Problemau casglu gwastraff Sir Ddinbych yn parhau

Suzan BarzioFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzan Barzio yn poeni y gall llygod mawr gael eu denu os yw'r biniau'n cael eu gadael am gyfnodau hir

  • Cyhoeddwyd

Tair wythnos ers cyflwyno trefn newydd o gasglu gwastraff ailgylchu yn Sir Ddinbych, mae nifer o bobl yn dal i aros i'r cyngor gasglu eu gwastraff.

Fe ddechreuodd casgliadau wythnosol o finiau ailgylchu - sy'n gofyn i bobl rannu eu gwastraff i focsys gwahanol - ar 3 Mehefin, ond ni chafodd miloedd o finiau eu casglu.

Fe ymddiheurodd Prif Weithredwr y cyngor sir, Graham Boase ar y pryd, gan nodi fod mwy o wastraff wedi cael ei gasglu na'r disgwyl.

Ychwanegodd fod cerbydau gwastraff "wedi llenwi'n gynt na'r disgwyl, sy'n golygu eu bod nhw wedi gorfod mynd yn ôl i'r ganolfan i wagio'r cerbyd cyn mynd allan eto".

Dywedodd Susan Burzio o Brestatyn, ei bod hi wedi gofyn i lori finiau i fynd â'i gwastraff bwyd wedi tair wythnos o aros, a hynny er gwaetha'r ffaith ei bod hi wedi ceisio cysylltu'n uniongyrchol â'r cyngor.

"Doedd y lori ddim yn casglu gwastraff ailgylchu, dim ond y biniau du, ond yn ffodus i mi, roedden nhw'n cydymdeimlo ac roedden nhw'n fodlon mynd â'r gwastraff bwyd," meddai.

Mae gan Ms Burzio bryderon am hylendid os yw gwastraff yn cael ei adael am gyhyd heb gael ei gasglu.

"Rownd y gornel, ma' 'na bobl yn dweud eu bod nhw wedi gweld llygod mawr. Mae'r tywydd yn poethi, ac mae hynny'n gwneud yr arogl a'r broblem gyda fermin yn waeth.

"Do'n i ddim eisiau edrych yn y bag heddiw, nes i droi'r bin drosodd a gofyn i'r gŵr ei lanhau achos roedd yr arogl yn ddigon i mi. Dwi'n siŵr bod cynrhon a phob math o bethau yn casglu yn y biniau 'ma, mae'n afiach."

Disgrifiad o’r llun,

'Mae cwestiynau anodd angen cael eu gofyn i'r cyngor,' medd Jacob Riddle

Mae Jacob Riddle o Alltmelyd wedi llunio deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i sut y mae'r drefn newydd wedi ei chyflwyno.

Hyd yma mae dros 600 o bobl wedi arwyddo'r ddogfen.

Galw am ymchwiliad

"Mae'n rhaid i ni 'neud mwy i amddiffyn yr amgylchedd, ac mae'r cynllun yma yn syniad da, ond mae'n rhaid i ni edrych ar yr hyn sydd wedi mynd o'i le er mwyn sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto," meddai.

"Mae cwestiynau anodd angen cael eu gofyn i'r cyngor.

"Yr hyn dwi eisiau ei weld yw ymchwiliad i'r hyn sydd wedi mynd o'i le er mwyn deall pam fod y gwaith rheoli o fewn y cyngor wedi methu."

Eglurodd nad yw'r trigolion yn rhoi bai ar y rhai sy'n casglu'r gwastraff: "Dyw hyn yn bendant ddim yn ymosodiad ar y casglwyr eu hunain, y system sydd wedi torri yn rhywle."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn Sir Ddinbych bellach yn gorfod rhannu eu gwastraff ailgylchu mewn bocsys gwahanol

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi symud aelodau o staff o adrannau eraill er mwyn cefnogi casglwyr gwastraff rheng flaen.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd y Prif Weithredwr Graham Boase: "Y rheswm ein bod ni wedi methu rhai casgliadau yw bod y drefn newydd yn cymryd mwy o amser i'w chwblhau nag yr oedden ni wedi ei ddisgwyl.

"Mae hynny yn rhannol o ganlyniad i'r ffaith fod trigolion bellach yn ailgylchu mwy".

Mae nifer o bobl wedi mynegi rhwystredigaeth gyda'r system newydd ar-lein, gyda rhai yn ei disgrifio fel "jôc" gan alw ar y cyngor i weithredu.

Pynciau cysylltiedig