'Angen cefnogi cymdeithasau Cymraeg tramor'
- Cyhoeddwyd
"Pwysigrwydd cefnogi cymdeithasau Cymraeg tramor" fydd prif neges Esyllt Nest Roberts de Lewis, arweinydd Cymru a'r Byd ym Mhrifwyl Llŷn ac Eifionydd.
Nos Sul fe fydd hi'n cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar ddechrau Cymanfa Ganu'r Eisteddfod yn y Pafiliwn Mawr.
Daw Esyllt yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli, ond mae wedi byw ym Mhatagonia ers 2004.
"Mae'r holl gymdeithasau Cymraeg sy'n bodoli tramor yn cynnal y Gymraeg ac yn dod â ni at ein gilydd.
"Dan ni'n diolch am bob cefnogaeth ac mae'r gefnogaeth yna mor bwysig ag erioed," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
Yn y gorffennol mae rhai wedi dadlau y dylai cymdeithasau Cymraeg tramor fod yn rhan o darged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Yn sicr maen nhw'n sicrhau parhad y Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. Mae mor braf i ni sy'n byw tramor i fod yn rhan o gymdeithas o'r fath."
Doedd hi ddim yn fwriad gan Esyllt dreulio cyfnod hir yn Y Wladfa ond mae'n dweud ei bod wedi gwerthfawrogi'r profiad yn fawr.
"Mynd yno am flwyddyn 'nes i fel athrawes ar Gynllun yr Iaith Gymraeg yn 2004 a dwi dal yna bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach.
"Fues i'n ffodus i gyfarfod Cristian, 'naethon ni briodi ac mae gynnon ni ddau fab - Mabon, 16, ac Idris, 14.
"Cymraeg 'di iaith y cartref - dwi'n athrawes Gymraeg yn y Gaiman ac yn mwynhau dysgu plant i lefaru a llenydda yn eisteddfodau'r Wladfa a thrwy hynny cynnal y diwylliant Cymreig."
Dyw eisteddfota ddim yn brofiad dieithr i Esyllt - mae hi'n gyn-enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa.
Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth am y Wladfa mewn cyhoeddiadau yng Nghymru a hefyd yn athrawes telyn, yn gyfieithydd a golygydd.
Yn ddiweddar fe'i hetholwyd ar bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin, sy'n cynnal cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, ac mae'n hynod ddiolchgar am waith y gymdeithas yn cefnogi'r Gwladfawyr.
"Roedd cael fy newis yn arweinydd Cymru a'r Byd eleni yn sioc braidd ond dwi wrth fy modd a bod nôl adre' wrth gwrs," ychwanegodd.
"Dwi'n cofio bod yn hogan fach yn gwylio seremoni y Cymry ar Wasgar a gweld y bobl 'ma ar draws y byd yn codi dwylo ac yn camu i'r llwyfan.
"Roedd e'n wefreiddiol yn doedd? Faswn i ddim wedi meddwl yr adeg honno y buaswn i'n un ohonyn nhw wrth gwrs."
Ychwanega Esyllt ei bod wrth ei bodd yn cael dychwelyd i Gymru a bod y meibion hefyd wrth eu boddau.
"Dwi'm yn gwybod pryd 'nawn ni symud yn ôl - does yna ddim cynlluniau gennym ar hyn o bryd gan fod y bechgyn yn yr ysgol uwchradd.
"Ond pwy a ŵyr? Doeddwn i ddim wedi bwriadu aros yma yn y lle cyntaf!"
Yn ddiweddar roedd yna rai pryderon bod llai yn teithio i Batagonia ond dywed Esyllt nad yw hynny'n amlwg, er bod y pandemig wedi effeithio ar ymweliadau.
"Mae 'na wastad bobl o Gymru yn dod yma a 'dan ni wrth ein bodd gyda hynny - mae'n freuddwyd i gymaint o bobl. Mae 'na groeso twymgalon yma o hyd i unrhyw ymwelydd."
Dywedodd hefyd ei bod yn falch bod yna athrawon newydd ar eu ffordd yno - ac y byddan nhw fel hithau yn cael profiad arbennig, "profiad a fydd yn eu haeddfedu ac yn agor eu meddyliau".
Cofio Leila Megàne
Pat Jones o Chwilog fydd yn arwain y Gymanfa nos Sul a bydd cryn sylw i'r gantores opera o Ben Llŷn, Leila Megàne.
Cafodd Margaret Jones, ei henw gwreiddiol, ei haddysg gynnar ym Mhwllheli ac wedi gyrfa lwyddiannus fel cantores opera ar draws Ewrop ac America, dychwelodd i fyw ym Mhen Llŷn cyn iddi farw yn 1960.
Nos Sul bydd Côr y Gymanfa yn canu trefniannau newydd o'i chaneuon 'Gwlad y delyn', 'Bwthyn bach to gwellt', 'Pistyll y Llan', 'Nefoedd' a 'Dafydd y Garreg Wen'.
Ilid Anne Jones, awdur traethawd ymchwil ar waith Leila Megàne, sydd wedi paratoi'r trefniannau a hi fydd yr organydd yn y Gymanfa.
"Mae cyfraniad Leila Megàne yn andros o helaeth i'r diwylliant Cymreig," meddai.
"Mae wedi canu caneuon Cymreig ar lwyfannau mwya'r byd ac mi oedd yn briod â'r cyfansoddwr Thomas Osborne Roberts gan ei ysgogi i gyfansoddi a threfnu unawdau ar ei chyfer."
Fe ganodd Leila Megàne yng nghyngerdd mawr Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1925 - un o ddarllediadau cyntaf y BBC yng Nghymru ond doedd dim nodyn o'i llais ar y darllediad gan fod cymal yn ei chytundeb yn gwahardd darlledu ei llais.
Ym mhabell Encore nos Sul bydd digwyddiad i goffáu y telynor Osian Ellis ac ar Lwyfan y Maes ddydd Sul cyfle i weld y Moniars, Bob Delyn a'r Ebillion a Bwncath ymhlith artistiaid eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2022