael gêm o bêl-droed, chwarae gyda ffrindie a gwneud ffrindie newydd, ma’ hynny hefyd yn cynorthwyo iechyd meddwl y person."
Mwy yn ordew nag oedd wedi'i ofni
Mae lefelau gordewdra yng Nghymru wedi dyblu dros y 30 mlynedd diwethaf.
Ond fe allai maint yr argyfwng fod yn llawer gwaeth na'r hyn oedd wedi'i ofni, yn ôl ymchwil newydd.
Ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru sy'n ordew yn ôl y ffigyrau swyddogol, ond mae astudiaeth gan elusen arloesi Nesta yn awgrymu bod y gwir ffigwr yn fwy na thraean (34%).
Gallai hyn olygu bod 200,000 o oedolion ychwanegol yng Nghymru yn ordew mewn gwirionedd, sy'n golygu y byddai gan Gymru'r gyfradd ordewdra uchaf o unrhyw genedl yn y DU.
"'Naethon ni edrych ar ordewdra yng Nghymru oherwydd mae'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r data yn wahanol i Loegr a'r Alban," medd Sara Elias, ymgynghorydd polisi i Nesta.
"Yng Nghymru mae'r data yn gwbl seiliedig ar bobl yn hunan-adrodd ac yn mesur eu pwysau a'u taldra eu hunain."
Ond mae nifer o astudiaethau yn awgrymu fod dynion yn tueddu i or-adrodd eu taldra a menywod yn tueddu i dan-adrodd eu pwysau.
Yn Lloegr a'r Alban mae'r ffigurau'n cael eu haddasu ar ôl eu casglu i ystyried hyn.
"Mae lefelau gordewdra yn neidio o 26% i 34% os y'ch chi'n cywiro'r data yng Nghymru," medd Sara.
"Mae gordewdra yn broblem ddifrifol ac yn cynyddu'r risg o gael diabetes math 2, afiechydon cardiofasgiwlar a rhai mathau o ganser - felly mae'n rhywbeth y'n ni am weld y llywodraeth yn canolbwyntio arno."
'£19bn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd'
Er bod yr elusen yn croesawu rhai o bolisïau Llywodraeth Cymru - fel y nod o gyflwyno deddf newydd i gyfyngu ar hyrwyddo a chynnig bargeinion ar fwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen - mae Nesta yn galw am weithredu mwy pellgyrhaeddol, er enghraifft gosod targedau iechyd ar gyfer siopau mawr ac archfarchnadoedd.
Yn y cyfamser mae Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn dweud bod mynd i'r afael â chyfraddau gordewdra uchel – sy'n costio tua £19bn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd ar draws y DU - yn un o'i thair prif flaenoriaeth.
"Ma' hwn yn broblem i'r wlad i gyd. Mae 60% o bobl dros eu pwysau," meddai.
"Mae'r ffordd ma' cyllid [y gwasanaeth iechyd] yn mynd i orfod cynyddu i ddelio â hynny yn mynd i olygu y bydd y system [yn y pendraw] ddim yn gynaliadwy.
"Mae cyfrifoldeb arnon ni gyd ac rydym ni fel llywodraeth yn mynd i sefyll gyda'r boblogaeth i helpu."
Mae ymchwil Nesta yn awgrymu fod cyfradd gordewdra ymhlith oedolion yng Nghymru - o'i gywiro i 34% - yn uwch na Lloegr (26%), yr Alban (29%) a Gogledd Iwerddon (27%).
Mae'r ystadegau swyddogol eisoes yn dangos fod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, sy'n seiliedig ar fesuriadau proffesiynol, yn uwch na gweddill y DU.
Mae'r dietegydd Gwawr James yn poeni'n arw am hynny.
"Fydd y plant yma ddim yn tyfu fyny i fod yn oedolion iach, a dyna'r byrdwn sydd yn mynd i fod ar y gwasanaeth iechyd ni," meddai.
"Y'n ni'n barod yn gweld plant a phobl ifanc â diabetes math 2.
"Oeddan ni'n draddodiadol yn ei weld mewn dynion canol oed oherwydd eu deiet.
"Ond o'i weld mewn plant mor ifanc â 10 ac 11 oed - meddyliwch am yr effaith arnyn nhw ac ar y gwasanaeth iechyd drwy gydol eu hoes nhw."
'Her anferth i ysgolion'
Ar ôl trawsnewid ei fywyd ei hun drwy golli pwysau yn chwarae pêl-droed, fel athro mae Chris Shaw hefyd yn cytuno fod angen targedu'r genhedlaeth iau.
"Mae'n her anferth i ni fel ysgolion o ran y ddarpariaeth y'n ni'n ei roi i bobl ifanc," meddai.
"Bellach yn ein hysgol ni, y'n ni'n ffodus i gael gwersi iechyd a lles lle mae'r ffocws nid yn unig ar ymarfer corff ond hefyd ar ddeiet - a fel mae'r ddau'n cyfuno i greu person iachus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023