Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo wedi ffrae am gasglu biniau

Biniau llawn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd deiseb yn erbyn newidiadau i gasgliadau biniau ei harwyddo gan dros 3,300 o bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo yn sgil ymateb chwyrn i gynlluniau casglu gwastraff yn yr ardal.

Fe wnaeth yr awdurdod lleol gyhoeddi y byddai Ian Roberts o’r Blaid Lafur yn gadael ei swydd wedi ychydig dros bum mlynedd yn y rôl.

Mae'n dilyn gwrthwynebiad eang i'r newid arfaethedig gan y cyngor - sydd dan arweiniad Llafur - i gasglu biniau bob tair wythnos yn lle bob pythefnos.

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint y byddai'r dirprwy arweinwyr Dave Hughes a Christine Jones yn ymgymryd â'i rôl dros dro.

Mae disgwyl y bydd y drefn newydd o ran casgliadau yn cael ei gyflwyno, gydag amserlenni i'w cyhoeddi'n ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Roberts wedi ymddiswyddo o'i rôl fel arweinydd Cyngor Sir y Fflint

Mewn datganiad yn cadarnhau ymddiswyddiad y Cynghorydd Roberts, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Cadarnhawyd bod arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo ar unwaith.

“Bydd yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd dros ward Castell y Fflint."

Cafodd deiseb yn erbyn newidiadau i gasgliadau biniau ei harwyddo gan dros 3,300 o bobl cyn i bwyllgor craffu’r amgylchedd a’r economi gyfarfod ddydd Mawrth.

Daeth ar ôl i bryderon godi y byddai pentyrrau mawr o sbwriel yn cael eu gadael ar y strydoedd, gan achosi problemau gyda drewdod a llygod mawr.

'Iaith y ddadl yn peri pryder'

Wrth drafod ymateb y cyhoedd i'r newidiadau mewn cyfarfod craffu ddydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yr "iaith a ddefnyddiwyd yn ystod y ddadl hon yn peri pryder mawr".

Dywedodd fod rhywun wedi bygwth bywyd un swyddog.

“Fel aelodau ar draws y siambr hon, ni ddylem fod yn bwydo’r tân yma ymhellach,” meddai.

“Nid yw’r cynnig hwn am newid bywyd.”

Cafodd y Cynghorydd Roberts ei benodi'n arweinydd y cyngor yn wreiddiol ym mis Ebrill 2019, gan olynu Aaron Shotton.

Mae'r Cynghorydd Roberts a'r grŵp Llafur wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig